Wythnos Ymwybyddiaeth o Drais Rhywiol 2026: Gwella’r ymatebion i fater sy’n aml yn gudd
Mae trais a cham-drin rhywiol yn cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl. Ac eto, nid yw ei effaith ar bobl hŷn yn cael ei chydnabod na’i deall yn llawn yn aml.
I rai pobl hŷn, gall trais rhywiol ddechrau yn nes ymlaen mewn bywyd, fel y tynnwyd sylw ato mewn data gan Uned Atal Trais Cymru, a oedd yn dangos bod heddluoedd Cymru wedi cofnodi tua mil o droseddau rhywiol yn erbyn pobl hŷn dros bum mlynedd. Fodd bynnag, mae’r ffigur hwn yn debygol o fod lawer yn uwch mewn gwirionedd, gan nad yw’r mathau hyn o droseddau’n cael eu cofnodi’n ddigonol o bell ffordd.
Efallai fod pobl hŷn eraill yn profi trawma heb ei ddatrys sy’n ymwneud â cham-drin rhywiol a ddigwyddodd yn y gorffennol, a bod hynny’n dal i gael effaith wirioneddol ar eu bywydau.
Er bod y mater hwn, a realiti profiadau pobl hŷn, wedi cael mwy o gydnabyddiaeth yn y blynyddoedd diwethaf, mae angen gwneud llawer mwy i sicrhau bod pobl hŷn sydd wedi profi, neu sydd mewn perygl o brofi, trais a cham-drin rhywiol yn gallu cael gafael ar y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt.
Dyna pam rydw i wedi dod â phartneriaid allweddol sy’n gweithio ar draws y sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol at ei gilydd ar gyfer digwyddiad bwrdd crwn yn ddiweddar – i edrych ar y camau sydd angen eu cymryd i wella’r ymatebion i brofiadau pobl hŷn o drais neu gam-drin rhywiol.
Roedd gan yr holl gyfranogwyr brofiad uniongyrchol o weithio gyda phobl hŷn yr oedd trais neu gam-drin rhywiol wedi effeithio arnynt. Roedd hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn parhau i fod yn ganolog i’r drafodaeth a bod unrhyw benderfyniadau i weithredu wedi’u seilio’n gadarn ar eu profiadau uniongyrchol nhw.
Roedd yr wybodaeth a ddeilliodd o’r trafodaethau hyn yn hanfodol i adnabod meysydd i weithredu arnynt, sydd wedi’u nodi yn fy adroddiad cryno o’r digwyddiad.
Mae’r rhain yn cynnwys: cynnal gwaith ymchwil wedi’i dargedu a gwell prosesau casglu data mewn perthynas â phrofiadau pobl hŷn; archwilio’r cymorth y mae gwasanaethau presennol yn ei ddarparu i bobl hŷn sy’n profi trais a cham-drin, yn ogystal â lefelau gwybodaeth a sgiliau ymysg ymarferwyr; a buddsoddi mwy mewn gwasanaethau arbenigol a gweithgareddau codi ymwybyddiaeth.
Gwnaeth y cyfranogwyr nifer o ymrwymiadau penodol i gefnogi’r meysydd gweithredu a nodwyd, ac rwy’n edrych ymlaen at archwilio’r cynnydd mewn cyfarfod bwrdd crwn dilynol y byddaf yn ei gynnal fis Mawrth.
Er mwyn chwarae fy rhan, rwy’n gweithio gyda chyrff statudol, darparwyr arbenigol ac arolygiaethau i ddatblygu dealltwriaeth gliriach o’r ymatebion presennol i brofiadau pobl hŷn o drais a cham-drin rhywiol. Bydd y gwaith ymgysylltu hwn yn helpu i nodi arferion da, yn ogystal â meysydd lle mae angen gwella, gan sicrhau bod yr hyn sy’n cael ei ddysgu yn sail i’r gwaith a wneir yn y dyfodol i ddatblygu polisi, dylunio gwasanaethau, ac ymateb yn weithredol ar hyd a lled Cymru.
Byddaf hefyd yn parhau i gydweithio â gwasanaethau arbenigol, fy Ngrŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin, a’r bobl hŷn eu hunain – i sicrhau bod profiadau bywyd yn parhau i fod yn ganolog wrth i ni siapio a llywio’r gwaith hwn, a’u bod hefyd yn dylanwadu ar gamau gweithredu yn y dyfodol.
Ochr yn ochr â hyn, byddaf yn parhau i graffu ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, yn ogystal â’i gwaith ehangach i fynd i’r afael â cham-drin – yn enwedig o ran troi’r uchelgais yn y Cynllun Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn yn gamau gweithredu ymarferol, a gwneud cynnydd yn erbyn y Glasbrint Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Drais Rhywiol yn tynnu sylw pwysig at fater anodd, sy’n aml yn gudd. Mae hefyd yn ein hatgoffa pam mae’n bwysig gweithio gyda’n gilydd i wella’r ymatebion i brofiadau o drais a cham-drin rhywiol er mwyn i bawb y mae hyn yn effeithio arnynt, beth bynnag fo’u hoedran, yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.