Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Nigel Hullah: Eiriolwr brwd dros bobl sy’n byw gyda dementia

i mewn Newyddion

Nigel Hullah: Eiriolwr brwd dros bobl sy’n byw gyda dementia

Roeddwn i’n drist iawn o glywed bod Nigel Hullah wedi marw’n sydyn. Roedd ei frwdfrydedd dros wella hawliau pobl sy’n byw gyda dementia, a hawliau pobl hŷn yn fwy cyffredinol, wedi ysbrydoli cymaint o bobl yng Nghymru a’r tu hwnt.

Bu fy nhîm yn gweithio gyda Nigel am flynyddoedd lawer, ac rwy’n teimlo’n ffodus fy mod wedi cael y cyfle i gwrdd ag ef sawl gwaith ers i mi ddechrau yn y swydd. Yn ystod un cyfarfod, dywedodd rywbeth a wnaiff aros gyda mi am byth: mae gwneud pethau’n iawn i bobl â dementia yn golygu gwneud pethau’n iawn i bawb.

Mae Nigel yn gadael gwaddol pwysig er ei ôl. Ef wnaeth sefydlu Lleisiau Dementia, a roddodd lais i bobl ym mhob cwr o Gymru sy’n byw gyda dementia. Bu hefyd yn rhan greiddiol o’r ymgyrch i greu’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia yng Nghymru, a hynny ar ben yr amrywiaeth eang o waith pwysig arall a wnaeth ar lefel y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Bydd colled fawr ar ôl Nigel ac rwy’n cydymdeimlo â’i deulu, ei ffrindiau a’i gydweithwyr ac yn meddwl amdanynt yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Rhian Bowen-Davies // Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges