Angen Help?
Exterior of Severn View Care Home, Monmouthshire (credit: Lovell)

Blog y Comisiynydd: Dylunio sydd wedi ennill gwobrau a chymunedau oed-gyfeillgar

i mewn Newyddion

Tra roeddwn yn dal i fyny â digwyddiadau’r Eisteddfod yr wythnos hon, roeddwn yn falch o weld bod Severn View Park – safle tai arloesol yn Sir Fynwy ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia – wedi ennill Medal Aur yr ŵyl am Bensaernïaeth.

Bûm yn ymweld â Severn View fy hun yn fuan ar ôl iddo agor i gwrdd â phobl hŷn a staff, a chefais fy nharo gan wir deimlad y gymuned yno. Mae cartrefi y preswylwyr wedi’u lleoli o amgylch ‘neuadd bentref’, sy’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau, ac wedi’u hamgylchynu gan erddi a rhandiroedd, gan greu mannau cyffredin i bawb eu mwynhau.

Mae sicrhau bod preswylwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u bod yn byw bywyd sy’n bwysig iddyn nhw yn un o brif elfennau’r gofal sy’n cael ei ddarparu yn Severn View, rhywbeth sy’n cael ei gefnogi gan yr amgylchedd croesawgar a hygyrch.

Mae Severn View yn enghraifft dda o sut gall cynllunio a dylunio gael effaith gadarnhaol ar les pobl, ochr yn ochr â chreu cyfleoedd i gymryd rhan a chynhwysiant – pob un yn hanfodol i’n cefnogi i heneiddio’n dda.

Mae cynllunio a dylunio yn siapio’r llefydd lle rydym yn heneiddio a’n profiadau, nid yn unig o ran cartrefi a thai sy’n diwallu ein hanghenion, ond hefyd o ran ein mynediad at wasanaethau cyhoeddus, trafnidiaeth, siopau a mannau gwyrdd. Felly mae’n bwysig sicrhau bod pawb yn cael cyfleoedd i leisio eu barn a dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymunedau.

Ac eto, er bod dyletswyddau ar waith i ymgymryd a gwaith ymgynghori ac ymgysylltu, mae pobl hŷn yn dweud wrthyf fod hyn yn aml yn teimlo’n drafodaethol ac yn arwynebol, yn enwedig gan fod canfyddiad yn aml bod penderfyniadau eisoes wedi cael eu gwneud erbyn i bobl gael cyfle i ddweud eu dweud.

Er mwyn adfer hyder yn y prosesau hyn, mae’n hanfodol bod ymgysylltu’n digwydd o’r cychwyn cyntaf er mwyn galluogi cydgynhyrchu go iawn, ac i bobl weld sut mae eu lleisiau a’u profiadau’n llywio camau gweithredu a chanlyniadau.

Byddai defnyddio’r math hwn o ddull gweithredu, nid yn unig o ran cynllunio cymunedol, ond hefyd ar draws y broses o lunio polisïau yn ehangach, yn creu cylch rhinweddol: mae ymgysylltu ystyrlon yn arwain at benderfyniadau gwell, creu lleoedd gwell i fyw, cynyddu ymddiriedaeth ac annog hyd yn oed mwy o gyfranogiad yn y dyfodol.

A chyda llawer o rwydweithiau a phartneriaethau lleol sefydledig ledled Cymru eisoes yn canolbwyntio’n gryf ar wneud cymunedau’n fwy oed-gyfeillgar, mae cyfleoedd go iawn i estyn allan yn eang a sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn eu holl amrywiaeth yn cael eu clywed.

Ni ddylid ystyried ymgysylltu fel rhwystr i’w oresgyn, ond fel llwybr tuag at ganlyniadau gwell a mwy cynaliadwy, wedi’u gwreiddio ym mhrofiadau bywyd pobl.

Mae Severn View yn dangos beth y gellir ei gyflawni gyda chynllunio a dylunio uchelgeisiol, sy’n cael ei wireddu drwy bartneriaethau effeithiol a chefnogi pobl hŷn i gael yr ansawdd bywyd gorau posibl.

Wrth symud ymlaen, rhaid i ni sicrhau mai dyma’r norm, yn hytrach na’r eithriad rydym yn ei dathlu.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges