Comisiynydd am i’r penderfyniad i gyflwyno prawf modd ar gyfer Taliad Tanwydd y Gaeaf gael ei ailystyried
Wrth ymateb i gyhoeddiad y Canghellor na fydd miloedd o bobl hŷn yng Nghymru yn gymwys i gael Taliad Tanwydd y Gaeaf, dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’r cyhoeddiad mai dim ond i’r rheini sy’n cael Credyd Pensiwn y bydd y Taliad Tanwydd y Gaeaf yn cael ei dalu yn peri pryder mawr, gan ei fod yn golygu y bydd miloedd o bobl hŷn yng Nghymru yn colli’r cyfle i gael cymorth ariannol hanfodol.
“Amcangyfrifir bod tua 80,000 o aelwydydd yng Nghymru yn colli’r cyfle i gael Credyd Pensiwn er eu bod yn gymwys, sy’n golygu bod pobl hŷn eisoes yn colli allan ar dros £200 miliwn y mae ganddynt hawl iddo.
“Byddai penderfyniad y Canghellor yn golygu y gallai’r aelwydydd hyn nawr golli degau o filiynau o bunnoedd yn fwy ar ben hyn, a allai wneud gwahaniaeth mawr o ran sefyllfa ariannol pobl.
“Rydw i hefyd yn poeni am y bobl hŷn yng Nghymru a allai fod yn byw ar incwm isel ac yn cael trafferthion ariannol, ond sydd fymryn yn uwch na’r trothwy Credyd Pensiwn. Mae’r unigolion hyn eisoes yn colli allan ar y cymorth hanfodol ehangach a geir yn sgil Credyd Pensiwn – fel gostyngiadau yn y dreth gyngor – a byddant yn colli mwy fyth o gyfleoedd o ganlyniad i’r penderfyniad hwn.
“Byddwn yn annog y Canghellor i ailystyried y penderfyniad hwn cyn ei chyllideb er mwyn osgoi gwthio mwy o bobl hŷn yng Nghymru tuag at dlodi, a rhoi iechyd a llesiant pobl mewn perygl, a allai arwain at gostau uwch yn y tymor hwy.”
DIWEDD