Bob blwyddyn, mae unigolion, grwpiau a sefydliadau ledled y byd yn dod at ei gilydd ar 1 Hydref i ddathlu’r cyfraniad sylweddol y mae pobl hŷn yn ei wneud i’n bywydau mewn cymaint o ffyrdd.
Yng Nghymru, mae hwn yn gyfraniad ariannol gwerth dros £2 biliwn, ac mae’n cynnwys gwerth cannoedd o filiynau o bunnoedd o waith gwirfoddol a gofal plant bob blwyddyn.
Ond mae’r cyfraniad y mae pobl hŷn yn ei wneud i’n bywydau a’n cymunedau yn werth llawer mwy na phunnoedd a cheiniogau yn unig.
Mae llawer o bobl hŷn ledled Cymru’n chwarae rhan hollbwysig yn ein cymunedau, gan drefnu a chefnogi amrywiaeth enfawr o grwpiau a gweithgareddau cymdeithasol, yn ogystal â darparu amrywiaeth eang o gefnogaeth i deuluoedd, ffrindiau a chymdogion a rhannu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad.
Yn aml, byddwch chi’n gweld pobl hŷn wrth galon yr ysbryd a’r gwytnwch sy’n diffinio cymunedau ledled Cymru, a byddai bywydau pob un ohonom yn llawer tlotach heb y cyfraniad hanfodol maen nhw’n ei wneud. Mae cymryd rhan yn y mathau hyn o weithgareddau hefyd o fudd i ni fel unigolion, gan gynnig cyfleoedd i gymryd rhan a chymdeithasu sy’n ein cynorthwyo i heneiddio’n dda.
Fodd bynnag, gall nifer o rwystrau, gan gynnwys iechyd, incwm a hygyrchedd gyfyngu ar y cyfleoedd i bobl hŷn wneud y cyfraniad pwysig hwn. Ar ben hynny, efallai y bydd pobl hŷn yn poeni nad oes croeso iddynt neu y byddant yn cael eu gwrthod oherwydd rhagfarn neu wahaniaethu ar sail oedran.
Dyna pam ei bod yn bwysig gweithio gyda phobl hŷn i gael gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau a’r anawsterau y mae pobl yn eu hwynebu a nodi sut y gellir mynd i’r afael â’r materion hyn. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pobl hŷn ledled Cymru’n cael y cyfleoedd a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i barhau i gyfrannu cymaint at ein bywydau mewn cymaint o ffyrdd, gan ddod ag ystod mor eang o fanteision i bob un ohonom.