Angen Help?
Photo of a group of older walkers taking an energetic walk

Blog y Comisiynydd – Trawsnewid gofal iechyd yng Nghymru: Mae’r amser i siarad wedi dod i ben

i mewn Newyddion

Trawsnewid gofal iechyd yng Nghymru: Mae’r amser i siarad wedi dod i ben

Gyda’r gwanwyn wedi cyrraedd, mae’n hawdd anghofio am fisoedd oer a diflas y gaeaf a’r heriau a ddaw gyda’r rhain.

Ar ben y risgiau cynyddol i iechyd a llesiant pobl oherwydd y tywydd oer, er enghraifft, mae gwasanaethau iechyd yn aml yn wynebu pwysau sylweddol.

Nid oedd y gaeaf hwn yn eithriad, ac mae adroddiadau am arosiadau hir am ambiwlansys, ysbytai gorlawn a gofal yn cael ei ddarparu mewn amgylcheddau anaddas fel coridorau, cypyrddau storio a hyd yn oed toiledau, yn debygol o fod yn gyfarwydd i ni i gyd.

Mae llawer o bobl hŷn wedi dweud wrthyf eu bod yn teimlo bod y system iechyd mewn argyfwng a’u bod yn poeni am safon y gofal y bydden nhw neu eu hanwyliaid yn ei dderbyn pe baent yn mynd yn sâl.

Mae’r materion hyn yn annerbyniol, ac rwy’n siŵr y byddai’r llywodraeth a’r byrddau iechyd o’r un farn, ond mae’n ymddangos eu bod yn digwydd mor ddifrifol bob gaeaf ac, yn gynyddol, yn ystod adegau eraill o’r flwyddyn hefyd yn gwneud i mi boeni eu bod wedi cael eu normaleiddio.

Mae hefyd yn bwysig cofio mai dim ond symptomau ‘gweladwy’ o system sy’n cael ei llethu yw’r materion uchod. Rhoddir llawer llai o bwyslais ar effaith diffyg gwasanaethau ataliol a chymorth yn y gymuned, a’r unigolion – pobl hŷn yn aml – sy’n mynd i’r ysbyty’n ddiangen oherwydd bod cyfleoedd ar gyfer ymyriadau cynnar wedi’u colli neu ddim ar gael.

Os bydd y gwaith o reoli argyfwng yn parhau i gael ei flaenoriaethu, yna bydd y sefyllfa a wynebir gan lawer o bobl hŷn yn gwaethygu. Yn hytrach na hyn, mae angen newid sylfaenol at atal, cymorth cymunedol a gofal integredig. Rhaid mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am bobl a fyddai’n elwa o ymyriadau ataliol; ni ddylai’r system aros i unigolion ddod o hyd i gymorth eu hunain.

Ar ben hynny, mae angen canolbwyntio ar ymatebion ystwyth yn ein cymunedau er mwyn helpu i gadw pobl yn iach gartref, rheoli cyflyrau a/neu eiddilwch a darparu gofal sy’n seiliedig ar leoedd er mwyn gallu osgoi derbyniadau i ysbytai lle bynnag y bo modd.

Mae gan ofal sylfaenol rôl hollbwysig i’w chwarae o ran galluogi’r newid dull gweithredu hwn, ac rwy’n croesawu ymrwymiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd i symud gwasanaethau o ysbytai ac i’r gymuned, gyda chyllid i gefnogi hyn, yn ogystal â darparu cymorth er mwyn i feddygon teulu allu cynnig mwy o gysondeb o ran gofal, rhywbeth sy’n gwella canlyniadau i gleifion agored i niwed ac yn lleihau ymweliadau ag ysbytai.

Mae’r rhain yn gamau cadarnhaol ymlaen, ond mae angen cyllid digonol a chynaliadwy i’r trydydd sector hefyd, sy’n chwarae rhan hollbwysig mewn gofal ataliol. Nid yw penderfyniadau cyllido tymor byr, munud olaf yn caniatáu i’r gwasanaethau hanfodol hyn gynllunio’n effeithiol na darparu cefnogaeth gyson.

Yn ogystal, rhaid cael newidiadau o ran sut y mesurir perfformiad. Dylai mesurau perfformiad fod yn ehangach, gan gynnwys metrigau fel canlyniadau iechyd y boblogaeth a lefelau buddsoddi mewn gofal sylfaenol a chymunedol.

Mae hefyd yn hollbwysig ymgysylltu â’r cyhoedd i newid canfyddiadau ynghylch sut dylid darparu gwasanaethau. Yn rhy aml o lawer, rydyn ni’n clywed pobl yn dweud, “Maen nhw yn y lle gorau” pan fydd anwylyd yn yr ysbyty. Ond nid ysbytai yw’r lle gorau i bobl hŷn bob amser. Rhaid i ni newid y naratif fel bod cartref, dan yr amgylchiadau priodol, gyda’r gefnogaeth briodol yn y gymuned, yn cael ei ystyried fel y lle gorau i fod.

Er mwyn i hyn lwyddo, mae angen cael partneriaeth wirioneddol gyda dinasyddion, gofalwyr a chymunedau. Rhaid i deuluoedd fod yn rhan o benderfyniadau, cael eu cefnogi yn eu rolau gofalu a chael eu cydnabod fel elfennau hanfodol y system iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae cyfleoedd i drawsnewid y system iechyd yng Nghymru, ond os nad ydym yn gweithredu nawr, bydd yr argyfyngau sy’n ein hwynebu heddiw yn gwaethygu. Gall gwaith partneriaeth ystyrlon rhwng y llywodraeth a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn ogystal â chymunedau a theuluoedd, adeiladu system sy’n rhoi blaenoriaeth i atal, cefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain a darparu’r gofal iawn ar yr adeg iawn, gan ganolbwyntio ar anghenion unigol pobl.

Mae’r amser i siarad wedi dod i ben; mae’r amser i weithredu nawr. Mae angen ymrwymiad a gweithredu gwirioneddol i gyflawni’r newidiadau hyn, er mwyn ein system gofal iechyd, yn ogystal ag iechyd ac urddas pob un sy’n dibynnu arno.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges