Data newydd yn datgelu pryderon sylweddol am gostau byw ymysg pobl hŷn
Mae data newydd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn dangos bod nifer sylweddol o bobl hŷn ledled Cymru yn poeni am gostau byw a’u bod yn gwario llai ar hanfodion er mwyn ceisio cael deupen llinyn ynghyd.
Gyda llawer o filiau’r cartref yn debygol o godi eto o’r wythnos hon, mae’r Comisiynydd yn poeni y bydd llawer o bobl hŷn yn cael eu gorfodi i dorri’n ôl ymhellach, gan beryglu eu hiechyd a’u llesiant.
Canfu arolygon ar ran y Comisiynydd fod 90% o bobl hŷn yn poeni am brisiau ynni, sef cynnydd o bron i 20% o’i gymharu â’r llynedd, tra bo 82% yn poeni am brisiau bwyd, sef cynnydd o 14%.
Pan ofynnwyd iddynt am eu gwariant, dywedodd 70% o bobl hŷn eu bod wedi gorfod gwario llai ar gynhesu eu cartrefi, a dywedodd 60% eu bod wedi gorfod gwario llai ar fwyd.
Yn ôl Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos bod pryderon sylweddol am gostau byw pobl hŷn ledled Cymru, a bod llawer ohonynt yn teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis ond gwario llai ar hanfodion fel ynni neu fwyd er mwyn gallu talu eu biliau.
“Mae’n bwysig cofio beth mae hyn yn ei olygu mewn gwirionedd – nad ydy pobl hŷn yn gallu fforddio cynhesu eu cartrefi, neu’n gorfod llwgu gan nad ydyn nhw’n gallu fforddio prynu’r bwyd y mae arnyn nhw ei angen. Mae hyn yn rhoi iechyd pobl mewn perygl.
“Gyda phrisiau llawer o bethau’n debygol o godi eto yr wythnos hon, mae’r pryderon hyn yn debygol o gynyddu. Mae’n bosibl y bydd pobl yn cael eu gorfodi i dorri’n ôl ymhellach fyth, gan greu rhagor o bwysau ariannol, ac achosi straen a phryder a fydd yn effeithio ar ein llesiant.
“Mae tlodi ymysg pobl hŷn hefyd yn fater allweddol, ac mae hyn wedi gwaethygu ar ôl colli’r Taliad Tanwydd Gaeaf a fu’n darparu cymorth ariannol hanfodol.
“Mae’r materion hyn yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd pobl hŷn yn fwy agored i niwed ac angen gofal a chymorth. Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar unigolion ac mae’n ychwanegu costau a phwysau cynyddol y gellir eu hosgoi at wasanaethau cyhoeddus sydd eisoes dan bwysau.
“Mae’n hanfodol bod llywodraethau San Steffan a Bae Caerdydd yn cydnabod hyn ac yn cymryd camau i ddarparu cymorth i amddiffyn pobl hŷn rhag niwed.”
DIWEDD