Diwrnod Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Gam-drin Pobl Hŷn: Amser newid ffocws
Bob blwyddyn ar 15 Mehefin, mae sefydliadau ym mhedwar ban byd yn gweithio gyda’i gilydd i dynnu sylw at raddfa, natur ac effaith y cam-drin y mae pobl hŷn yn ei brofi, yn ogystal â’r cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael, o dan faner ‘Diwrnod Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Gam-drin Pobl Hŷn’.
Pan sefydlwyd y diwrnod gan y Cenhedloedd Unedig bron i ddau ddegawd yn ôl, ychydig iawn o ddealltwriaeth oedd ymysg ymarferwyr a chymdeithas yn ehangach am y cam-drin y mae pobl hŷn yn ei wynebu. Felly, roedd sefydlu’r diwrnod yn gam pwysig ymlaen o ran sicrhau bod profiadau pobl hŷn yn cael eu cydnabod a thynnu sylw at yr angen i weithredu.
Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dangos bod y term ‘cam-drin pobl hŷn’ (elder abuse) yn gallu arwain at dybiaethau problemus a chanlyniadau anfwriadol sy’n tanseilio cynnydd o ran amddiffyn a chefnogi pobl hŷn.
Er enghraifft, mae’r term ‘cam-drin pobl hŷn’ yn lleihau unigolion a’u profiadau penodol i gategori, gan grwpio pobl yn ôl eu hoedran a’r ymdeimlad cyffredinol o fod yn ddioddefwr. Mae hyn yn atgyfnerthu stereoteipiau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran, gan gyflwyno pobl hŷn fel grŵp goddefol, unffurf – yn hytrach na chydnabod hunaniaeth ac anghenion unigol pobl a’r niwed y gallent fod yn ei ddioddef, ac ymateb yn unol â hynny.
Ar ben hynny, mae defnyddio’r term ‘cam-drin pobl hŷn’ yn awgrymu bod yr hyn y mae pobl hŷn yn ei brofi rywsut yn wahanol i’r cam-drin a wynebir gan bobl o grwpiau oedran eraill, sy’n effeithio ar y ffyrdd y mae pobl yn ymchwilio i’r materion hyn ac yn ymateb iddynt. Er enghraifft, gwyddom fod achosion lle’r amheuir bod person hŷn yn cael ei gam-drin yn aml yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol yn hytrach na’r heddlu, gan arwain at golli cyfleoedd i ganfod troseddau posibl a sicrhau cyfiawnder i unigolion.
Fel yr amlygir yn yr enghreifftiau hyn, gall y geiriau a ddefnyddiwn gael effaith bwerus ar y ffordd y mae materion yn cael eu deall a’u blaenoriaethu, ac – yn y pen draw – sut rydym yn ymateb iddynt.
Dyna pam yr hoffwn weld ‘Diwrnod Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Gam-drin Pobl Hŷn’ yn cael ei ailenwi a’i ailffocysu, i ddileu ieithwedd sy’n gallu bod yn rhwystr, ac sydd o bosibl yn cyfyngu ar uchelgais. Mae angen i ni fynd y tu hwnt i ‘godi ymwybyddiaeth’ o gam-drin pobl hŷn a chanolbwyntio mwy ar weithio gyda’n gilydd i gymryd camau ystyrlon i fynd i’r afael â hyn yn ei holl ffurfiau – gan adeiladu ar y cynnydd sydd wedi cael ei wneud yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.
Yn fy marn i, byddai ‘Diwrnod Rhyngwladol Rhoi Terfyn ar Gam-drin Pobl Hŷn’, sy’n adlewyrchu’r math o iaith a ddefnyddir mewn galwadau i weithredu tebyg i gefnogi grwpiau eraill, yn anfon neges lawer mwy pwerus – i bobl hŷn ac i gymdeithas yn gyffredinol.
Byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i helpu i gyflawni’r newid pwysig hwn, er mwyn sicrhau bod yr iaith a ddefnyddiwn yn adlewyrchu brys a phwysigrwydd yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni.