YMATEB I YMGYNGHORIAD – Trydydd adolygiad o oedran Pensiwn y Wladwriaeth: adroddiad annibynnol galwad am dystiolaeth
Cyflwyniad
Sefydlwyd swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ei rôl a’i phwerau statudol gan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006. Mae’r Comisiynydd yn llais annibynnol ac yn eiriolydd ar ran pobl hŷn ledled Cymru. Rôl y Comisiynydd yw hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru, herio gwahaniaethu, annog yr arferion gorau ac adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.
Roedd y Comisiynydd yn falch o gwrdd â Dr Suzy Morrissey ar 13 Hydref 2025 i drafod materion sy’n ymwneud â’r Adolygiad Annibynnol, yn enwedig y rhai sy’n benodol i Gymru.
Yn ogystal â thrafodaeth y cyfarfod, hoffai’r Comisiynydd bwysleisio’r pwyntiau isod.
Disgwyliad oes
Nid yw gwelliannau i ddisgwyliad oes wedi digwydd i’r graddau a ragwelwyd. Mae disgwyliad oes iach yn effeithio ar allu pobl i weithio’n ddiweddarach yn eu hoes, gyda rhai mathau o alwedigaethau’n ei gwneud yn anoddach iddynt barhau i weithio. Gall y rhain gynnwys swyddi crefftau llaw, er enghraifft. Gall pobl a fyddai wedi cyrraedd oedran cynharach Pensiwn y Wladwriaeth ganfod eu hunain yn symud ymlaen at fudd-daliadau oedran gweithio, ac mae cynnydd yn nifer y bobl dros 65 oed sy’n cael budd-daliadau analluogrwydd.
Nid yw defnyddio disgwyliad oes fel sail ar gyfer oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn ystyried y ffaith bod llawer o bobl yn mynd yn rhy sâl i weithio. Yn yr un modd, gallai datblygiadau meddygol olygu bod mwy o bobl yn byw’n hirach, ond yn llai iach – nid yw byw’n hirach yn golygu bod modd ymestyn bywydau gwaith pobl.
Yng Nghymru, y disgwyliad oes yw 78 i ddynion ac 82 i fenywod (ychydig yn is na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru a Lloegr, sef 79 ac 83). Dim ond 61 yw disgwyliad oes iach i ddynion a 60 i fenywod, sy’n golygu bod pobl ar gyfartaledd yn treulio tua chwarter o’u bywyd mewn iechyd gwael. Mae gwahaniaethau sylweddol rhwng disgwyliad oes iach mewn gwahanol rannau o Gymru: ym Mlaenau Gwent mae’r ffigurau hyn yn 59.5 ar gyfer dynion a 59.3 ar gyfer menywod, ac yn Sir Fynwy, sydd llai nag awr i ffwrdd mewn car, maent yn 69.8 a 70.1 yn y drefn honno.[i] Mae’r gwahaniaeth amlwg hwn yn dangos effaith penderfynyddion iechyd ehangach sy’n arwain at anghydraddoldebau iechyd.
Er bod yr amcanestyniadau diweddaraf o ddisgwyliad oes carfan 2022 yn y DU yn dangos gwelliannau mewn disgwyliad oes, mae’r rhain yn is na’r hyn a ragwelwyd mewn datganiadau data blaenorol.[ii]
Cyfradd cyflogaeth a budd-daliadau analluogrwydd
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cyfraddau cyflogaeth pobl 50-64 oed yn is yng Nghymru yn ystod 2024-25 nag ym mhob rhan arall o’r DU, a dros 10% yn is nag mewn rhai ardaloedd. Mae 63.9% o’r grŵp oedran hwn mewn cyflogaeth yng Nghymru.[iii]
Rhwng 2008-9 a 2023-24, mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn amcangyfrif bod cynnydd o 330,000 yn nifer y bobl sy’n cael budd-daliadau analluogrwydd. Mae’r rhain yn cynnwys menywod dros 60 oed, a dynion dros 65 oed, sy’n cyd-fynd â’r cynnydd mewn oedran pensiwn.[iv] Fel y nodwyd uchod, gall pobl a fyddai wedi cyrraedd oedran blaenorol Pensiwn y Wladwriaeth ganfod eu hunain yn symud ymlaen i fudd-daliadau oedran gweithio yn hytrach na gallu gweithio blynyddoedd ychwanegol.
Gofalwyr di-dâl
Mae nifer sylweddol o bobl hŷn yng Nghymru – tua 275,000 – yn darparu gofal di-dâl, sy’n cyfrif am dros hanner yr holl ofalwyr di-dâl. Mae pobl hŷn hefyd yn fwy tebygol o fod yn darparu gofal am fwy na 50 awr yr wythnos: Mae 33% o bobl 75 oed a hŷn a 21% o bobl 65-74 oed yn darparu’r lefel yma o ofal.[v] Mae hyn yn effeithio ar allu pobl hŷn i wneud gwaith am dâl, gan effeithio ar eu hincwm yn nes ymlaen mewn bywyd.
Mecanweithiau Addasu Awtomatig
Mae gan y Comisiynydd bryderon ynghylch cyflwyno rheolau rhagddiffiniedig sy’n newid oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn awtomatig, yn enwedig lle defnyddir y rhain i gysylltu oedran Pensiwn y Wladwriaeth â disgwyliad oes, o ystyried y gwahaniaethau sylweddol rhwng disgwyliad oes a disgwyliad oes iach.
Yn ogystal â’r materion a nodwyd uchod, rhaid i unrhyw ystyriaeth o’r Mecanweithiau Addasu Awtomatig ystyried yn llawn yr effaith ar allu pobl i gynllunio ar gyfer ymddeol a nes ymlaen mewn bywyd. Mae’r enghraifft barhaus o fenywod WASPI (Menywod yn erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth) yn dangos sut mae peidio â chyfathrebu’n ddigonol yn effeithio ar unigolion, ac ar gynlluniau ymddeol.
Oedraniaeth
Mae angen sicrhau nad yw naratifau o degwch rhwng y cenedlaethau ynghylch dyfodol darpariaeth Pensiwn y Wladwriaeth yn hyrwyddo nac yn annog oedraniaeth yn anfwriadol – mae stereoteipiau o ‘bensiynwyr cyfoethog’ yn cuddio’r ffaith bod bron i 1 o bob 6 o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol (16%). Mae hyn yn cynyddu gydag oedran.[vi]
Mae Adroddiad Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd ar Oedraniaeth (2021) yn nodi bod 1 o bob 2 o bobl ledled y byd yn gwahaniaethu ar sail oedran ac, yn Ewrop, bod 1 o bob 3 o bobl hŷn yn dweud eu bod wedi bod yn darged oedraniaeth.[vii]
Casgliad
O fewn telerau’r Adolygiad presennol, mae’n hanfodol pwysleisio cyfyngiadau a risgiau canolbwyntio’n ormodol ar ddisgwyliad oes yn hytrach na disgwyliad oes iach wrth ystyried unrhyw newidiadau i oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn y dyfodol. Mae disgwyliad oes iach yn amrywio’n sylweddol o fewn cenhedloedd a rhanbarthau, yn ogystal â rhyngddynt, gan effeithio ar allu pobl i weithio wrth i ni heneiddio.
Dylai’r Adolygiad fod yn rhan o drafodaeth ehangach ar y camau sydd eu hangen i leihau anghydraddoldebau iechyd a chyfleoedd i ganolbwyntio o’r newydd ar hyn.
Yn olaf, dylai’r Adolygiad fanteisio ar bob cyfle i herio oedraniaeth, gan sicrhau nad yw trafodaethau am degwch rhwng y cenedlaethau yn gwreiddio stereoteipiau anfuddiol o bobl hŷn yn anfwriadol.
[i] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2025) Heneiddio yng Nghymru. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2025/09/Heneiddio-yng-Nghymru-Cipolwg-ar-Brofiadau-Pobl-Hyn.pdf, tudalen 6.
[ii] Adran Gwaith a Phensiynau, Llywodraeth y Deyrnas Unedig (2025), Third State Pension Review: Independent report call for evidence. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/calls-for-evidence/third-state-pension-age-review-independent-report-call-for-evidence/third-state-pension-age-review-independent-report-call-for-evidence#policy-context
[iii] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2025) Heneiddio yng Nghymru. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2025/09/Heneiddio-yng-Nghymru-Cipolwg-ar-Brofiadau-Pobl-Hyn.pdf, tudalen 20.
[iv] Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, Adroddiad Tueddiadau Lles (Hydref 2024) Welfare trends report – October 2024: Charts and Tables https://obr.uk/wtr/welfare-trends-report-october-2024/
[v][v] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (2025) Heneiddio yng Nghymru. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2025/09/Heneiddio-yng-Nghymru-Cipolwg-ar-Brofiadau-Pobl-Hyn.pdf, tudalen 22.
[vi] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2025, Deall Poblogaeth Cymru sy’n Heneiddio. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2024/09/Understanding-Wales-ageing-population-Medi-24-CYM.pdf
[vii] Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2025, Deall Poblogaeth Cymru sy’n Heneiddio. Ar gael yn: https://olderpeople.wales/wp-content/uploads/2024/09/Understanding-Wales-ageing-population-Medi-24-CYM.pdf