Angen Help?

Comisiynydd ‘yn siomedig iawn’ na fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno tariff cymdeithasol ar gyfer dŵr

i mewn Newyddion

Comisiynydd ‘yn siomedig iawn’ na fydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno tariff cymdeithasol ar gyfer dŵr

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae’n siomedig iawn na fydd Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen ag argymhelliad y Comisiwn Dŵr Annibynnol i gyflwyno tariff cymdeithasol ar gyfer dŵr. Roedd hwn yn fesur a gefnogais i ac ystod eang o sefydliadau eraill.

“Mae pobl ar incwm isel, gan gynnwys llawer o bobl hŷn, eisoes yn cael eu gorfodi i dorri’n ôl ar ymolchi, golchi dillad, a hyd yn oed fflysio’r toiled i geisio cadw biliau’n isel, ac nid yw hynny’n dderbyniol: ni ddylai pobl orfod cyfyngu ar eu defnydd o ddŵr dim ond er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd. Gallai hyn gynyddu’r risg o salwch a haint yn ogystal ag arwain at straen, stigma ac unigrwydd cymdeithasol.

“Byddai tariff cymdeithasol ar gyfer dŵr yn darparu cymorth ystyrlon, cyson ac angenrheidiol i bobl ar incwm isel, ac yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o liniaru tlodi dŵr. Mae tlodi dŵr yn broblem sydd ar gynnydd a disgwylir y bydd yn effeithio ar oddeutu miliwn o aelwydydd hŷn ledled y DU erbyn 2029.

“Felly, byddwn yn annog Llywodraeth y DU i ailfeddwl am ei phenderfyniad a gweithio gyda’r diwydiant dŵr a rhanddeiliaid i sicrhau bod cwsmeriaid sy’n wynebu anawsterau ariannol yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges