Angen Help?
Houses of Parliament and Big Ben

Comisiynydd Pobl Hŷn yn dweud bod y gyllideb yn ‘colli cyfle’ i sicrhau bod pobl hŷn yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw

i mewn Newyddion

Comisiynydd Pobl Hŷn yn dweud bod y gyllideb yn ‘colli cyfle’ i sicrhau bod pobl hŷn yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw

Wrth ymateb i gyllideb heddiw, dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Croesewir nifer o’r cyhoeddiadau a wnaed yng nghyllideb heddiw, gan gynnwys buddsoddi rhagor mewn gwasanaethau cyhoeddus, a chyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru.

“Fodd bynnag, er iddi ddefnyddio’r gyllideb i godi oddeutu £40bn, mae’n siomedig bod y Canghellor wedi penderfynu peidio â gwrthdroi ei phenderfyniad i gynnal prawf modd am y Taliad Tanwydd Gaeaf, ac ni chyhoeddodd unrhyw gymorth penodol i liniaru ei effaith.

“Bydd y penderfyniad hwn yn golygu y bydd cannoedd ar filoedd o bobl hŷn yn colli allan ar gymorth ariannol hanfodol, ac mae llawer o bobl hŷn wedi dweud wrthyf eu bod yn poeni’n fawr am yr effaith a gaiff hyn ar eu hiechyd a’u llesiant.

“Yn fy marn i, mae’r Canghellor wedi colli cyfle i ddangos ei bod wedi gwrando ar y pryderon a godwyd gan bobl hŷn a rhanddeiliaid, ac, yn bwysicach, i gymryd camau i sicrhau nad yw pobl yn colli allan ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges