Angen Help?
Photo of Local buses operated in the old bus station in Merthry Tydfil town centre

Y Comisiynydd yn croesawu Craffu ar Fil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

i mewn Newyddion

Y Comisiynydd yn croesawu Craffu ar Fil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

Mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau bysiau, yn aml yn hanfodol er mwyn galluogi pobl hŷn i aros yn annibynnol a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Felly, mae’n bwysig bod Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn cyflawni’r newidiadau sydd eu hangen i wella argaeledd, amlder, dibynadwyedd a hygyrchedd, a’i fod yn rhoi cyfleoedd ystyrlon i deithwyr o bob oed siapio’r gwasanaethau yn eu cymunedau.

“Felly, rwy’n croesawu’r adroddiad craffu gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, sy’n cynnwys argymhellion ar sut gellid gwella’r Bil ar sail amrywiaeth eang o dystiolaeth, gan gynnwys tystiolaeth gennyf i.

“Rwy’n falch o weld galwadau i ddiwygio’r Bil a chreu gofyniad penodol i ymgynghori â grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli – gan gynnwys pobl hŷn – wrth ddatblygu Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru gan ei bod yn hanfodol bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed fel defnyddwyr allweddol gwasanaethau bysiau.

Rwyf hefyd yn croesawu argymhellion yr adroddiad sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod yr holl wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, yn ogystal â data perfformiad, ar gael mewn fformatau hygyrch, gan gynnwys fformatau nad ydynt yn ddigidol. Mae allgáu digidol yn dal yn broblem fawr i lawer o bobl hŷn, felly mae’n bwysig bod y rheini nad ydynt ar-lein yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw.

“Gobeithiaf y caiff diwygiadau eu gwneud i’r Bil sy’n adlewyrchu’r newidiadau y mae’r Pwyllgor yn galw amdanynt, ac edrychaf ymlaen at wneud mwy o graffu ar ei gynnwys. Byddaf yn dilyn yn agos y ddadl ar adroddiad a chanllawiau’r Pwyllgor pan fydd y Senedd yn dychwelyd o’r egwyl haf.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges