Pŵer partneriaethau ac arferion da
Roedd yn bleser bod yn ôl yng ngogledd Cymru ar gyfer wythnos brysur arall yn cyfarfod ac yn siarad yn uniongyrchol â phobl hŷn am y materion sy’n effeithio ar eu bywydau, ac yn ymweld ag amrywiaeth o brosiectau sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac yn cefnogi pobl i heneiddio’n dda.
Yn ystod fy nhaith, clywais gan bobl hŷn sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau yng Nghanolfan Glanhwfa yn Llangefni, pam ei bod mor bwysig bod mannau cyfarfod a gweithgareddau wrth galon cymunedau ac yn hygyrch, ac am y cyfleoedd maen nhw wedi’u cael i gymryd rhan wrth i’r ganolfan gael ei thrawsnewid, sydd wedi bod o fudd i’w hiechyd a’u llesiant mewn sawl ffordd.
Yng Nghaffi Sunshine yng Nghoed-llai ger yr Wyddgrug, dywedodd pobl hŷn wrthyf gymaint maen nhw’n gwerthfawrogi gallu cwrdd am baned a sgwrs a gwneud ffrindiau newydd, nid dim ond gyda phobl o’u hoedran eu hunain, ond gyda phobl o bob oed.
Ac yn nhwrnamaint boccia misol Dementia Actif Gwynedd ym Mhorthmadog, sydd bellach yn cael ei fynychu gan dros 100 o bobl, gwelais sut y gall cymryd rhan mewn gweithgaredd fel hwn ddod â phobl at ei gilydd yn gydradd a darparu seibiant mawr ei angen oddi wrth arferion a chyfrifoldebau pobl o ddydd i ddydd.
Ond beth sy’n helpu i wneud y gweithgareddau hyn mor llwyddiannus ac, yn yr un modd, yn helpu i sicrhau eu bod yn gynaliadwy?
Un ffactor hollbwysig yw nodi’r hyn y mae pobl hŷn ei eisiau a’i angen gan gymorth a gweithgareddau lleol. Rhan o hyn yw deall tueddiadau poblogaeth a demograffeg sy’n newid, ond yn bwysicach na dim mae’n ymwneud ag estyn allan at gymunedau a chlywed gan bobl hŷn eu hunain am y mathau o bethau a fyddai’n arwain at y manteision mwyaf.
Mae’r math hwn o ymgysylltu hefyd yn helpu i nodi problemau a rhwystrau posibl a allai ei gwneud yn anoddach i bobl hŷn gael gafael ar gymorth a gweithgareddau – fel diffyg opsiynau trafnidiaeth – fel y gellir ystyried y rhain a chymryd camau i fynd i’r afael â nhw i sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu hallgau.
Ffactor allweddol arall yw cydnabod y rôl hanfodol y mae’r mathau hyn o weithgareddau, a’r cymunedau oed-gyfeillgar sy’n eu hamgylchynu, yn ei chwarae yn yr agenda iechyd ataliol. Ar draws y prosiectau yr ymwelais â nhw a’r gweithwyr proffesiynol y siaradais â nhw yng ngogledd Cymru, roedd dealltwriaeth glir o hyn, gan greu ffocws cryf ar ymyrraeth gynnar ac estyn allan at bobl hŷn, yn enwedig y rhai heb rwydweithiau cymorth a allai fod â mwy o angen i gael gafael ar wasanaethau a chymorth.
Mae dealltwriaeth dda hefyd y gall pethau sy’n ymddangos yn ‘fach’ – paned o de gyda ffrindiau, gêm o boccia – wneud gwahaniaeth mawr, gan roi rhywbeth i bobl edrych ymlaen ato, ymdeimlad o bwrpas. Ond yn fwy na hynny, mae’n golygu bod pobl hŷn yn cael cyfleoedd i ddod i gysylltiad â gwirfoddolwyr, cysylltwyr cymunedol a gweithwyr proffesiynol eraill, yn ogystal â gwasanaethau lleol, sy’n gallu cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth amhrisiadwy os bydd angen.
Y ffactor olaf yr hoffwn dynnu sylw ato yw’r rôl hanfodol y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae, ac mae llawer ohonynt yn bobl hŷn. Heb wirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser, eu hegni, eu gwybodaeth a’u sgiliau mor hael, ni fyddai cymaint o gefnogaeth a chymaint o weithgareddau i bobl hŷn ar gael. Dyna pam mae cefnogi gwirfoddolwyr, ac annog eraill i fanteisio ar gyfleoedd i wirfoddoli, yn rhan mor bwysig o gydlynu a darparu llawer o brosiectau a gweithgareddau wedi’u lleoli yn y gymuned.
Ochr yn ochr â hyn, mae hefyd yn bwysig cael y gefnogaeth ehangach briodol gan gyrff cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector, ac yng ngogledd Cymru cwrddais â chymaint o unigolion ymrwymedig ac ymroddedig sy’n gweithio i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl hŷn.
Ar ben hynny, dangosodd fy nhrafodaethau ag uwch arweinwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau fod ffocws clir ar bob lefel ar weithio mewn partneriaeth, ymyrryd yn gynnar ac atal, ac estyn allan at bobl hŷn ar draws cymunedau. Gwelais hefyd sut mae’r egwyddorion allweddol hyn yn cael eu defnyddio fwyfwy i gefnogi gwaith ehangach mewn awdurdodau lleol, gan helpu i ychwanegu gwerth a chefnogi gwell canlyniadau i bobl hŷn.
Rhan o fy rôl fel Comisiynydd yw casglu a rhannu arferion da, ac rwy’n edrych ymlaen at deithio i rannau eraill o Gymru i ddysgu mwy am brosiectau, mentrau a dulliau lleol arloesol sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl hŷn.
A thrwy rannu’r arferion da hyn i ddysgu oddi wrth ein gilydd a chefnogi’n gilydd, mae potensial i gyflawni canlyniadau gwell i bobl hŷn a chefnogi pawb i fyw ac heneiddio’n dda.