Angen Help?
A woman speaking into a megaphone alongside a woman holding a phone at a march

Blog y Comisiynydd: Diwrnod Hawliau Dynol 2024

i mewn Newyddion

Blog y Comisiynydd: Diwrnod Hawliau Dynol 2024

Ers i mi ddechrau yn fy swydd fel Comisiynydd rai misoedd yn ôl, rydw i wedi teithio ar hyd a lled Cymru yn cwrdd ac yn siarad â phobl hŷn i gael clywed fy hun am eu profiadau o fynd yn hŷn a’r materion a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu.

Ac yn aml, mae’r hyn mae pobl hŷn yn sôn amdano yn ymwneud â’u hawliau – ond fydd pobl hŷn ddim yn defnyddio’r math hwnnw o iaith yn aml.

Er enghraifft, mae pobl hŷn yn aml yn sôn am drafferthion cael gafael ar wasanaethau a chymorth, ac effaith hyn ar eu hiechyd a’u llesiant, neu sut maen nhw’n cael eu heithrio oherwydd bod mwy a mwy o wybodaeth a gwasanaethau’n symud ar-lein.

Dydy pobl hŷn ddim o reidrwydd yn ystyried bod y mathau hyn o faterion yn ymwneud â’n hawliau – fel ein hawliau i iechyd, i fywyd teuluol neu i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau.

Mae helpu pobl hŷn i feddwl am eu hawliau fel hyn yn hanfodol i wneud i hawliau deimlo’n fwy real a pherthnasol ym mywydau pobl o ddydd i ddydd, ac i helpu i sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu grymuso i ddefnyddio eu hawliau fel sail i herio arferion gwael.

Mae gan gyrff cyhoeddus rôl hollbwysig i’w chwarae yma hefyd. Er bod llawer o gynnydd wedi’i wneud o ran cydnabod pwysigrwydd hawliau mewn ystyr eang, rhaid symud nawr at ddeall beth mae hyn yn ei olygu mewn termau ymarferol.

Felly, mae angen i ni weld hawliau’n cael eu defnyddio i lywio polisïau a phenderfyniadau, yn ogystal â chael eu gwreiddio yn y gwaith o ddatblygu, darparu a gwella gwasanaethau cyhoeddus.

Mae dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau yn cefnogi cyrff cyhoeddus i gyflawni’r dyletswyddau statudol sydd ganddynt o dan ystod o ddeddfwriaeth, gan gynnwys deddfwriaeth ledled y DU fel y Ddeddf Hawliau Dynol (1998) a’r Ddeddf Cydraddoldeb (2010) a deddfwriaeth sy’n benodol i Gymru, fel Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Ond yn bwysicach o lawer, bydd defnyddio hawliau mewn ffordd ymarferol yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau a chymorth yn canolbwyntio mwy ar anghenion unigol pobl, gan adlewyrchu’r nodau a’r uchelgeisiau sy’n sail i ddeddfwriaeth hawliau.

Pan dderbyniodd y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol yn 1948, dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, Eleanor Roosevelt, fod hawliau dynol yn dechrau yn y ‘llefydd bach yn agos at gartref’ – yn ein cartrefi, yn ein cymunedau ac yn ein gweithleoedd, er enghraifft. Roedd hi’n dadlau oni bai fod hawliau’n ystyrlon yn y llefydd hyn, bod perygl na fydd ganddynt fawr o ystyr yn unrhyw le.

Rwy’n siŵr y byddai llawer o bobl hŷn yn cytuno â hynny, yn enwedig y rhai sydd wedi cael problemau wrth gynnal eu hawliau.

Dyna pam mae ‘gwneud hawliau’n real’ ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus yn hanfodol, a bydd yn parhau i fod yn ffocws allweddol i’m gwaith fel Comisiynydd, heddiw a bob dydd.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges