Aelodau Seneddol yn cael eu hannog i gefnogi pobl hŷn a gwrthwynebu’r cynnig i ddarparu Taliadau Tanwydd Gaeaf ar sail prawf modd
Dywedodd Rachel Bowen, Cyfarwyddwr Polisi yn Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rydyn ni’n croesawu’r bwriad i gynnal dadl a phleidlais yn San Steffan yr wythnos nesaf ar y cynnig i gynnal prawf modd ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf oherwydd bydd yn gyfle i aelodau orfodi Llywodraeth y DU i wneud tro pedol gan helpu i amddiffyn cannoedd o filoedd o bobl hŷn rhag effaith penderfyniad y Canghellor.
“Fel y mae’r polisi ar hyn o bryd, bydd llawer o bobl hŷn yn cael eu gwthio i sefyllfa o dlodi neu dlodi pellach, a bydd llawer mwy yn ei chael hi’n anodd cael deupen llinyn ynghyd wrth i’w hiechyd a’u lles ddirywio oherwydd eu bod yn byw mewn cartrefi oer.
“At hynny, bydd miloedd lawer o bobl hŷn sy’n gymwys i gael Taliad Tanwydd Gaeaf yn colli’r cymorth hanfodol hwn oherwydd nad ydynt yn hawlio Credyd Pensiwn (er bod ganddynt hawl iddo), ac nid yw’r cynlluniau a gyhoeddwyd i alluogi pobl i hawlio Credyd Pensiwn yn adlewyrchu’r rhesymau cymhleth pam nad yw pobl yn ei hawlio ar hyn o bryd.
“Nid yw ychwaith yn mynd i’r afael â’r trothwy caled, lle bydd pobl sydd efallai ond ychydig geiniogau dros y trothwy i hawlio Credyd Pensiwn nawr yn colli allan ar gannoedd o bunnoedd a fyddai’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i’w sefyllfa ariannol.
“Felly, byddem yn annog Aelodau Seneddol i gefnogi eu hetholwyr hŷn a phleidleisio yn erbyn y mesurau, er mwyn diogelu’r Taliad Tanwydd Gaeaf a’r cymorth hanfodol mae’n ei ddarparu, yn enwedig gyda’r gaeaf ar ein gwarthaf.”