Angen Help?

Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru yn cyflwyno ei gweledigaeth fel eiriolydd a llais annibynnol ar ran pobl hŷn ledled Cymru

i mewn Newyddion

Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru yn cyflwyno ei gweledigaeth fel eiriolydd a llais annibynnol ar ran pobl hŷn ledled Cymru

Mae Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru, wedi cyflwyno ei gweledigaeth i greu Cymru sy’n arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.

Gan ddechrau yn y swydd heddiw (30 Medi), mae’r Comisiynydd newydd wedi dweud ei bod yn edrych ymlaen at deithio ledled Cymru i glywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn am eu profiadau o fynd yn hŷn a sut y gellir mynd i’r afael â’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau er mwyn sicrhau newid a gwelliannau.

Wrth gyhoeddi datganiad ar ei gwefan, dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru:

“Mae’n anrhydedd ac yn fraint gwasanaethu fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae’r rôl annibynnol hon yn unigryw o ran ei phwrpas i hyrwyddo a hybu hawliau pobl hŷn, ac fel Comisiynydd byddaf yn gwrando ar yr hyn sy’n bwysig ac yn sicrhau bod eu lleisiau a’u profiadau yn rhan annatod o sicrhau newid cadarnhaol.

“Mae ansawdd ein bywydau wrth i ni heneiddio yn cael ei ddylanwadu gan amrywiaeth o ffactorau fel ein hiechyd, ein tai a’n hincwm, yn ogystal â lle rydym yn byw a’r mathau o gymorth, gwasanaethau a rhwydweithiau cymunedol sydd ar gael i ni.

“Felly rwy’n awyddus i gyfarfod a chlywed gan bobl hŷn ym mhob rhan o Gymru i ddeall yr amrywiaeth o heriau maen nhw’n eu hwynebu yn eu bywydau bob dydd ac i glywed sut gellid, yn eu barn nhw, wneud pethau’n wahanol i’w galluogi a’u cefnogi i fyw a heneiddio’n dda.”

Bydd y Comisiynydd yn dechrau’r gwaith hwn drwy ymweld â chymunedau ledled Gwynedd a Phowys yn ystod ei hwythnos gyntaf yn y swydd i siarad â phobl hŷn am y pethau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau, yn ogystal â’u pryderon, a fydd yn gymorth wrth iddi ddatblygu ei rhaglen waith. Mae hi hefyd yn datblygu cynlluniau ar gyfer ymgynghoriad ar raddfa fawr gyda phobl hŷn, gan eu gwahodd i rannu eu barn a’u syniadau am y prif feysydd gwaith y dylai hi flaenoriaethu.

Yn ei datganiad, dywedodd y Comisiynydd ei bod hefyd yn cydnabod yr heriau sylweddol sy’n wynebu pobl hŷn yng Nghymru wrth iddi ddechrau yn ei swydd, yn enwedig yng ngoleuni penderfyniad y Llywodraeth i gwtogi taliadau tanwydd y gaeaf, y codiad yn y cap ar ynni, a goblygiadau posibl cyllideb yr hydref sydd ar y gweill.

Gan dynnu sylw at effaith y materion hyn, dywedodd y Comisiynydd:

“Mae’r materion hyn, ynghyd â’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus a materion ehangach fel allgáu digidol, unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol, yn arwain at anfanteision lluosog i bobl hŷn, gan ei gwneud yn fwyfwy anodd cael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth hanfodol sydd eu hangen arnynt.

“Nid wyf yn bychanu difrifoldeb y materion hyn ac, o’r cychwyn cyntaf, byddaf yn llais cryf dros bobl hŷn, gan sicrhau bod eu profiadau a’u pryderon yn cael eu cyfleu’n uniongyrchol i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac yn llunio polisïau.

“Rwy’n awyddus i sefydlu agendâu cyffredin, rhannu gwersi, hyrwyddo arferion da a chefnogi newid a fydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl hŷn nawr ac yn y dyfodol.

“Ond bydd fy nhîm a minnau hefyd yn craffu ar ystod eang o bolisïau ac arferion sy’n effeithio ar ansawdd bywydau pobl hŷn, ac ni fyddaf yn oedi cyn dwyn sefydliadau ac unigolion i gyfrif os bydd hyn yn sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl hŷn.”

Bydd y Comisiynydd newydd yn defnyddio ystod eang o wybodaeth a phrofiadau yn ei rôl, ar ôl dechrau ei gyrfa fel swyddog heddlu, cyn ymgymryd â rolau arwain uwch yn y trydydd sector; gan gynnwys Prif Weithredwr Calan DVS, a chael ei phenodi’n Gynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer mynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn 2015.

Yn fwyaf diweddar, mae hi wedi cael ei chydnabod fel Cadeirydd arbenigol yr Adolygiadau Dynladdiadau Domestig sy’n cynnwys pobl hŷn, yn ogystal ag ymgymryd ag ystod eang o waith ymchwil a phrosiectau ar ran cyrff cyhoeddus a sefydliadau allweddol.

Ychwanegodd y Comisiynydd:

“Drwy weithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan, edrychaf ymlaen at wneud cyfraniad cadarnhaol; diogelu hawliau a herio gwahaniaethu.

Gyda’n gilydd, byddwn yn sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed ar lefel leol a chenedlaethol, a fydd yn hanfodol i greu Cymru sy’n arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw a heneiddio’n dda.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges