Angen Help?
Older woman laughing with a younger woman

Blog y Comisiynydd: Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2024

i mewn Newyddion

Blog y Comisiynydd: Diwrnod Hawliau Gofalwyr 2024

Heb yr amrywiaeth eang o gymorth a ddarperir gan ofalwyr di-dâl yng Nghymru – llawer ohonynt yn bobl hŷn – ni fyddai ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu ymdopi.

Mae darparu’r gofal hanfodol hwn – sy’n werth biliynau o bunnoedd y flwyddyn – yn aml yn cael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant gofalwyr. Dyna pam mae hi mor bwysig eu bod yn gallu cael gafael ar y cymorth a’r hawliau sydd ar gael, er mwyn cael y cymorth y mae mawr ei angen arnynt.

Gwyddom, fodd bynnag, nad yw llawer o ofalwyr di-dâl yn ymwybodol o’u hawliau na’r hyn y mae ganddynt hawl iddo, sy’n golygu eu bod yn colli allan, ac yn aml yn wynebu heriau mawr ar eu pen eu hunain.

Dyna pam mae thema Dirwnod Hawliau Gofalwyr eleni – Adnabod eich Hawliau – yn bwysig er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth ac i rannu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol, fel bod gofalwyr yn gallu deall yn well beth sydd ar gael a ble y gallant gael help os oes ei angen arnynt.

Ond mae hefyd yn hynod bwysig bod cyrff cyhoeddus yn chwarae eu rhan drwy gyflawni eu dyletswyddau i sicrhau bod hawliau gofalwyr yn cael eu cynnal.

Gan ystyried hyn, mae’n destun pryder mawr bod adroddiad diweddar gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi canfod bod nifer o awdurdodau lleol yn methu yn eu dyletswyddau i gynnal hawliau gofalwyr. Yn frawychus, yn y meysydd yr ymchwiliwyd iddynt, dim ond 2.8% o ofalwyr a oedd wedi cael asesiad gofalwr – rhywbeth y mae ganddynt hawl i’w gael – a dim ond 1.5% o’r gofalwyr a oedd wedi cael asesiad a gafodd gynllun cymorth yn sgil hynny.

Mae’r ffigurau hyn yn cynrychioli bwlch dychrynllyd ac annerbyniol rhwng polisi ac ymarfer, ac maent yn codi cwestiynau difrifol ynghylch faint o ofalwyr mewn rhannau eraill o Gymru sy’n wynebu profiadau tebyg, yn enwedig gan eu bod yn adlewyrchu canfyddiadau ymchwil debyg a gynhaliwyd gan ADSS y llynedd. Hefyd, mae’n bwysig cofio bod y ffigurau hyn yn debygol o fod yn is fyth mewn termau real, o ystyried nad yw nifer sylweddol o bobl sy’n darparu gofal di-dâl yn ystyried eu hunain yn ‘ofalwyr’.

Mae hefyd yn destun pryder mawr, ar ôl bron i ddegawd o’r dyletswyddau hyn, nad yw llawer o ofalwyr yn cael gwybodaeth lawn am eu hawliau (gan gynnwys eu hawl i eiriolaeth), bod gwybodaeth yn aml yn wael, a bod anghysondebau mewn iaith a therminoleg sy’n achosi dryswch ac yn creu rhwystrau.

Dylai awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru edrych yn ofalus ar ganfyddiadau’r Ombwdsmon, yn ogystal â’r arferion da a nodir yn yr adroddiad, a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol i sicrhau eu bod yn cyflawni eu dyletswyddau statudol ac yn cynnal hawliau gofalwyr.

Ar ben hynny, dylai Llywodraeth Cymru hefyd ddefnyddio’r canfyddiadau i lywio ei hadolygiad sydd ar y gweill o’r Strategaeth Gofalwyr Di-dâl, ochr yn ochr â darparu cymorth ac adnoddau ychwanegol i awdurdodau lleol i adnabod gofalwyr di-dâl ac estyn allan atynt, ac i wella ymwybyddiaeth pobl o hawliau gofalwyr.

Rhaid cydnabod rôl gofalwyr – a’i dathlu – a dylai cynnal eu hawliau fod yn rhywbeth y mae pob corff cyhoeddus wedi ymrwymo iddo, gan helpu i sicrhau bod gofalwyr yn gallu cael gafael ar y cymorth a’r gefnogaeth sydd ar gael, oherwydd maent yn aml yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges