Dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud a helpu i sicrhau newid cadarnhaol i bobl hŷn
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn gwahodd pobl hŷn i leisio eu barn a helpu i siapio’r camau y mae hi’n eu cymryd i sicrhau newid cadarnhaol i bobl hŷn.
Wrth lansio ei hymgynghoriad ‘Dweud eich Dweud’ heddiw (3 Rhagfyr), dywed y Comisiynydd ei bod hi eisiau clywed gan bobl hŷn o amrywiaeth eang o gefndiroedd a chymunedau, er mwyn i’w lleisiau a’u profiadau siapio Strategaeth a Chynllun Gwaith y Comisiynydd.
Mae’r Comisiynydd yn annog pobl hŷn i gysylltu i dynnu sylw at unrhyw beth maen nhw’n poeni amdano, neu faterion sy’n gwneud pethau’n anoddach wrth heneiddio yng Nghymru. Mae hi hefyd yn awyddus i glywed am bethau sy’n gweithio’n dda ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac y gellid eu cyflwyno mewn rhannau eraill o Gymru i gefnogi pobl hŷn.
Gall pobl hŷn rannu eu barn a’u syniadau am y newidiadau a’r gwelliannau yr hoffent eu gweld drwy lenwi holiadur byr, sy’n ymdrin â phedwar maes allweddol sy’n hanfodol i ansawdd ein bywyd: mynediad at wasanaethau a chymorth; teimlo’n ddiogel; triniaeth deg; a llais, dewis a rheolaeth.
Mae’r Comisiynydd hefyd eisiau clywed gan grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan, am y materion maen nhw’n eu gweld ac unrhyw feysydd allweddol maen nhw’n meddwl y dylai ei gwaith hi ganolbwyntio arnynt.
Wrth drafod lansiad ei hymgynghoriad, dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwyf eisiau i Gymru arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda, ac fel Comisiynydd mae gennyf ran allweddol i’w chwarae er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon.
“Mae’n hanfodol bod y camau rwy’n eu cymryd fel Comisiynydd yn cael eu harwain gan leisiau a phrofiadau pobl hŷn, a dyna pam fy mod yn gwahodd pobl hŷn o wahanol gefndiroedd a chymunedau ledled Cymru i gysylltu i dynnu sylw at y materion sy’n effeithio ar eu bywydau a rhannu eu barn a’u syniadau am y newidiadau a’r gwelliannau a fyddai’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Mae’r Comisiynydd yn gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru i ddosbarthu copïau papur o’i holiadur i bobl hŷn, y gellir eu dychwelyd i’w swyddfa drwy radbost. Gellir llenwi’r holiadur ar-lein hefyd yn www.olderpeople.wales/haveyoursay.
Os yw’n well gan rai pobl hŷn siarad ag aelod o dîm y Comisiynydd i rannu eu profiadau, gallant gysylltu â’r tîm drwy ffonio 03442 640 670.
Dyddiad cau ymgynghoriad y Comisiynydd fydd 28 Chwefror 2025.
Ychwanegodd y Comisiynydd:
“Bydd unrhyw wybodaeth a gaiff ei rhannu gan bobl hŷn, yn ogystal â’u teulu a’u ffrindiau, a’r grwpiau a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw ac yn eu cefnogi, yn ddefnyddiol iawn wrth i mi ddatblygu fy strategaeth a’m cynllun gwaith, a chymryd camau gyda fy nhîm i drawsnewid polisïau ac arferion mewn amrywiaeth o feysydd allweddol er mwyn sicrhau newid cadarnhaol.”
Cwblhau Holiadur y Comisiynydd