Angen Help?

Dyddiadur Ymweliadau’r Comisiynydd

Casglu lleisiau a phrofiadau pobl hŷn ledled Cymru

Mae clywed yn uniongyrchol wrth bobl hŷn am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw a’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau yn rhan allweddol o’m rôl fel Comisiynydd, ac ers dechrau yn y swydd ddiwedd llynedd, rydw i wedi teithio ar draws Cymru i gwrdd ac i sgwrsio â channoedd o bobl hŷn o amrywiaeth eang o gefndiroedd a chymunedau.

Mae fy ymweliadau diweddar wedi canolbwyntio ar glywed safbwyntiau a syniadau pobl hŷn am y camau y dylwn eu cymryd i sicrhau newid positif fel rhan o’m hymgynghoriad Dweud eich Dweud, a fydd yn helpu i siapio fy Strategaeth a’r Cynllun Gwaith sydd ar y gweill.

Rydw i wedi cwrdd â phobl hŷn anhygoel ar fy nheithiau ac wedi cael sgyrsiau defnyddiol iawn, felly roeddwn i eisiau rhoi crynodeb i chi o’r mathau o faterion sy’n cael eu codi gyda fi ac i dynnu sylw at arferion da sy’n gwneud gwahaniaeth positif i fywydau pobl.

Rhian

Commissioner with Councillor Gillian Preston at Bedlinog and Trelewis Warm Hub

Canolfannau Clyd Bedlinog a Threlewis

Canolfan Glyd Bedlinog a Threlewis oedd lleoliad fy ymweliad Dweud eich Dweud cyntaf, sy’n cael ei gynnal yn y Ganolfan Gymunedol ym Medlinog bob dydd Iau.

Mae’r Ganolfan yn lle cynnes, croesawgar sy’n cynnig diodydd a byrbrydau poeth ac oer am ddim, yn ogystal â phapurau newydd, gemau bwrdd a WiFi. Mae’r Ganolfan hefyd yn darparu ‘pecynnau cynnes’, sy’n cynnwys pethau fel blancedi a photeli dŵr poeth i helpu pobl i gadw’n gynnes gartref.

Siaradais â thua 25 o bobl hŷn yn ystod fy ymweliad, a dynnodd sylw at anawsterau wrth gael mynediad at gludiant, gan ddibynnu ar fws mini i ddod â nhw i’r Ganolfan a mynd â nhw adref, yn ogystal ag anawsterau wrth gael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau wrth i fwy a mwy gael ei wneud ar-lein.

Ond fe wnaethon nhw ddweud hefyd am y gwahaniaeth enfawr roedd y Ganolfan wedi’i wneud i’w bywydau a’u bod yn falch iawn ei bod wedi dod ag aelodau o gymunedau Bedlinog, Trelewis a Threharris yn agosach at ei gilydd.

Cwrt yr Orsaf Extra Care Scheme

Tai Gofal Ychwanegol Cwrt yr Orsaf, Pontypridd

Cwrddais â dros 30 o bobl hŷn sy’n byw yng Nghynllun Tai Gofal Ychwanegol Cwrt yr Orsaf ym Mhontypridd, sy’n cefnogi preswylwyr i fyw mor annibynnol â phosib.

Mae’r cynllun, sy’n agos i ganol y dref a Pharc Ynysangharad, yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau – gan gynnwys bwyty (sy’n agored i’r cyhoedd), salon gwallt, ystafell sba a sinema yn ogystal â chanolfan ddydd.

Dywedodd y bobl hŷn y siaradais â nhw fod aros yn rhan o’r gymuned ehangach yn bwysig iawn iddyn nhw, a bod y cymorth a ddarparwyd i fynd allan a gwneud y pethau sy’n bwysig wedi bod o fudd mawr i’w hiechyd a’u llesiant.

Powys Older People's Forum Logo

Digwyddiad ‘Dweud eich Dweud’ Fforwm Pobl Hŷn Powys

Ymunais â thua 20 o bobl hŷn am fore coffi wythnosol yn Neuadd Les y Glowyr, a drefnwyd gan Glwb Pobl Hŷn Ystradgynlais.

Tynnodd nifer o bobl y siaradais â nhw sylw at y problemau sy’n ymwneud â gwasanaethau iechyd, gan gynnwys anawsterau wrth wneud apwyntiadau, amseroedd aros hir a phroblemau cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau digidol.

Tynnwyd sylw at brinder trafnidiaeth gyhoeddus hefyd a dywedodd pobl hŷn wrthyf fod y gwasanaeth ceir cymunedol gwirfoddol lleol yn bwysig tu hwnt er mwyn eu galluogi i fynd i’r llefydd y mae angen iddyn nhw gyrraedd.

Soniodd y bobl hŷn wnes i gwrdd â nhw hefyd am bwysigrwydd lleoedd cymunedol, fel y Neuadd Les a llyfrgelloedd lleol, lle gallan nhw gwrdd â ffrindiau a chymdeithasu, yn ogystal â chasglu gwybodaeth leol a dysgu mwy am wasanaethau lleol a mathau eraill o gymorth.

Commissioner with members of the Barry Veterans Group Committee

Grŵp Cyn-filwyr y Barri, Bro Morgannwg

Fe wnes i ymweld ag aelodau’r Grŵp Cyn-filwyr lleol yn eu clwb brecwast ar fore Sadwrn. Soniwyd bod y cyfeillgarwch a’r gefnogaeth y maen nhw’n eu rhoi i’w gilydd yn hynod o bwysig.

Mae’r grŵp, sy’n cefnogi cyn-filwyr ym Mro Morgannwg a’r cyffiniau, hefyd yn trefnu nosweithiau cymdeithasol misol a thripiau am y dydd yn ogystal â’r clwb brecwast wythnosol, sy’n golygu bod gan aelodau wastad rhywbeth i edrych ymlaen ato.

Ymhlith y materion penodol a godwyd oedd sicrhau y gall pobl a wasanaethodd yn y Lluoedd Arfog gael mynediad at Lwybrau Cyn-filwyr y GIG, sy’n gallu darparu gofal uwch a chymorth, ac effaith yr oedi wrth ryddhau cleifion o’r ysbyty ar annibyniaeth a llesiant pobl.

Commissioner with older people at Birchgrove Warm Hub

Canolfan Groeso Birchgrove, Caerdydd

Fe wnes i gwrdd â thua 20 o bobl hŷn yng Nghanolfan Groeso Birchgrove yng Nghaerdydd, gofod cynnes lle gall pobl gael paned, cwrdd â ffrindiau, casglu gwybodaeth a chysylltu â gwasanaethau lleol.

Dywedodd nifer o’r bobl hŷn y siaradais â nhw eu bod yn poeni am sut gallai unigrwydd effeithio arnyn nhw wrth heneiddio, sef pam y mae lleoedd cymunedol fel y Ganolfan mor bwysig.

Dywedodd pobl yn y Ganolfan hefyd eu bod yn poeni a fydden nhw’n gallu cael mynediad at ofal a chymorth i’w helpu i gynnal eu hannibyniaeth pe bai eu hanghenion yn newid, a chostau posib hynny.

Exterior of Bonymaen House, Swansea

Tŷ Bonymaen, Abertawe

Rhoddodd ymweliad ag Abertawe gyfle i gwrdd â phobl hŷn yn Nhŷ Bonymaen, cynllun gofal preswyl arloesol sy’n canolbwyntio ar ailalluogi i gael pobl gartref yn gyflymach ar ôl treulio cyfnod yn yr ysbyty, neu i rwystro rhywun rhag gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty pe bai eu hanghenion yn newid.

Roedd y tîm yn Nhŷ Bonymaen wedi adrefnu cartref gofal ‘traddodiadol’ i gynnwys cyfleusterau fel cegin ailalluogi, ardal ymarfer corff, gofod cymdeithasol a hyd yn oed lle trin gwallt.

Roedd y bobl hŷn wnes i siarad â nhw yn llawn canmoliaeth am y cymorth a ddarparwyd gan y cartref, sy’n seiliedig ar agwedd ‘gwneud gyda’ yn hytrach ‘gwneud ar ran’ – unigolion sy’n penderfynu ar y canlyniadau y maen nhw eisiau eu cyflawni ac mae’r tîm yn eu cefnogi i gyflawni’r rhain.

Commissioner with older people at Widdershins Centre, Pontypool

Canolfan Widdershins, Torfaen

Fe wnes i gwrdd â thua 30 o bobl hŷn yng Nghanolfan Widdershins yn Nhorfaen, gan ymuno â grŵp gweithgareddau i bobl sy’n byw gyda dementia (a’u gofalwyr) cyn siarad â phobl hŷn yn y bistro ar y safle.

Mae’r Ganolfan, Hwb Cymunedol sy’n cael ei redeg gan Age Connects Torfaen, yn darparu gweithgareddau, cymorth a gwybodaeth i bobl hŷn, gan gynnig gwasanaethau fel cyfeillio, cyngor ar iechyd a hawliau ariannol, gwasanaeth torri ewinedd a gweithgareddau cymdeithasol.

Roedd y materion allweddol y soniwyd amdanyn nhw gan y bobl hŷn y siaradais â nhw yn cynnwys prinder opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus, anawsterau wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd – yn enwedig meddygon teulu – a rhwystrau oherwydd allgáu digidol.

Dywedodd pobl hŷn wrthyf hefyd eu bod wirioneddol yn gwerthfawrogi’r gweithgareddau, y gwasanaethau a’r gefnogaeth a ddarparwyd yn y ganolfan, a oedd yn bwysig iawn i’w helpu i barhau i gadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau a’r gymuned, ac yn eu helpu i gynnal eu hannibyniaeth.

Commissioner with members of Merthyr Osteoporosis Support Group

Grŵp Cymorth Osteoporosis, Merthyr

Yn ystod fy ymweliad â Merthyr, fe gwrddais â 50 o aelodau’r Grŵp Cymorth Osteoporosis sy’n cwrdd yn wythnosol yng Nghlwb Bowls Rhydycar ac sy’n croesawu aelodau o Ferthyr, RCT a Phowys.

Mae’r grŵp yn rhoi cyfle i aelodau gwrdd â phobl eraill yn yr ardal sydd â phrofiadau tebyg, i gael gwybodaeth a chymorth ac i ofyn cwestiynau am driniaeth osteoporosis a gofal.

Roedd yn wych gweld effaith bositif y grŵp ar fywydau ei aelodau a’r cymorth a’r cyfeillgarwch sy’n cael ei roi i’w gilydd, y mae pawb yn ei werthfawrogi cymaint.

Dywedodd y grŵp wrthyf fod mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn fater allweddol, yn enwedig trafnidiaeth i apwyntiadau ysbyty, yn ogystal â pharcio mewn ysbytai. Ochr yn ochr â hyn, tynnwyd sylw at bryderon am effaith colli gwasanaethau a chyfleusterau allweddol yng nghanol trefi, fel canghennau lleol y banciau a thoiledau cyhoeddus, yn ogystal ag effaith allgáu digidol a’r symudiad tuag at ddarparu gwasanaethau digidol, a rhannwyd rhwystredigaethau am y ffaith nad oedd modd gwneud pethau pob dydd bellach, fel parcio’r car, heb ffôn clyfar.

Exterior of Addison House, Cardiff

Tŷ Addison, Caerdydd

Fe wnes i gwrdd â 10 person hŷn sy’n byw yn Nhŷ Addison, cynllun tai gofal ychwanegol sydd newydd agor, sy’n rhan o gyfadeilad ehangach sy’n darparu tai i bobl o bob oed.

Dywedodd preswylwyr wrthyf eu bod yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth a roddwyd i’w galluogi i fyw mor annibynnol â phosib, a’r ffaith y gellid addasu eu cartrefi yn hawdd pe bai eu hanghenion yn newid.

Soniwyd hefyd fod y cyfleusterau cymunol, fel lolfeydd, terasau ar y to a gerddi wedi eu helpu i wneud ffrindiau newydd ac i gwrdd â phobl newydd, sy’n bwysig wrth atal unigrwydd ac ynysigrwydd.

Exterior of Old Vicarage Care Home, Llangollen

Cartref Gofal yr Hen Ficerdy, Llangollen

Fe gwrddais â phreswylwyr yng Nghartref Gofal yr Hen Ficerdy, sy’n cynnig cymysgedd o ofal preswyl a nyrsio, gan gynnwys gofal i bobl sy’n byw gyda dementia.

Dywedodd y bobl hŷn y siaradais â nhw fod y pwyslais ar eu hanghenion unigol – yn hytrach nag agwedd ‘yr un peth i bawb’ – yn gwneud iddyn nhw deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi.

Soniwyd hefyd fod yr amrywiaeth eang o weithgareddau yn y cartref yn rhoi rhywbeth iddyn nhw edrych ymlaen ato bob dydd, a oedd yn bwysig iawn i ansawdd eu bywydau.

Exterior of Severn View Care Home, Monmouthshire (credit: Lovell)

Cartref Gofal Severn View, Sir Fynwy

O’r hen (ficerdy) i’r newydd, fe wnes i ymweld â Chartref Gofal Severn View, sydd o’r radd flaenaf, yn Sir Fynwy, sy’n darparu gofal a chymorth i bobl sy’n byw gyda dementia.

Mae’r gofal a ddarperir yn y cartref yn canolbwyntio ar alluogi’r bobl sy’n byw yno i ‘fyw’r bywyd sy’n bwysig iddyn nhw’ ac i gynnal cysylltiadau â’r gymuned ehangach.

Mae Severn View, sy’n gartref i 32 o bobl, wedi’i ganoli o amgylch ‘neuadd bentref’ sy’n cynnal ystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau, gyda gerddi a rhandiroedd yn creu ardaloedd y gall pawb eu mwynhau gyda’i gilydd, ac mae’n bwysig helpu preswylwyr i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys ac i gynnal ymdeimlad o hunaniaeth bersonol.

Age-friendly Newport Logo

Fforwm 50+ Casnewydd

Un o’m hymweliadau cyntaf ar ôl dechrau yn y swydd oedd cwrdd ag aelodau Fforwm 50+ Casnewydd mewn digwyddiad ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, felly roedd yn wych bod nôl ac i glywed wrth yr aelodau unwaith eto.

Siaradais â 25 o bobl hŷn a fynegodd bryderon am ddiffyg bysiau lleol ac anawsterau wrth gael mynediad at wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau oherwydd bod y wybodaeth fwyfwy ar gael ar-lein yn unig.

Trafodwyd hefyd effaith colli gwasanaethau mewn cymunedau, fel banciau, a dywedodd aelodau wrthyf eu bod yn teimlo nad oedd eu lleisiau’n cael eu clywed pan roedd newidiadau i wasanaethau yn cael eu cynllunio.

Commissioner with older people at the Rainbow Centre Arts and Crafts Group

Canolfannau Rainbow Foundation, Wrecsam

Fe wnes i ymweld â phentrefi Llannerch Banna a Marchwiel yn Wrecsam i gwrdd â dros 40 o bobl yn y Canolfannau Rainbow Foundation lleol i weld sut mae’r gweithgareddau sydd ar gael yn eu cefnogi i heneiddio’n dda.

Mae’r canolfannau yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau sy’n canolbwyntio ar wella iechyd a llesiant cymunedau lleol, gan gynnwys dosbarthiadau coginio, sesiynau celf a chrefft, clybiau cinio a brecin, a grwpiau cerdded. Maen nhw hefyd yn cynnig dosbarthiadau ymarfer corff ‘Active Features’, gan gefnogi pobl hŷn i wella eu cryfder a’u cydbwysedd ar ôl cael eu hatgyfeirio gan feddyg teulu.

Commissioner with older people at Denbighshire Dementia Centre

Canolfan Dementia Dinbych

Ymunais â phobl hŷn sy’n byw gyda dementia, ynghyd â’u hanwyliaid a’u gofalwyr am sesiwn ymarfer corff ‘Sit and Be Fit’ yng Nghanolfan Dementia Dinbych, sy’n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth y Gofalwyr mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Alzheimer.

Dywedodd un gŵr y siaradais ag ef yn ystod y sesiwn (y mae ei wraig yn byw gyda dementia) wrthyf am y gwahaniaeth cadarnhaol y mae’r ganolfan yn ei wneud i’w bywydau – mae ei wraig yn edrych ymlaen at fynd ac yn chwerthin a gwenu tra mae hi yno.

Dywedodd wrthyf hefyd am effaith emosiynol darparu gofal 24/7 a dywedodd y dylai gofalwyr di-dâl gael gwybodaeth ar adeg y diagnosis am y cymorth sydd ar gael, rhywbeth yr oedd wedi cael trafferth ag ef i ddechrau.

Tynnodd yr ymweliad sylw at bwysigrwydd darparu cymorth fel hyn mewn lleoliadau y mae pobl hŷn yn gyfarwydd â nhw ac yn gyfforddus yn eu mynychu, gyda staff sy’n adnabod cymunedau a’r gwasanaethau lleol sydd ar gael.

Commissioner with older people at a social group in Swansea

Taith Gerdded y Glannau Cymunedau Oed-gyfeillgar Abertawe

Ni wnaeth tywydd gwlyb Abertawe amharu ar fy hwyliau adeg fy ymweliad i ddysgu mwy am y gweithgareddau sydd ar gael yn y ddinas i gefnogi pobl i heneiddio’n well.

Ymunais â phobl hŷn am y daith gerdded wythnosol ar hyd y glannau, gyda phaned i ddilyn yn The Swigg yn y marina, cyn ymuno â’r grŵp Soup and Social yn Amgueddfa’r Glannau sy’n cynnig rhywbeth i’w fwyta i bobl hŷn yn ogystal â gweithgareddau cymdeithasol.

Fe wnes i gwrdd â dros 100 o bobl hŷn yn ystod fy ymweliad a ches i fy nharo gan egni a brwdfrydedd pawb a oedd yno. Doedd neb yn cerdded nac yn eistedd ar eu pen eu hunain – roedd yna ymdeimlad go iawn o gymuned a chroeso cynnes i bawb.

Dywedodd y bobl hŷn y siaradais â nhw fod y grwpiau hyn, a’r gweithgareddau eraill sydd ar gael, sy’n cynnwys prynhawniau ffilm, cwisiau a digwyddiadau cymdeithasol eraill, yn rhoi rhywbeth iddyn nhw edrych ymlaen ato, rhywfaint o strwythur a phwrpas, ac roedden nhw’n bwysig iawn i helpu i atal unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Commissioner with residents at Plas Bryn Extra Care Housing Scheme

Tai Gofal Ychwanegol Plas Bryn, Caerdydd

Fe wnes i gwrdd â thua 17 o breswylwyr Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Plas Bryn, yng nghwmni cynghorwyr a swyddogion a oedd yn cynrychioli Cyngor Caerdydd.

Roedd ein trafodaethau’n canolbwyntio’n bennaf ar sut gellid gwneud yr ardal leol yn fwy oed-gyfeillgar, gyda phobl hŷn yn tynnu sylw at broblemau gyda phalmentydd a ddifrodwyd a materion diogelwch yn ymwneud ag arosfannau bysiau, a oedd yn eu hannog i beidio â mynd allan. Yn ogystal, dywedodd pobl wrthyf eu bod yn ei chael yn anodd cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus a’i bod yn bwysig bod llwybrau bysiau’n mynd i’r llefydd y mae pobl hŷn eu heisiau a lle mae angen iddyn nhw gyrraedd.

Dywedodd pobl sylw hefyd eu bod yn aml yn teimlo nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed, ac nad yw eu barn yn cael ei hystyried pan wneir penderfyniadau am newidiadau i wasanaethau a fydd yn effeithio ar y gymuned leol.

Commissioner with members of the the Dementia Support Group in Newport

Llais Dementia’r Gymdeithas Alzheimer, Casnewydd

Ymunais â Grŵp Llais Dementia yng Nghasnewydd, cymysgedd o bobl hŷn sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, sy’n cwrdd bob mis yng Nghapel Bedyddwyr St. Julian.

Dywedodd yr aelodau wrthyf eu bod yn teimlo’n ddiogel, y gellir ymddiried ynddyn nhw a’u bod yn cael eu parchu yn y grŵp ac y gallen nhw ddod â phroblemau a oedd yn eu poeni i gael barn (a chymorth) aelodau eraill a chynrychiolwyr y Gymdeithas Alzheimer, sy’n rhedeg y grŵp.

Ymhlith y pryderon allweddol a godwyd oedd anawsterau wrth ddod o hyd i wybodaeth am wasanaethau a chymorth yn dilyn diagnosis o ddementia, yn ogystal â chael eu targedu gan sgamiau – dywedodd un aelod ei fod wedi cael ei sgamio’n ddiweddar gyda throseddwyr yn defnyddio cyfrif ffôn symudol ei ddiweddar wraig.

Siaradodd aelodau hefyd am weithio gyda’r Gymdeithas Alzheimer i roi adborth ar gynllun chwaraewr cerddoriaeth, a arweiniodd at drafodaeth ddiddorol am bwysigrwydd cerddoriaeth. Dywedodd un gŵr sy’n byw gyda dementia fod cerddoriaeth wedi helpu i’w dawelu a hefyd yn dod ag atgofion penodol yn ôl.

Commissioner with Windrush Elders Cymru

Windrush Elders, Caerdydd

Yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, fe wnes i gwrdd â Windrush Elders Cymru i glywed am y materion sy’n effeithio ar fywydau aelodau.

Roedd mynediad at feddygon teulu yn fater allweddol a godwyd, gydag anawsterau penodol wrth gael apwyntiad o ganlyniad i’r ‘rhuthr 8am’. Codwyd mynediad at ddeintyddiaeth y GIG hefyd, yn ogystal ag anghysondebau o ran cael presgripsiynau rheolaidd.

Buom hefyd yn trafod problemau trafnidiaeth, gan archwilio profiadau gwahanol o gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig o’i gymharu ag ardaloedd mwy trefol.

Roedd allgáu digidol yn fater allweddol arall a godwyd. I rai aelodau (y rhai â sgiliau digidol) croesawyd y newid i wasanaethau digidol, yn enwedig ar gyfer un aelod ag amhariad ar y clyw na allai ddefnyddio systemau ffôn. Serch hynny, tynnodd  aelodau eraill, sylw at y ffaith bod hyn yn creu heriau newydd o ran gwneud pethau bob dydd fel parcio’r car. Dywedodd yr aelodau ei bod yn bwysig bod cyfleoedd yn y gymuned er mwyn i bobl allu dysgu’r sgiliau digidol sydd eu hangen arnyn nhw.

Commissioner with members of Swansea Men's Shed

Sied Dynion Abertawe

Ymunais ag aelodau Sied Dynion Victoria Saints yn Abertawe, gofod cymunedol i ddynion gymdeithasu, dysgu a gweithio ar brosiectau.

Fe gwrddais â thua 15 o ddynion yn y Sied a dynnodd sylw at y ffaith bod trafnidiaeth gyfyngedig a diffyg toiledau cyhoeddus yn aml yn ei gwneud yn anoddach mynd allan.

Roedd y materion eraill a godwyd yn cynnwys effaith barhaus costau byw cynyddol, yn ogystal â diffyg tai / llety addas ar gyfer pobl hŷn sy’n dymuno (neu angen) symud i gartref llai.

Commissioner with Dale at the Aberafan Dementia Hub

Hwb Dementia, Port Talbot

Yn yr Hwb Dementia ym Mhort Talbot, siaradais â Dale, menyw hŷn sy’n byw gyda dementia, am ei phrofiadau.

Mae’r Hwb yn cael ei redeg gan Dementia Abertawe ac fe’i sefydlwyd yn dilyn llwyddiant Hwb tebyg yng Nghanolfan Siopa’r Cwadrant Abertawe yng nghanol y ddinas.

Dywedodd wrthyf fod lleoliad yr Hwb, sydd yng Nghanolfan Siopa Aberafan yng nghanol Port Talbot, yn ei gwneud yn hawdd iawn iddi alw i mewn i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cyngor sydd ei angen arni, rhywbeth yr oedd hi wedi cael trafferth ag ef i ddechrau yn dilyn ei diagnosis ac, yn bwysicach fyth, cafodd groeso cynnes gan y staff a’r gwirfoddolwyr bob amser.

Aerial photo of Abergavenny

Grŵp 50+ y Fenni

Cwrddais â dros 20 aelod o Grŵp 50+ y Fenni, a siaradodd â mi am rai o’r heriau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd.

Yr oedd dicter ynghylch cau gwasanaethau ysbyty lleol, sydd yn awr yn golygu teithio sylweddol ar gyfer apwyntiadau, mater sy’n cael ei wneud yn anos oherwydd diffyg opsiynau trafnidiaeth, yn enwedig mewn ardaloedd mwy gwledig.

Tynnwyd sylw at allgáu digidol hefyd, gydag aelodau’n tynnu sylw at anawsterau oherwydd ei bod yn anodd cael gafael ar gopïau papur o wybodaeth (fel amserlenni bysiau), a phryderon am y newid i’r digidol ar gyfer ffonau.

Ar nodyn mwy cadarnhaol, roedd nifer o’r bobl y gwnes i gwrdd â nhw yn wirfoddolwyr ac yn siarad am y gwahaniaeth cadarnhaol y mae cyfrannu at eu cymunedau yn ei wneud i’w bywydau.

Photo of volunteers at Narberth Community Garden

Gardd Gymunedol Arberth

Ymunais â gwirfoddolwyr yn Cilrath Acre, Arberth, a sefydlwyd i ddod â’r gymuned at ei gilydd a chysylltu pobl â’r tir, byd natur a bwyd sy’n cael ei dyfu’n lleol. Mae’n cael ei redeg mewn partneriaeth â Banc Bwyd Sir Benfro, ac mae’r holl gynnyrch sy’n cael ei dyfu yn cael ei roi i fanciau bwyd lleol.

Mae llawer o’r gwirfoddolwyr y siaradais â nhw wedi symud i Sir Benfro ar ôl ymddeol ac mae’r ardd gymunedol wedi eu galluogi i gwrdd â ffrindiau newydd ac integreiddio’n llawnach i’r gymuned.

Codwyd nifer o faterion gan wirfoddolwyr yn ystod yr ymweliad, gan gynnwys anawsterau o ran cael gafael ar feddygon teulu a cholli gwasanaethau iechyd yn y gymuned. Tynnwyd sylw hefyd at ddiffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal, yn ogystal ag opsiynau cyfyngedig o ran tai wrth i bobl heneiddio. Roedd tlodi bwyd a thlodi thanwydd hefyd yn bryder gwirioneddol, gyda chostau byw yn parhau i godi.

Exterior of Bro Preseli Extra Care Scheme

Cynllun Gofal Ychwanegol Bro Preseli, Sir Benfro

Dywedodd y bobl hŷn y cwrddais â nhw ym Mro Preseli wrthyf fod bod yn rhan o’r gymuned yn bwysig iawn iddyn nhw. Mae’r cynllun bellter byr o ganol y pentref ac mae hefyd yn cynnig gwasanaethau canolfan ddydd, sy’n golygu bod trigolion yn cael cyfle i gysylltu â phobl hŷn o’r ardal leol.

Dywedodd y bobl y cwrddais â nhw wrthyf hefyd fod y gefnogaeth a oedd ar gael drwy’r cynllun yn eu galluogi i fyw’n annibynnol, rhywbeth roedden nhw’n ei werthfawrogi’n fawr.

Un mater a amlygwyd gan breswylwyr oedd cynnydd mewn costau byw, a all fod yn her benodol wrth fyw ar incwm sefydlog.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges