Angen Help?
Light bulb in the foreground in front of blurred lights

Datganiad: Penodi’r Comisiynydd Pobl Hŷn nesaf

i mewn Newyddion

Datganiad: Penodi’r Comisiynydd Pobl Hŷn nesaf

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rydw i’n croesawu’r cyhoeddiad mai Rhian Bowen-Davies fydd Comisiynydd Pobl Hŷn nesaf Cymru, gan ymgymryd â rôl sy’n anrhydedd ac yn fraint i’w chyflawni.

“Ar ôl gweithio gyda Rhian, rwy’n gwybod y bydd hi’n cyfrannu ei gwybodaeth, ei phrofiad a’i harbenigedd i’r rôl, a bydd yn hyrwyddwr heb ei hail ar gyfer pobl hŷn a’u hawliau.

“Rwy’n siŵr y bydd fy nhîm, sydd wedi fy nghynorthwyo ac wedi fy ngalluogi i gyflawni cymaint dros bobl hŷn yn ystod fy nghyfnod fel Comisiynydd, yn rhoi croeso cynnes iddi ac yn ei chefnogi wrth iddi ymgymryd â’r rôl.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges