Wrth i ni ddathlu Wythnos Ryngwladol Pontio’r Cenedlaethau, mae’n gyfle pwerus i bwyso a mesur rôl hanfodol dod â chenedlaethau at ei gilydd i adeiladu Cymru gryfach a mwy cynhwysol – Cymru lle mae pawb, beth bynnag fo’u hoed, yn cael eu gwerthfawrogi a’u dathlu.
Mae gweithgareddau pontio’r cenedlaethau yn golygu llawer mwy na phobl ifanc a phobl hŷn yn treulio amser gyda’i gilydd. Mae’n broses ddeinamig a thrawsffurfiol sy’n cryfhau dealltwriaeth a pharch, yn chwalu rhwystrau, ac yn meithrin perthnasoedd go iawn ar draws grwpiau oedran. Pan fydd pobl o wahanol genedlaethau’n cysylltu â’i gilydd yn ystyrlon, mae’r tybiaethau y gallai fod ganddynt am ei gilydd yn cael eu herio.
Mae’r cysylltiadau hyn yn rhan hanfodol o adeiladu cymunedau oed-gyfeillgar – cymunedau lle gall pawb gymryd rhan yn llawn, teimlo’n ddiogel, a byw gydag urddas a pharch. Yng Nghymru, rydyn ni’n falch o’n hymrwymiad i greu cymunedau o’r fath, a rhaid i waith pontio’r cenedlaethau gael ei gydnabod fel conglfaen yr uchelgais hwn.
Ar adeg pan mae stereoteipiau a gwahaniaethu yn ôl oedran yn parhau, gweithgarwch pontio’r cenedlaethau yw un o’r dulliau mwyaf pwerus sydd gennym i greu newid. Pan fydd pobl yn rhannu eu straeon, eu sgiliau a’u profiadau ar draws cenedlaethau, mae’n dod yn amhosibl creu stereoteipiau niweidiol. Yn hytrach, rydyn ni’n gweld dynoliaeth, cymhlethdod a gwerth ein gilydd.
Mae dulliau pontio’r cenedlaethau hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o greu gweithleoedd sy’n pontio’r cenedlaethau – mannau lle gall pobl o bob oed gydweithio, dysgu oddi wrth ei gilydd a ffynnu. Mae busnesau a sefydliadau sy’n croesawu timau o bob oed yn elwa o gyfnewid syniadau cyfoethocach, safbwyntiau ehangach, a pherfformiad cryfach. Mewn byd sy’n newid yn gyflym, mae gweithleoedd sy’n mynd ati i werthfawrogi cyfraniad pob cenhedlaeth yn decach, yn gryfach ac yn fwy gwydn.
Er gwaethaf y manteision hyn, mae angen mwy o ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth o bŵer gweithgareddau pontio’r cenedlaethau o hyd. Yn rhy aml o lawer, mae mentrau sy’n dod â chenedlaethau at ei gilydd yn cael eu hystyried yn bethau ychwanegol dewisol yn hytrach na strategaethau hanfodol sy’n cryfhau ein cymdeithas. Rhaid i ni barhau i godi proffil y gwaith hwn a’i wreiddio yn ein polisïau, ein harferion a’n gwaith cynllunio cymunedol.
Mae cymaint o gyfleoedd i harneisio hyn. Boed yn bobl hŷn a phobl iau yn cydweithio ar brosiectau sgiliau digidol, garddio cymunedol, rhaglenni celfyddydol a cherddoriaeth neu’n cyd-gynhyrchu gwasanaethau a pholisïau, mae pob rhyngweithiad yn gwella dealltwriaeth a pharch. Ac mae manteision i bobl ymhell y tu hwnt i’r rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol. Mae cysylltiadau cryfach rhwng cenedlaethau yn cryfhau cymunedau, yn mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd ac yn cefnogi llesiant ar draws pob oed. Maent yn creu cymdeithas sy’n gwerthfawrogi cyfraniad a chysylltiad dros raniad a chamddealltwriaeth.
Ar ben hynny, mae gweithgarwch rhwng cenedlaethau yn ganolog i adeiladu cymunedau cynaliadwy a chydlynol. Drwy greu perthnasoedd sy’n para ar draws grwpiau oedran, rydyn ni’n meithrin undod cymdeithasol, cadernid a chyd-gefnogaeth – sylfeini sy’n hanfodol i fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu, o anghydraddoldeb economaidd i newid yn yr hinsawdd.
Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, rwy’n gweld yr effaith anhygoel dro ar ôl tro pan fyddwn ni’n gwneud hyn yn iawn. Rwy’n clywed gan bobl o bob oed sy’n cael pwrpas newydd, mwy o hyder, ysbrydoliaeth ac ymdeimlad dyfnach o berthyn i gymuned drwy gysylltu â chenedlaethau eraill.
Dyna pam y byddaf yn parhau i hyrwyddo dulliau pontio’r cenedlaethau ar bob lefel – mewn polisi, yn ymarferol ac yn ein bywydau bob dydd. Mae’n braf pontio cenedlaethau, ond mae hefyd yn hanfodol er mwyn creu’r math o Gymru rydyn ni i gyd eisiau byw ynddi: teg, trugarog ac yn llawn cyfleoedd i bawb, o bob oed.
Yn ystod Wythnos Ryngwladol Pontio’r Cenedlaethau eleni, byddwn yn ymrwymo i ddyfnhau’r cysylltiadau hyn, herio agweddau hen ffasiwn, a dathlu pŵer anhygoel dod â chenedlaethau at ei gilydd.