‘Testun pryder mawr’ y bydd y Polisi Taliadau Tanwydd Gaeaf yn gwthio hyd at 100,000 o bobl hŷn i dlodi
Yn ôl Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’n destun pryder mawr y bydd y penderfyniad i gynnal prawf modd ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf yn golygu y bydd 50,000 o bobl hŷn yn cael eu gwthio i dlodi ar unwaith, gyda’r ffigur hwn yn codi i 100,000 o fewn dim ond ychydig flynyddoedd, fel y cadarnhawyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau.
“Efallai mai’r hyn sy’n peri mwy o bryder yw’r ffaith bod y llywodraeth wedi penderfynu gweithredu’r polisi hwn gan wybod yr effaith y byddai’n ei chael ar bobl hŷn ac anwybyddu rhybuddion clir am y niwed y byddai’n ei achosi.
“Rydym yn gwybod am effaith tlodi ar iechyd a llesiant pobl, rhywbeth sy’n gallu mynd yn fwy difrifol wrth i ni heneiddio.
“Ond yn fwy na hynny, rhaid i ni beidio ag anghofio beth mae tlodi’n ei olygu mewn gwirionedd o ran bywydau pobl hŷn o ddydd i ddydd.
“Mae’n golygu byw mewn cartref oer a gwario llai ar hanfodion. Mae’n golygu mynd heb brydau bwyd a gorfod dibynnu ar fanciau bwyd. Ac mae’n golygu methu â fforddio gwneud y pethau sy’n bwysig, y pethau mae pobl yn eu mwynhau, gan gynyddu’r risg o unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.
“Mae’r holl faterion hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl hŷn angen gofal a chymorth, gan ychwanegu costau a phwysau y gellir eu hosgoi ar wasanaethau cyhoeddus sydd eisoes dan bwysau.
“Mae’r tywydd oer diweddar wedi ein hatgoffa pam ei bod yn bwysig ein bod yn gallu gwresogi ein cartrefi a chadw’n gynnes. Felly, mae’n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn ymateb i alwadau am weithredu i liniaru effaith y polisi hwn – drwy ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i’r rheini sydd mewn perygl o gael eu gwthio i dlodi neu eu gwthio ymhellach i dlodi, er enghraifft – fel nad yw’r ffigurau damniol hyn, a’r hyn maen nhw’n ei gynrychioli, yn dod yn wir.”