Angen Help?
Eisteddodd dyn hŷn yn ei ystafell fyw, wedi'i wisgo mewn crys melyn a chardigan glas, yn edrych i'r camera gyda mynegiant niwtral. // Older man sat down in his living room, dressed in a yellow shirt and blue cardigan, looking into the camera with a neutral expression.

Y Comisiynydd Pobl Hŷn yn ymateb i adroddiad newydd sy’n tynnu sylw at effaith profiadau niweidiol ar iechyd a llesiant pobl hŷn

i mewn Newyddion

Y Comisiynydd Pobl Hŷn yn ymateb i adroddiad newydd sy’n tynnu sylw at effaith profiadau niweidiol ar iechyd a llesiant pobl hŷn

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys rhagor o dystiolaeth bwysig sy’n dangos bod cysylltiad rhwng profiadau niweidiol a chanlyniadau iechyd gwaeth ymysg pobl hŷn.

“Mae’n destun pryder mawr felly bod dros hanner yr unigolion a oedd yn rhan o’r arolygiad wedi wynebu profiadau niweidiol ers troi’n 60 oed, gan gynnwys gwahanol fathau o gam-drin, cael eu hallgáu o wasanaethau, unigrwydd ac ynysu cymdeithasol, trafferthion ariannol, a chael eu llethu gan gyfrifoldebau gofalu.

“Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod cael un profiad niweidiol yn eich gwneud yn fwy tebygol o brofi un, neu sawl profiad niweidiol arall, gan greu risg mwy byth i iechyd, llesiant ac ansawdd bywyd pobl hŷn.

“Mae canfyddiadau’r adroddiad yn atgyfnerthu’r ffaith bod angen i lunwyr polisïau, a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gydnabod yr effaith sylweddol y mae profiadau niweidiol yn ei chael ar ansawdd bywyd unigolion. Yn ogystal â chydnabod y pwysau, y gellir eu hosgoi, y mae’r profiadau hyn yn eu creu mewn gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, a chymryd camau gweithredu i atal y rhain rhag digwydd lle bo modd.

“Bydd hyn yn cefnogi’r gwaith o gyflawni’r agenda iechyd ataliol yng Nghymru, ac yn bwysicach byth, bydd yn helpu i sicrhau bod pobl hŷn gallu byw bywydau diogel, iach ac annibynnol.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges