Neges gan Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru
Mae’n anrhydedd ac yn fraint gwasanaethu fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae’r rôl annibynnol hon yn unigryw o ran ei phwrpas i hyrwyddo a hybu hawliau pobl hŷn, ac fel Comisiynydd byddaf yn gwrando ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw ac yn sicrhau bod eu lleisiau a’u profiadau yn rhan annatod o sicrhau newid cadarnhaol.
Mae ansawdd ein bywydau wrth i ni heneiddio yn cael ei ddylanwadu gan amrywiaeth o ffactorau fel ein hiechyd, ein tai a’n hincwm, yn ogystal â lle rydym yn byw a’r mathau o gymorth, gwasanaethau a rhwydweithiau cymunedol sydd ar gael i ni. Felly rwy’n awyddus i gyfarfod pobl hŷn ym mhob rhan o Gymru i ddeall yr amrywiaeth o heriau maen nhw’n eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd ac i glywed sut gellid, yn eu barn nhw, wneud pethau’n wahanol i’w galluogi a’u cefnogi i fyw a heneiddio’n dda.
Wrth i mi ddechrau fy nghyfnod fel Comisiynydd, rwy’n cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu pobl hŷn ar hyn o bryd, yn enwedig yng ngoleuni penderfyniad y Llywodraeth i gwtogi taliadau tanwydd y gaeaf, y codiad yn y cap ar ynni, a goblygiadau posibl cyllideb yr hydref sydd ar y gweill.
Mae’r materion hyn, ynghyd â’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus a materion ehangach fel allgáu digidol, unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, yn arwain at anfanteision lluosog i bobl hŷn, gan ei gwneud yn fwyfwy anodd iddynt gael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth hanfodol sydd eu hangen arnynt. Nid wyf yn bychanu difrifoldeb y materion hyn ac, o’r cychwyn cyntaf, byddaf yn llais cryf dros bobl hŷn, gan sicrhau bod eu profiadau a’u pryderon yn cael eu cyfleu’n uniongyrchol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac yn llunio polisïau.
Drwy weithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan, edrychaf ymlaen at wneud cyfraniad cadarnhaol; diogelu hawliau a herio gwahaniaethu. Gyda’n gilydd, byddwn yn sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed ar lefel leol a chenedlaethol, a fydd yn hanfodol i greu Cymru sy’n arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.