“Mae presgripsiynu cymdeithasol yn hanfodol i gyflawni’r agenda atal yng Nghymru… ‘Park life’!”
Yn gynharach yr wythnos hon, cefais gyfle i fynd i ddigwyddiad Parkrun Wales yn y Senedd i ddathlu pawb sydd wedi helpu i’w wneud yn gymaint o lwyddiant ers dod i Gymru yn 2008 – y cyfranogwyr, y cydlynwyr, y cyfarwyddwyr rasys ac – yn bwysicaf oll – y gwirfoddolwyr.
Mae Parkrun wedi tyfu’n sylweddol ers dod i Gymru ac erbyn hyn mae dros 300,000 o aelodau cofrestredig yn cael eu cefnogi gan dros 1,200 o wirfoddolwyr bob wythnos.
Mae 88 o lwybrau rhedeg wedi cael eu sefydlu ym mhob cwr o Gymru erbyn hyn, gyda’r uchelgais o gynyddu hyn i dros 100, er mwyn i bawb gael cyfle i fwynhau Parkrun yn eu cymunedau, p’un a ydyn nhw’n rhedeg neu’n cerdded, yn gwirfoddoli neu’n gwylio.
Dywedodd y bobl hŷn y siaradais â nhw yn y digwyddiad fod rhedeg gyda Parkrun wedi rhoi ymdeimlad gwych o gyflawniad iddyn nhw, yn ogystal â gwella eu hiechyd a’u llesiant – yn enwedig i un fenyw a oedd wedi dychwelyd i’w grŵp Parkrun lleol ar ôl cael rheolydd calon. Dywedon nhw hefyd fod Parkrun yn groesawgar i bobl o bob oed, a’i fod yn wirioneddol hygyrch a chynhwysol.
Mae’n debyg mai dyna pam mae nifer y bobl 70 oed a hŷn sydd wedi cofrestru gyda Parkrun Global wedi cynyddu mor gyflym ym mhedwar ban byd.
Roedd ymroddiad ac ymrwymiad aruthrol gwirfoddolwyr Parkrun yn amlwg – llawer ohonynt yn bobl hŷn. Mae eu gwaith caled nhw’n sicrhau bod digwyddiadau’n gallu cael eu cynnal o un wythnos i’r llall i gefnogi’r holl redwyr, p’un a ydyn nhw yno i gyfranogi ac i gymdeithasu, neu i geisio curo eu hamser cyflymaf.
Dywedodd un o drefnwyr y digwyddiad fod Parkrun, ochr yn ochr â gwella iechyd corfforol a meddyliol, yn ymwneud â ‘chysylltu, perthyn a chreu cymunedau hapusach, iachach a chysylltiedig’ a daeth hyn i’r amlwg yn y sgyrsiau a gefais ar y diwrnod.
Wrth i Parkrun ddod yn fwyfwy cyffredin mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru, felly hefyd y partneriaethau a’r cydweithrediadau gyda grwpiau a sefydliadau yn y cymunedau hynny. Roedd yn ddiddorol iawn dysgu mwy am ychydig o’r gwaith arloesol hwn yn ystod y digwyddiad.
Er enghraifft, dim ond yng Nghymru y mae Parkrun yn cydweithio â byrddau iechyd (Aneurin Bevan a Chaerdydd a’r Fro), gan annog cyfranogiad ymysg staff gyda’r nod o gefnogi llwybrau i gleifion.
Mae cynllun tebyg i gydweithio â gweithle hefyd yn cael ei ddatblygu gyda Chyngor Caerdydd, ac mae partneriaeth ‘Parkrun Practices’ â Choleg Brenhinol y Meddygon Teulu yn annog meddygfeydd teulu i gysylltu cleifion â digwyddiadau lleol.
Ceir partneriaethau hefyd â mudiadau trydydd sector – gan gynnwys Mind, Macmillan Cancer, Alzheimer’s Society, Diabetes, Asthma a Lung UK (Cymru) – i godi ymwybyddiaeth o faterion allweddol a chyfeirio cyfranogwyr at wybodaeth a chymorth os bydd eu hangen arnynt.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn y Senedd yn ystod yr un wythnos â Diwrnod Cenedlaethol Presgripsiynu Cymdeithasol, sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd gweithgareddau yn y gymuned i gefnogi iechyd a llesiant pobl y tu hwnt i ofal meddygol traddodiadol.
Ac roedd hi’n hawdd gweld sut mae Parkrun – gyda’i rwydweithiau cymunedol cryf a chynaliadwy sy’n cael eu harwain gan wirfoddolwyr, a’i gyrhaeddiad eang – yn chwarae rhan allweddol yn hyn, yn ogystal â chefnogi’r agenda atal ehangach yng Nghymru.
Dewch o hyd i Parkrun gerllaw