Blog y Comisiynydd: Rhaid gwneud mwy i sicrhau bod lleisiau gofalwyr di-dâl yn cael eu clywed
Wythnos yma bues i’n ymweld â Chanolfan Widdershins ym Mhont-y-pŵl i glywed gan bobl hŷn am y camau y dylwn eu cymryd i sicrhau newid cadarnhaol.
Mae Widdershins yn ganolfan gymunedol sy’n cael ei rhedeg gan Age Connects Torfaen. Mae’n cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau, gwasanaethau a chymorth i bobl hŷn. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau dyddiol sy’n rhoi seibiant i ofalwyr, yn ogystal â grŵp chwaraeon sy’n deall dementia sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau golff, tenis, campfa a bwtcamp ffitrwydd.
Mae’r Bistro ar y safle hefyd yn cynnal gofod hyb cynnes bob dydd Llun a dydd Gwener, gan gynnig pryd o fwyd poeth a diod am ddim, yn ogystal â lle i bobl hŷn ddod at ei gilydd, cymdeithasu a chael gwybodaeth leol.
Ar ben hynny, mae’r tîm yn y Ganolfan wedi gweithio gyda Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i ddatblygu Ap Heart Connects, wedi’i gyd-gynllunio a’i gynhyrchu gydag unigolion sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr/teuluoedd, Roedd yr ap wedi cyrraedd rownd gynderfynol gwobr Longitude am ddementia.
Yn fwy cyffredinol, mae Age Connects yn darparu’r gwasanaeth rhyddhau o’r ysbyty ar draws ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a’r Ganolfan i Ofalwyr yn Ysbyty’r Faenor.
Mae llwyth yn digwydd, fel byddwch chi’n cytuno rwy’n siŵr!
Un sgwrs sydd wedi aros gyda mi’n benodol oedd gyda gofalwr di-dâl (yn rhoi cymorth i’w gŵr sy’n byw gyda dementia) a rannodd ei rhwystredigaeth am beidio â theimlo ei bod yn cael ei chlywed na’i gwerthfawrogi yn ei rôl.
Dywedodd wrthyf, pan gafodd ei gŵr ei ddiagnosis, na chafodd unrhyw wybodaeth ac ni chynigiwyd unrhyw gymorth iddi.
Dywedodd hefyd iddi gael gwybod am y gweithgareddau i bobl sy’n byw gyda dementia yn y ganolfan ar hap, ar ôl iddi ddigwydd gweld poster mewn lleoliad lleol arall.
Mae ei phrofiad yn tynnu sylw at fater ehangach o lawer: diffyg gwybodaeth hygyrch ac amserol i ofalwyr ar adegau hollbwysig. Soniodd am y ffaith bod ei hadnoddau a’i dyfeisgarwch ei hun wedi golygu ei bod wedi gallu dod o hyd i wybodaeth a chefnogaeth, ond roedd yn poeni efallai na fyddai eraill yn cael yr un cyfleoedd i wneud hyn a’r effaith y byddent yn ei chael.
Yr hyn a gafodd yr effaith fwyaf arnaf oedd pan ddywedodd mai fi oedd y person cyntaf – y tu allan i’r rhai yn y ganolfan – a oedd erioed wedi gofyn iddi am ei phrofiadau fel gofalwr a’r hyn roedd hynny’n ei olygu i’w bywyd.
Dydy hyn ddim yn ddigon da. Mae gofalwyr yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gefnogi pobl â dementia, ond yn rhy aml maen nhw’n teimlo’n anweledig, nad ydyn nhw’n cael eu gwerthfawrogi ac nad oes neb yn gwrando arnyn nhw. Rhaid i’w lleisiau fod yn ganolog wrth lunio’r gwasanaethau sydd wedi’u cynllunio i’w cefnogi.
Wrth ddiwygio Cynllun Gweithredu Dementia Cymru, mae cyfle hollbwysig i sicrhau bod profiadau a safbwyntiau pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr yn llywio ei ddatblygiad yn uniongyrchol drwy gyd-gynhyrchu go iawn, fel y disgwylir gan ein deddfwriaeth. Rhaid i ni wrando, dysgu, a chymryd camau i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael heb y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw.
Mae llefydd fel Widdershins yn amhrisiadwy, ac mae’n hanfodol bod gofalwyr di-dâl yn gwybod am y mathau o gymorth cymunedol sydd ar gael, cymorth sy’n gallu gwneud byd o wahaniaeth i brofiadau gofalwyr di-dâl a diogelu eu hiechyd a’u llesiant.
Rhaid gwneud mwy i sicrhau bod gwybodaeth a chymorth yn cael eu darparu’n rhagweithiol pan roddir diagnosis o ddementia. Mae hyn yn golygu mwy na gwella mynediad at wasanaethau, mae’n golygu cydnabod cyfraniadau aruthrol gofalwyr di-dâl, yn ogystal â’r heriau maen nhw’n eu hwynebu’n aml, a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.
Ni ddylai unrhyw ofalwr deimlo nad oes neb yn sylwi ar eu trafferthion a’u haberth; mae lleisiau a phrofiadau gofalwyr di-dâl yn bwysig, a’n cyfrifoldeb ni yw gwrando ar y rhain a gweithredu arnyn nhw.