Ar ôl wythnos gyntaf brysur ond gwerth chweil yn swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, roeddwn i eisiau rhannu rhai syniadau a myfyrdodau cynnar ar sail yr hyn roedd pobl hŷn wedi’i godi gyda mi yn ystod fy ymweliadau â Gwynedd a Phowys.
Yn gyntaf oll, diolch yn fawr i’r holl bobl hŷn wnes i gwrdd â nhw, a’r unigolion a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw, am roi croeso mor gynnes i mi, ac am fod mor agored a gonest a rhannu cymaint â mi. Roedd hi’n amlwg eu bod nhw wir yn gwerthfawrogi rôl y Comisiynydd, sy’n fy ngwneud yn fwy penderfynol fyth o sicrhau newid cadarnhaol parhaol, fel roeddwn i wedi’i nodi yn fy Natganiad cyntaf. Diolch hefyd i dimau Age Cymru Gwynedd a Môn ac Age Cymru Powys am eu holl waith a’u cefnogaeth i drefnu’r ymweliadau a’r wybodaeth werthfawr roedden nhw wedi’i rhannu.
Roedd fy ymweliadau yng Ngwynedd yn dangos pa mor amrywiol mae cymunedau’n gallu bod, hyd yn oed mewn un ardal awdurdod lleol, sy’n golygu bod anghenion pobl hŷn yn gallu bod yn wahanol iawn. Er enghraifft, roedd llawer o’r bobl hŷn wnes i siarad â nhw yn y Bala wedi cael eu magu yno, roedd ganddyn nhw deulu yn yr ardal a rhwydweithiau cefnogi cymharol gryf, gan gynnwys drwy’r grŵp Paned a Sgwrs wythnosol fues i ynddo.
Yn groes i hynny, roedd pob person hŷn wnes i siarad â nhw yn Fairbourne wedi symud i’r ardal yn nes ymlaen mewn bywyd, ac yn aml roedd aelodau eu teulu yn byw yn bell i ffwrdd. Dywedodd pobl eu bod wedi gweld bod eu hanghenion wedi newid dros y blynyddoedd wrth iddyn nhw fynd yn hŷn, a’i bod yn anoddach dod o hyd i gefnogaeth a chael gafael ar wasanaethau.
Yn yr un modd, roedd y bobl hŷn wnes i siarad â nhw yn y Bala yn byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg gan fwyaf, tra bod y rhai a oedd yn byw yn Fairbourne yn siarad Saesneg i raddau helaeth.
Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos pam ei bod hi mor bwysig bod darparwyr gwasanaethau ar hyd a lled Cymru yn gweithio gyda phobl hŷn i ddeall amrywiaeth eu hanghenion a datblygu cymorth a gwasanaethau sy’n adlewyrchu’r rhain – ni fydd un ateb i bawb yn cyflawni’r hyn sydd ei angen ar bobl hŷn.
Wrth ymuno â Fan Cyngor Gwledig Age Cymru Powys ar gyfer ymweliadau â Bochrwyd a Llandrindod, cefais weld y gwahaniaeth mae modd ei wneud drwy gyswllt wyneb yn wyneb â phobl hŷn yn eu cymunedau. Roedd hyn yn sbarduno sgyrsiau sy’n datgelu manylion pwysig am amgylchiadau pobl a’r cymorth a allai fod ar gael, a meithrin perthnasoedd ac ymddiriedaeth.
Cafodd pob person hŷn a siaradodd â’r tîm gyfle i gysylltu â rhyw fath o gymorth ymarferol, gan gynnwys cymorth i hawlio Credyd Pensiwn a hawliau eraill, ymweliadau cartref i wirio effeithlonrwydd ynni, torri ewinedd a gofal traed, cyfeillio a gwasanaethau cefnogi cyfoedion eraill. Yn fwy cyffredinol, roedd pobl hŷn a oedd wedi ymweld â’r fan yn cael rhif ffôn y gallent ei ddefnyddio i gael gwybodaeth a chyngor. Roedd hyn yn amlwg yn cael ei werthfawrogi’n fawr mewn byd sy’n dod yn fwyfwy digidol.
Fodd bynnag, dywedodd y tîm wrthyf fod y gwasanaeth mewn perygl ar hyn o bryd oherwydd bydd eu cyllid yn dod i ben ym mis Ionawr. Mae hon yn broblem gyffredin i lawer o fudiadau’r trydydd sector, sy’n gallu gadael pobl hŷn heb gymorth.
Roedd y bobl hŷn wnes i siarad â nhw yn sôn am nifer o broblemau cyffredin, gan gynnwys effaith costau byw cynyddol. Roedd llawer yn flin ac yn poeni ar ôl colli’r Taliad Tanwydd Gaeaf. Roedd llawer o bobl hefyd wedi sôn bod y diffyg dewisiadau trafnidiaeth addas yn rhwystr penodol sy’n effeithio ar ansawdd eu bywyd. Roedd hyn yn golygu ei bod hi’n aml yn anodd, os nad yn amhosibl, gwneud pethau fel mynd i apwyntiadau meddygol, mynd i siopa, neu gwrdd â theulu a ffrindiau.
Wrth i mi lunio fy strategaeth a’m rhaglen waith, bydd clywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn mewn cymunedau o Fôn i Fynwy yn ffocws allweddol i mi a’m tîm. Bydd hyn yn sicrhau y bydd y camau byddaf yn eu cymryd yn sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl hŷn. Bydd y materion roedd pobl hŷn wedi sôn amdanyn nhw hefyd yn rhoi tystiolaeth hanfodol i mi i gefnogi fy ngalwadau am weithredu a gwelliannau ar draws amrywiaeth eang o bolisïau ac arferion.
Un peth yn benodol a wnaeth argraff arnaf wythnos yma oedd gwytnwch cynifer o’r bobl hŷn wnes i siarad â nhw. Ond mae’r gwytnwch hwn hefyd yn golygu bod y materion sy’n effeithio ar fywydau pobl hŷn yn aml yn gallu cael eu hanwybyddu.
Dyna pam y byddaf, fel Comisiynydd, yn sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed, a byddaf yn cyflwyno eu profiadau a’u pryderon i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau ac yn llunio polisïau, a fydd yn hanfodol i wireddu fy ngweledigaeth o Gymru sy’n arwain y ffordd o ran grymuso pobl hŷn, mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a galluogi pawb i fyw ac i heneiddio’n dda.