Angen Help?

Cylchlythyr Chwefror 2026

A close-up image of colourful Spring Daffodils.

Neges gan Rhian

Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd! Rwy’n gobeithio eich bod wedi bod yn cadw’n iach ac yn gynnes dros gyfnod y gaeaf, a’ch bod yn edrych ymlaen at ddyddiau hirach, mwy golau wrth i’r gwanwyn agosáu.

Dros y gaeaf mae nifer o adroddiadau mawr wedi’u cyhoeddi, mae gwaith wedi’i wneud ar ddau ddigwyddiad bord gron ac rydym yn ymgysylltu’n barhaus gyda phobl hŷn, sefydliadau a rhanddeiliaid ledled Cymru, ac mae’r rhain gyda’i gilydd wedi cyfrannu at fy nod o alluogi pob person hŷn yng Nghymru i fyw a heneiddio’n dda.

Y chwarter hwn, mae fy nhîm wedi cyhoeddi tri adroddiad mawr. Mae’r cyntaf– Archwilio Oedraniaeth Ddigidol – yn darparu archwiliad dwfn i’r rhwystrau sy’n cael eu creu i’r genhedlaeth hŷn wrth i’n cymdeithas gael ei digideiddio fwyfwy. Roedd fy ail adroddiad: Pobl Hŷn a Thlodi yng Nghymru, yn defnyddio profiadau bywyd pobl hŷn, ochr yn ochr ag ystadegau, i ddatgelu sefyllfaoedd gwirioneddol a’r dewisiadau ariannol amhosibl y mae llawer o bobl hŷn yn eu hwynebu bob dydd. Yn olaf, mae ‘Lle i Bawb? Barn pobl hŷn ar fynediad i gyfleusterau parcio ceir yng Nghymru’ yn dadansoddi barn pobl hŷn ynglŷn â digideiddio taliadau meysydd parcio ceir ac mae’n cymharu hyn â data awdurdodau lleol ar yr opsiynau a’r systemau talu sydd ar gael yn y meysydd parcio sy’n cael eu rhedeg ganddynt.

Rwyf hefyd wedi cyhoeddi papur briffio ar ‘Wella ymatebion i brofiadau pobl hŷn o drais a cham-drin rhywiol’, sy’n crynhoi digwyddiad bord gron a gynhaliais ym mis Medi 2025, a oedd yn trafod y pwnc hwn. Hefyd, ym mis Tachwedd 2025, fe wnaeth fy nhîm a minnau gynnal digwyddiad bord gron ar iechyd y geg a deintyddiaeth yng Nghymru, fel rhan o fy ymrwymiad i archwilio mynediad pobl hŷn at ddeintyddiaeth a gwasanaethau iechyd y geg.

Yn olaf, rwyf wedi bod mor brysur ag erioed gyda digwyddiadau ymweld, ac yn ystod y chwarter hwn rwyf wedi cael cyfle i gynnal ymweliadau wythnos o hyd i Sir Benfro a Merthyr Tudful. Roedd yr wythnosau hyn yn darparu gwybodaeth werthfawr am yr amrywiaeth o grwpiau a gweithgareddau sydd ar gael i bobl hŷn yn yr ardaloedd hyn, a chefais gyfle i siarad yn uniongyrchol gyda phobl hŷn, a deall y gwahanol ffyrdd maen nhw’n cael eu cefnogi i fyw a heneiddio’n dda.

Fel bob amser, os oes angen cymorth a chefnogaeth arnoch gyda mater rydych yn ei wynebu, gallwch gysylltu â fy Nhîm Cyngor a Chymorth ar 03442 640 670 neu drwy e-bost ask@olderpeople.wales.

Mae pobl hŷn yn wynebu risg sylweddol o oedolaeth ddigidol ac allgau cymdeithasol

Roedd adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Hydref gan y Comisiynydd yn amlygu’r materion a’r rhwystrau sylweddol y mae pobl hŷn yn eu hwynebu yn sgîl y mater cynyddol o ‘oedolaeth ddigidol’, ac yn galw am gamau gweithredu i atal pobl hŷn rhag cael eu hallgáu mewn byd sy’n troi’n gynyddol ddigidol.

Canfu’r adroddiad bod oedolaeth ddigidol yn creu rhwystrau i bobl hŷn mewn nifer o feysydd – o gael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, i gyfleoedd dysgu gydol oes, i gyfranogiad cymdeithasol a gweithgareddau hamdden – yn aml o ganlyniad i systemau ar-lein sy’n tybio llythrennedd digidol ac sydd wedi’u cynllunio gyda defnyddwyr iau mewn golwg.

Roedd yr adroddiad hefyd yn pwysleisio bod gweithwyr hŷn yn wynebu rhwystrau systemig mewn cysylltiad â chyflogaeth, yn ogystal â’r ffaith bod systemau sy’n defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn aml yn ymgorffori rhagfarn yn erbyn pobl hŷn.

Cyflwynodd y Comisiynydd nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus yn yr adroddiad, yn ogystal â’r camau gweithredu y dylai’r sector technoleg a dylunwyr gwasanaethau digidol eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd.

Mae’r rhain yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth gyda phobl hŷn i ddylunio systemau a gwasanaethau ar y cyd, creu gofyniad bod pob cynnyrch a gwasanaeth digidol sy’n cael eu comisiynu’n gyhoeddus yn cyflawni safonau mynediad a defnyddioldeb oedran-gynhwysol, a sicrhau bod polisïau digidol yn sicrhau bod polisïau digidol yn ystyried ac yn cydnabod profiadau amrywiol pobl hŷn.

Wrth drafod yr adroddiad, dywedodd y Comisiynydd:

“Mae gwasanaethau a systemau digidol yn chwarae rôl gynyddol yn ein bywydau o ddydd i ddydd, ond mae’r datblygiad cyflym tuag at ‘digidol yn gyntaf’ yn golygu bod llawer o bobl hŷn yn cael eu gadael ar ôl.

“Mae pobl hŷn yn wynebu rhwystrau amrywiol yn nhermau cael mynediad at blatfformau ar-lein a’u defnyddio, sy’n cynyddu’r risg y bydd pobl yn canfod eu hunain wedi’u hallgáu yn ddigidol ac yna’n gymdeithasol.

“Ochr yn ochr â hyn, mae rhagfarnau sy’n gysylltiedig ag oedran yn aml wedi’u hymgorffori mewn Deallusrwydd Artiffisial ac algorithmau, a all arwain at wahaniaethu a thriniaeth wael, er enghraifft llai o gywirdeb mewn diagnosis gofal iechyd neu arferion cyflogaeth sy’n allgau pobl hŷn.

“Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru fynd i’r afael â’r materion hyn ar fyrder, yn ogystal â chwmnïau sy’n dylunio a datblygu’r platfformau a’r systemau sy’n darparu’r rhain.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma – https://comisiynyddph.cymru/adnodd/oedraniaeth-ddigidol/  – neu cysylltwch os hoffech gopi papur ohono.

Adroddiad y Comisiynydd yn datgelu graddfa ac effaith tlodi ymhlith pobl hŷn yng Nghymru

Wedi’i gyhoeddi ym mis Tachwedd, datgelodd adroddiad Pobl Hŷn a thlodi yng Nghymru y Comisiynydd bod 1 o bob 6 o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi yn awr, gyda rhai grwpiau wedi’u heffeithio’n llawer mwy difrifol. Mae llawer o bobl hŷn yn canfod eu hunain yn cael anhawster i ymdopi ag effaith yr argyfwng costau byw a’r prisiau sy’n codi’n gyflym, sydd wedi cael effaith yn benodol ar unigolion sy’n byw ar incwm sefydlog.

Mae’r adroddiad hwn yn seiliedig ar eiriau pobl hŷn eu hunain, a gasglwyd drwy waith ymchwil ac ymgysylltu, ochr yn ochr â’r data ac ystadegau diweddaraf sydd ar gael, i bwysleisio gwirioneddau tlodi yn ddiweddarach mewn bywyd.

Mae’r adroddiad yn amlygu’r dewisiadau amhosibl y mae llawer o bobl hŷn yn cael eu gorfodi i’w gwneud bob dydd – gydag 1 o bob 5 o bobl hŷn yng Nghymru yn mynd heb wres, a chwarter yn methu prydau neu’n bwyta llai – a’r canlyniadau difrifol y gall y rhain eu cael ar iechyd a llesiant pobl.

Mae’r rhain yn arbennig o acíwt yn ystod y gaeaf, pan mae tywydd oer a deiet annigonol yn cyfrannu at gyfraddau marwolaeth uwch ymhlith pobl hŷn, yn ogystal â chostau aruthrol y gellir eu hosgoi i’r GIG – amcangyfrifir bod hyn dros £40 miliwn y flwyddyn.

Mae’r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gyflenwi ystod o gamau gweithredu i sicrhau bod pobl hŷn sy’n byw mewn tlodi yn derbyn cefnogaeth well, gan gynnwys mynd i’r afael ag ‘ymyl dibyn’ y Credyd Pensiwn, sefydlu cronfa newydd i ddarparu cymorth i bobl hŷn sy’n profi anawsterau a chynyddu’r buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni. Mae’r Comisiynydd yn galw hefyd am gyllid i awdurdodau lleol i’w galluogi i estyn allan i’r rhai a allai fod yn methu allan ar y cymorth y mae ganddyn nhw hawl i’w gael.

Dywedodd y Comisiynydd:

“Gallai buddsoddi i fynd i’r afael â thlodi ddatgloi degau o filiynau o bunnoedd y gellid eu defnyddio i wella ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau yma yng Nghymru.

“Mae angen mwy o gymorth ar bobl hŷn sy’n byw mewn tlodi neu sy’n wynebu anawsterau ariannol, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn gymwys ar hyn o bryd i dderbyn mathau eraill o gymorth.

“Yn y tymor hwy, mae angen i ni gael trafodaeth genedlaethol ar yr hyn sy’n cynrychioli incwm digonol a fyddai’n ein galluogi i fyw a heneiddio’n dda, a ddylai fod yn fan cychwyn ar gyfer creu system bensiwn gynaliadwy sy’n darparu incwm digonol i bob un ohonom pan fyddwn yn ymddeol.

“Byddaf yn parhau i ddadlau o blaid camau gweithredu pendant, cydgysylltiedig ar lefel leol a chenedlaethol i fynd i’r afael â thlodi, wedi’u cefnogi gan dystiolaeth bwerus sy’n seiliedig ar brofiadau bywyd pobl hŷn, er mwyn helpu i greu Cymru sy’n fwy teg, iach a chynhwysol.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma – https://comisiynyddph.cymru/adnodd/mae-adroddiad-newydd-yn-datgelu-maint-ac-effaith-tlodi-ymhlith-pobl-hyn-yng-nghymru/  – neu cysylltwch os hoffech gopi papur ohono.

Lle i bawb? Barn pobl hŷn ar fynediad i gyfleusterau parcio ceir yng Nghymru

Wedi’i gyhoeddi ym mis Rhagfyr, roedd adroddiad ‘Lle i Bawb?’ y Comisiynydd yn pwysleisio’r anawsterau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu fwyfwy wrth geisio parcio eu car oherwydd y defnydd cynyddol o systemau talu digidol ac ar apiau.

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar brofiadau a rannwyd gan bobl hŷn, yn ogystal â data a ddarparwyd i’r Comisiynydd gan bob awdurdod lleol, sy’n darparu ciplun o’r opsiynau a systemau talu sydd ar gael yn y meysydd parcio maent yn eu rhedeg.

Mae canfyddiadau’r Comisiynydd yn dangos, er bod y rhan fwyaf o feysydd parciau awdurdodau lleol yng Nghymru yn parhau i gynnig ystod o opsiynau talu, gan gynnwys arian parod mewn llawer o achosion, mae barn llawer o bobl hŷn nad yw hyn yn wir mwyach yn effeithio ar eu hannibyniaeth, eu llesiant a’u gallu i gymryd rhan mewn bywyd cymunedol.

Yn ogystal, mae’n ymddangos nad yw effaith bosibl cael gwared ar opsiynau talu arian parod ar bobl hŷn wedi’i chydnabod yn llawn, gyda chyfleoedd cyfyngedig i bobl hŷn allu lleisio eu barn a dylanwadu ar brosesau gwneud penderfyniadau.

Wrth drafod ei chanfyddiadau, dywedodd y Comisiynydd:

“I lawer o bobl hŷn, yn arbennig y rhai heb ffôn clyfar neu bobl â sgiliau digidol cyfyngedig, mae’r defnydd cynyddol o systemau talu digidol ac apiau yn creu teimladau o rwystredigaeth ac allgáu.

“O ystyried nad oes gan tua thraean o bobl 75+ fynediad i’r rhyngrwyd, ac nad yw traean o bobl dros 65 oed yn defnyddio ffôn clyfar, mae fy nghanfyddiadau’n pwysleisio’r angen am ddatrysiadau cynhwysol sy’n sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu gadael ar ôl mewn byd sy’n gynyddol ddigidol.

“Dyna pam fy mod yn galw ar awdurdodau lleol i gymryd ystod o gamau gweithredu i ymateb i’r materion a nodwyd, gan gynnwys cynnal nifer o opsiynau talu, a gwella dulliau cyfathrebu er mwyn hyrwyddo argaeledd opsiynau talu nad ydynt yn rhai digidol.

“Mae sicrhau y gall pawb gael mynediad at wasanaethau fel parcio ceir yn bwysig er mwyn galluogi pobl hŷn i barhau i gyfrannu’n llawn mewn bywyd cymunedol a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae hyn yn hanfodol er mwyn creu cymunedau sy’n oed gyfeillgar, lleoedd lle gall pobl o bob oed fyw a heneiddio’n dda, wedi’u cefnogi gan ddylunio cynhwysol, gwasanaethau hygyrch, a rhwydweithiau cymdeithasol cryf.”

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma – https://comisiynyddph.cymru/adnodd/lle-i-bawb-barn-pobl-hyn-ar-fynediad-i-gyfleusterau-parcio-ceir-yng-nghymru/ – neu cysylltwch os hoffech gopi papur ohono.

Gwella ymatebion i brofiadau pobl hŷn o drais a cham-drin rhywiol

Ym mis Medi 2025, daeth y Comisiynydd ag arbenigwyr sy’n gweithio ar draws y sector cyhoeddus a gwirfoddol ynghyd i archwilio’r camau gweithredu sydd eu hangen i wella ymatebion i brofiadau pobl hŷn o drais a cham-drin rhywiol.

Roedd gan bawb a gymerodd ran brofiad uniongyrchol o weithio gyda phobl hŷn a oedd wedi’u heffeithio gan drais neu gam-drin rhywiol, a oedd yn allweddol er mwyn sicrhau bod y trafodaethau ac unrhyw benderfyniadau i weithredu yn gwbl seiliedig ar eu profiadau bywyd.

Rhannodd cydweithwyr a fynychodd y digwyddiad bord gron nifer o enghreifftiau o brofiadau pobl hŷn o gael mynediad at wasanaethau ac ymgysylltu â nhw, ac ystyriwyd sut y gellid gwella’r rhain, gyda mewnwelediadau o’r trafodaethau hyn yn hollbwysig er mwyn nodi ‘meysydd i’w gweithredu’ sydd wedi’u cynnwys ym mhapur briffio’r Comisiynydd.

Mae’r papur briffio hwn wedi’i rannu’n dair adran. Mae’r adran gyntaf yn canolbwyntio ar ganfyddiadau cyfranogwyr o heriau ymateb yn effeithiol i brofiadau pobl hŷn o gam-drin neu drais rhywiol. Mae’r ail adran yn tynnu sylw at yr hyn y mae angen ei newid o safbwynt cyfranogwyr, elfennau gweithredu, a’r ffactorau sy’n ysgogi newid. Mae’r adran olaf yn amlinellu’r ymrwymiadau a wnaed gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn dilyn y digwyddiad trafod.

Gallwch ddarllen y papur briffio yma – https://comisiynyddph.cymru/adnodd/gwellar-ffordd-rydym-yn-ymateb-i-brofiadau-pobl-hyn-o-gam-drin-rhywiol-a-thrais-rhywiol/  – neu cysylltwch os hoffech gopi papur ohono.

Digwyddiad bord gron ar iechyd y geg a deintyddiaeth yng Nghymru

Roedd Rhaglen Waith 2025-26 y Comisiynydd yn cynnwys ymrwymiad i archwilio mynediad pobl hŷn at wasanaethau deintyddiaeth ac iechyd y geg yng Nghymru, oherwydd bob pobl hŷn ledled Cymru yn aml yn codi materion a phryderon ynglŷn â’r anawsterau maen nhw’n eu hwynebu’n aml wrth geisio dod o hyd i apwyntiadau deintyddol.

Felly cynullodd y Comisiynydd gyfarfod bord gron ar 12 Tachwedd 2025, i ddod â rhanddeiliaid polisi ac ymarfer iechyd y geg a deintyddiaeth ynghyd, yn ogystal â rhanddeiliaid sy’n gweithio’n ehangach ar draws meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, i archwilio sut y gallai integreiddio iechyd y geg a deintyddiaeth pobl hŷn â modelau atal, triniaeth a gofal cymunedol newydd fod yn fuddiol i bobl hŷn.

Gallwch ddarllen crynodeb o’r digwyddiad bord gron yma – https://comisiynyddph.cymru/adnodd/trafodaeth-bord-gron-am-iechyd-y-geg-a-deintyddiaeth-yng-nghymru/  – neu cysylltwch os hoffech gopi papur ohono.

Siapio dyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru

Cafwyd ymateb rhagorol i Arolwg Dyfodol Gofal Cymdeithasol y Comisiynydd, a ddaeth i ben ddiwedd mis Ionawr.

Derbyniwyd cyfanswm dros 300 o ymatebion gan bobl hŷn ledled Cymru, a rannodd eu profiadau o dderbyn help a chymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol mewn ystod o leoliadau, gan gynnwys cartrefi pobl, cartrefi gofal preswyl, a gwasanaethau cymunedol fel canolfannau dydd. Ochr yn ochr â hyn, cynhaliwyd cyfweliadau ffôn hefyd i gasglu gwybodaeth ychwanegol gan sampl o gyfranogwyr.

Roedd y Comisiynydd yn awyddus i glywed gan bobl hŷn er mwyn dysgu mwy am beth sy’n gweithio’n dda yn awr a lle mae angen gwelliannau, er mwyn helpu i sicrhau bod gwasanaethau yn y dyfodol yn canolbwyntio ar yr hyn sydd wir yn bwysig i bobl hŷn.

Mae’r Comisiynydd a’i thîm yn dadansoddi’r dystiolaeth a rannwyd yn awr er mwyn nodi materion allweddol, enghreifftiau o arfer da a’r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni unrhyw welliannau angenrheidiol.

Dywedodd y Comisiynydd:

“Hoffwn ddiolch i bawb a dreuliodd amser yn ymateb i fy arolwg Dyfodol Gofal Cymdeithasol ac am rannu eu profiadau o gael mynediad at a derbyn gofal a chymorth.

“Mae gan ofal cymdeithasol rôl hollbwysig yn cefnogi llawer o bobl hŷn yng Nghymru i fyw’n ddiogel ac annibynnol, ond mae pryderon sy’n cael eu rhannu’n aml gyda fi yn awgrymu nad yw profiadau pobl yn cyrraedd y safon ddisgwyliedig.

“Dyma pam fy mod yn archwilio’r materion hyn mewn mwy o fanylder, gan ddefnyddio lleisiau pobl hŷn fel fy nhystiolaeth, er mwyn nodi’r anawsterau mae pobl yn eu hwynebu a nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r rhain.

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phobl hŷn a sefydliadau allweddol ledled Cymru i ysgogi newid gwirioneddol a helpu i greu system gofal cymdeithasol sy’n grymuso pobl hŷn i fyw’n dda, heneiddio’n dda a chadw mewn cysylltiad, a sicrhau’r un pryd bod pobl hŷn yn cael eu trin gyda’r urddas a’r parch y mae gan bawb hawl iddo.”

Cyfarfod a siarad â phobl hŷn ledled Cymru

Yn ystod y chwarter diwethaf, mae’r Comisiynydd wedi bod yn brysur yn teithio ar hyd a lled Cymru, i gyfarfod a siarad yn uniongyrchol â phobl hŷn, i ddysgu mwy am eu profiadau o dyfu’n hŷn yn eu cymunedau lleol, yn ogystal â’r materion y gallent fod yn eu hwynebu a’r newidiadau yr hoffent eu gweld. Mae’r digwyddiadau ymweld hyn wedi darparu cyfleoedd hefyd i rannu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol a darparu cyngor a chymorth ar faterion amrywiol.

Ym mis Tachwedd, cynhaliodd y Comisiynydd ddau ymweliad gwahanol wythnos o hyd, un yn Sir Benfro a’r llall ym Merthyr Tudful. Roedd y ddau ymweliad wythnos yn gyfle i’r Comisiynydd fynychu ystod eang o ddigwyddiadau, a siarad gyda nifer fawr o bobl hŷn, a roddodd syniad iddi o sut mae pobl yn byw eu bywydau, y pethau maen nhw’n eu mwynhau ac yn eu gwerthfawrogi, a’r camau gweithredu a’r cymorth sy’n eu galluogi i fyw a heneiddio’n dda.

Derbyniodd y Comisiynydd a’i thîm groeso cynnes iawn gan bawb yr ymwelodd â nhw, ac rydym yn diolch i bawb a siaradodd gyda ni am rannu eu profiadau mor agored ac onest, a’n helpu i nodi materion cyffredin a newydd sy’n llywio gwaith y Comisiynydd i ddylanwadu ar bolisi ac arfer.

Mae gennym lawer mwy o ddigwyddiadau ymweld wedi’u trefnu ar hyd a lled Cymru, ond os hoffech i’r Comisiynydd ymweld â’ch grŵp chi, cysylltwch ar 03442 640 670 neu anfon e-bost i ask@olderpeople.wales.

Dyma giplun o’r digwyddiadau ymweld a fynychwyd gan y Comisiynydd a’i thîm yn ystod y chwarter diwethaf:

Pobl Hŷn

  • Sir Ddinbych – Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys Awelon
  • Sir Ddinbych – Dathliadau Oed gyfeillgar
  • Aberdâr – Fforwm 60+ Glyn Rhedynog
  • Sir Benfro – Cofion Cynnes
  • Gwynedd – Lle’n y Dre, Dolgellau
  • Gwynedd – Fforwm Pobl Hŷn De Meirionnydd
  • Bro Morgannwg – Music in Mind, Y Bont-faen
  • Castell-nedd – Prifysgol y Drydedd Oes U3A
  • Bro Morgannwg – Ffrindiau a Chymdogion y Bari
  • Torfaen – Action for Elders, Grŵp Ponthir
  • Torfaen – U3A
  • Pen-y-bont ar Ogwr – Cymdeithas Gymraeg Porthcawl
  • Powys – Sefydliad y Merched Llanddewi yn Hwytyn
  • Wrecsam – Digwyddiad Dathlu Rainbow Foundation
  • Wrecsam – Digwyddiad Dathlu Oed gyfeillgar
  • Abertawe – Clwb Cinio Glannau Llwchwr

Yn yr ymweliadau wythnos o hyd i Ferthyr Tudful a Sir Benfro, fe ymwelodd y Comisiynydd â’r grwpiau a’r sefydliadau canlynol:

  • Sir Benfro
    • Cyfleoedd Dydd Gofal Ychwanegol Crymych
    • Orchard Court, Llety Gwarchod Johnston
    • Canolfan Hamdden Hwlffordd
    • Cradle Choir
    • Oriel VC
    • Cymunedau Oed gyfeillgar Solfach, Tyddewi a Llanrhian
    • Clwb dydd Mercher Cymorth Dementia Saundersfoot
    • Canolfan Gymunedol Hubberston a Hakin
    • Tŷ Martello
    • Fforwm 50+ Sir Benfro
    • Strength Academy Wales
    • Clwb Cinio Caeriw
  • Merthyr Tudful
    • Sefydliad Gellideg – Gofalwyr Dementia
    • Clwb Dros 60 Pentrebach ac Abercannaid
    • Merthyr Valley Veterans
    • Tŷ Gurnos Newydd a Llysfaen
    • Canolfan Hamdden Halo
    • Grŵp Bowls Dementia y Gymdeithas Alzheimer’s
    • Grŵp ‘Pobl Gyda’i Gilydd’, Treharris
    • Cartrefi Cymoedd Merthyr
    • Grŵp Gofalwyr Rheilffordd Dowlais

Yn ogystal â’r digwyddiadau ymweld gyda phobl hŷn yn ystod y misoedd diwethaf, mae’r Comisiynydd wedi cynnal cyfarfodydd gyda rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Gweinidogion Cymru, Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol, ac uwch arweinwyr cyrff cyhoeddus allweddol fel Gofal Cymdeithasol Cymru a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Roedd y cyfarfodydd hyn yn gyfle i’r Comisiynydd godi materion a phryderon, tynnu sylw at brofiadau pobl hŷn ac archwilio’r camau gweithredu sydd eu hangen i greu newid cadarnhaol.

Mae tîm y Comisiynydd wedi cyfrannu hefyd at ystod eang o ddigwyddiadau rhanddeiliaid a chynadleddau ar hyd a lled Cymru ac ymhellach, i siapio trafodaethau a dylanwadu ar bolisi ac arfer, a chyflwyno areithiau neu gyflwyniadau mewn llawer o achosion neu gymryd rhan mewn sesiynau holi ac ateb, fel rhan o banel arbenigol. Yn ystod y chwarter diwethaf, mae’r rhain wedi cynnwys:

  • Cynhadledd Gofal Cymdeithasol Cenedlaethol
  • Cynhadledd Rheolwyr Practisau Meddygon Teulu Cymru
  • Digwyddiad Hawliau Gofalwyr yn y Senedd
  • NEA Cymru – Cynhadledd Tlodi Tanwydd Cymru 2025
  • Cyfarfod bord gron Cynghrair Henoed Cymru ar atal ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cynhadledd Deallusrwydd Artiffisial (AI) mewn Gofal Iechyd
  • Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Uwchgynhadledd Datgyflyru GIG Cymru
  • Cynghrair Iechyd a Llesiant Cydffederasiwn GIG Cymru

A hoffech wybod mwy am ein hymgysylltiad gyda phobl hŷn a rhanddeiliaid ledled Cymru? Dilynwch ni ar X / Facebook / LinkedIn neu ewch i Ddyddiadur Ymweliadau’r Comisiynydd: https://comisiynyddph.cymru/dyddiadur-ymweliadaur-comisiynydd/

Sbotolau ar…

Amgueddfeydd yn Ysbrydoli Atgofion: Gweithio ar gyfer Dementia

Yng nghyfarfod mis Hydref grŵp Cymuned Ymarfer y Comisiynydd cafwyd adroddiad gan Gareth Rees, Arweinydd Lleisiau Dementia yn Amgueddfa Gymru, ar Brosiect Ysbrydoli Atgofion yr Amgueddfa:

Mae’r prosiect yn bartneriaeth tair blynedd (2022 – 2025) gyda Chymdeithas Alzheimer’s Cymru, wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae’n defnyddio amgueddfeydd, casgliadau ac adnoddau i gefnogi llesiant pobl sy’n byw gyda dementia. Cadarnhawyd y byddai’r prosiect yn parhau hyd at fis Mai 2026.

Mae’r prosiect yn cael ei gynnal ar draws saith amgueddfa genedlaethol yng Nghymru ac mae wedi datblygu pecynnau hyfforddiant a chymorth gyda mewnbwn gan  y Grŵp Llais Dementia mewn Treftadaeth a chydweithrediad partneriaid cymunedol.

Ym mis Medi 2025, fe ymwelodd y Comisiynydd â Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, un o’r amgueddfeydd sy’n cymryd rhan, i fynychu taith dementia gyfeillgar, a oedd yn cynnwys llwybr hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, a phroses gyfathrebu glir a chyson o bob cam o’r ymweliad. Mae’r amgueddfa wedi cynnal gwasanaethau dementia gyfeillgar eraill yn y gorffennol, er enghraifft Caffi Mine, a oedd yn rhoi cyfle i ymwelwyr hel atgofion a sgwrsio am dreftadaeth ddiwydiannol De Cymru.

Mae’r prosiect yn darparu gofod diogel i’r rhai sy’n byw gyda dementia i gysylltu a dysgu mwy am hanes lleol, a thrafod eu hatgofion o dyfu i fyny yn y cymunedau hyn.

Am wybodaeth bellach am brosiect Ysbrydoli Atgofion yr Amgueddfa, ewch i – <https://amgueddfa.cymru/lles/amgueddfeydd-yn-ysbrydoli-atgofion-gweithio-dros-ddementia>

Adeiladu Dyfodol Cryfach i Gyn-filwyr Hŷn

Rhoddodd Heidi Holland, o Adeiladu Dyfodol Cryfach i Gyn-filwyr Hŷn gyflwyniad gwerthfawr hefyd i aelodau Grŵp Cymuned Ymarfer y Comisiynydd, a oedd yn tynnu sylw at gwrs hyfforddiant newydd a gynlluniwyd i fynd i’r afael â’r heriau unigryw y mae cyn-filwyr hŷn yn eu hwynebu:

Yn 2025, roedd tua 650,000 o gyn-filwyr dros 80 oed yn y DU. Nod y cwrs yw codi ymwybyddiaeth ymhlith staff rheng flaen yn y GIG, awdurdodau lleol  a sectorau gwirfoddol ynglŷn ag anghenion penodol cyn-filwyr hŷn a’r dulliau gorau o’u cefnogi. Mae’r cwrs yn gryno a gellir ei gwblhau mewn dim ond 30-45 munud ac mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Wedi’i ddatblygu yng Nghymru gyda chyrhaeddiad ar draws y DU, mae’r cwrs yn ceisio creu dull cyson o ddarparu gofal i gyn-filwyr. Bydd yn helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall a chefnogi cyn-filwyr hŷn yn well ar lefel leol. Fel model hyfforddi ataliol, mae’n canolbwyntio ar leihau aildderbyniadau i’r ysbyty trwy feithrin cysylltiadau cymunedol cryfach.

Mae’r canlyniadau a ragwelir o’r fenter hon yn cynnwys dull gweithredu unedig ar draws y DU ar gyfer gofalu am gyn-filwyr. Drwy sicrhau bod pob cyn-filwr sy’n dod i gysylltiad â gofal y GIG, awdurdodau lleol neu’r trydydd sector yn cael eu nodi, bod marciwr meddygol cyn-filwyr yn cael ei roi ar eu cofnodion a’u bod yn cael cynnig cysylltiadau i rwydweithiau cymorth lleol i gyn-filwyr. Bydd hyn yn arwain at fwy o gysylltiadau personol mewn cymunedau, a fydd yn helpu i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd.

Am wybodaeth bellach, ewch i – https://www.ageuk.org.uk/cymraeg/dyfed/am-age-cymru-dyfed/newyddion-diweddaraf/articles/2021/adeiladu-dyfodol-cryfach-i-gyn-filwyr-hn-newydd-fynd-o-nerth-i-nerth2/

Ein Cylchlythyr

Mae croeso i chi anfon y cylchlythyr hwn ymlaen at unrhyw gydweithwyr neu gysylltiadau yr ydych chi’n meddwl y byddent yn hoffi ei dderbyn. Cysylltwch â ni os hoffech gael eich tynnu oddi ar restr ddosbarthu ein cylchlythyr.

Eich sylwadau, adborth a storïau

Rydym yn croesawu eich adborth am ein cylchlythyr felly mae croeso i chi gysylltu â ni i rannu unrhyw farn neu sylwadau sydd gennych chi.

Rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau ynglŷn â chynnwys posibl ar gyfer y cylchlythyr, felly os oes gennych unrhyw wybodaeth yr hoffech i ni ei rhannu mewn rhifynnau yn y dyfodol, mae croeso i chi gysylltu.

 

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges