Angen Help?
Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 graphic

Ymateb i Ymgynghoriad – Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru 2015: Gwaith craffu ar ôl deddfu

i mewn Adnoddau, Ddylanwadu ar polisi ac arferion

Ymateb i Ymgynghoriad – Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd // Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru 2015: Gwaith craffu ar ôl deddfu (Mehefin 2025)

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (CPHC) yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at ymgynghoriad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: Gwaith craffu ar ôl deddfu.

Hoffai’r Comisiynydd wneud y sylwadau canlynol.

Mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol wedi annog cyrff cyhoeddus ac eraill i feddwl mewn ffordd sy’n rhoi mwy o bwyslais ar y tymor hir. Mae’r cyfrifoldebau llywodraethu ac adrodd a roddwyd ar gyrff cyhoeddus perthnasol yn golygu bod trafodaethau am ddatblygu cynaliadwy a’r Ddeddf yn digwydd yn rheolaidd. Mae cyrff cyhoeddus yn cyfeirio mwy a mwy at y Ddeddf ac mae eu dealltwriaeth ohoni’n gwella, ac mae hynny’n beth positif.

Fodd bynnag, er bod cynnydd wedi’i wneud, mae’r Comisiynydd yn cytuno ag Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ei asesiad nad “yw’r Ddeddf yn ysgogi’r newid system gyfan a fwriadwyd”.[i]  Er bod yr angen i roi mwy o bwyslais ar weithredoedd sy’n helpu i atal wedi sefydlu’i hun ac yn gyfarwydd, mae cyrff cyhoeddus yn cael anhawster yn aml i roi hyn ar waith o ganlyniad i bwysau ar y pryd ac yn y tymor byr, ac o ganlyniad i heriau mabwysiadu newid mewn diwylliant. Mae hyn yn ddealladwy ond mae angen gwneud mwy i droi’r rhethreg yn realiti.

O ganlyniad, nid yw pobl yng Nghymru wedi gweld y gwelliannau sydd eu hangen i lesiant, iechyd a mynediad at wasanaethau y gobeithiwyd a fyddai’n deillio o’r Ddeddf yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Bydd angen mwy o bwyslais ar bobl hŷn yn nhrafodaethau’r Ddeddf yn y dyfodol.

Gallai newid peth ar yr iaith a dealltwriaeth o ran y Ddeddf yn gyffredinol helpu i roi sylw i hyn. Mae’n ymddangos bod y Ddeddf yn aml yn cael ei dehongli fel un sy’n ymwneud yn bennaf â phlant, pobl ifanc a’r cenedlaethau sydd heb eu geni eto, yn hytrach na’r cenhedloedd presennol sy’n aeddfedu’n genedlaethau hŷn: er enghraifft, plant a phobl ifanc sy’n cyrraedd oedran gweithio, y boblogaeth oedran gweithio sy’n barod i ymddeol ac yn y blaen. Mae gan bobl hŷn hefyd ddyfodol, ac nid yw hyn yn cael cydnabyddiaeth briodol bob amser. Mae pobl hŷn ym mhob rhan o Gymru’n allweddol i’r saith Nod Llesiant a dylai hyn gael ei adlewyrchu’n fwy amlwg yn y naratif, yn y gweithgarwch a’r cynnydd sy’n gysylltiedig â’r Ddeddf.

Byddai’n werthfawr ystyried sut i ehangu’r ddealltwriaeth o’r hyn a olygir wrth ‘genedlaethau’r dyfodol’ yn y Ddeddf. Efallai y byddai hyn yn annog mwy o gynnydd o blith gweithlu’r sector cyhoeddus tuag at gyflawni’r nodau a meddwl yn fwy cynnil o ran sut mae’r Ddeddf yn gymwys i wahanol feysydd.

Mae’r Ddeddf yn dal i gynnig cyfleodd positif i newid, mwy o bwyslais ar ddatblygu cynaliadwy, a chymhelliant i feddwl yn wahanol ac mewn ffordd fwy tymor hir. Mae cyfleoedd hefyd i ddefnyddio’r Ddeddf i wneud cynnydd mewn agendâu eraill, er enghraifft herio gwahaniaethu ar sail oedran.

Mae potensial i ddefnyddio’r meddwl sy’n gysylltiedig â’r Ddeddf i herio rhagfarnau yn erbyn ein dyfodol ein hunain yn ogystal â mynd i’r afael â’r rhagfarn y gall cenedlaethau pobl hŷn heddiw ei phrofi. Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn cael effaith niweidiol a byddai ei ddileu’n gwneud cyfraniad i wella’r rhagolygon i genedlaethau heddiw a’r dyfodol o bobl hŷn yn ogystal â gwneud cynnydd i gyflawni Nodau Llesiant y Ddeddf.

Mae ymchwil gan y Centre for Ageing Better wedi canfod fod gwahaniaethu ar sail oedran sydd wedi’i fewnoli’n gwneud i bobl gredu eu bod yn rhy hen i gael dyrchafiad yn y gwaith neu’n rhy hen i ddysgu a chael eu hyfforddi. Gall pobl hefyd ddod i gredu bod henaint yn golygu dirywiad mewn iechyd corfforol a meddyliol gyda thuedd gyfatebol i ymwneud ag ymddygiadau afiach fel ysmygu, yfed neu anweithgarwch corfforol. Mae pobl sydd eu hunain yn mewnoli agweddau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran yn dangos llai o gydymffurfiaeth o ran cymryd meddyginiaethau ac maent yn llai tebygol o ofyn am ofal iechyd neu fynd am archwiliadau meddygol.[ii]

Mae cyfleoedd hefyd i ddefnyddio’r Ddeddf i ddod â gwahanol genedlaethau ynghyd, gan gynnwys pobl hŷn ac iau, yn fwy rheolaidd i ystyried ein dyfodol gyda’n gilydd a’r camau y gellid eu cymryd i gyflawni’r Nodau Llesiant. Gallai pwyslais rhyng-genhedlaeth helpu i wneud y Ddeddf yn fwy effeithiol.

Mae’r Ddeddf hefyd yn gyfle gwerthfawr i fynd ati i ymgorffori meysydd polisi ehangach fel Cymunedau Oed-gyfeillgar. Drwy goleddu dylunio a chynllunio sy’n gynhwysol o ran oedran, gall y Ddeddf hybu cymunedau mwy cydlynus a chyfartal sy’n gwella ansawdd bywyd poblogaeth sy’n heneiddio ac ar yr un pryd datblygu cydnerthedd cenedlaethau’r dyfodol.

Mae cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru i wneud Cymru’n Genedl Marmot hefyd yn gyfle i adnewyddu’r ymdrechion sydd eu hangen i wneud mwy o gynnydd yn erbyn y Nodau Llesiant. Mae’r wyth egwyddor Marmot yn cyd-fynd yn dda â nodau’r Ddeddf.[iii]:

Fel gyda’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae pwyslais yr agenda Marmot hyd yma wedi canolbwyntio ar blant a phobl ifanc. Mae cydnabyddiaeth gynyddol y dylai ac y gallai’r egwyddorion Marmot gael eu cymhwyso i’r cenedlaethau hŷn hefyd. Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn edrych ymlaen at ragor o sgyrsiau ar sut i sicrhau’r effaith fwyaf posibl i bobl hŷn o ganlyniad i’r agendâu a rennir.

Mae cyfleoedd da i adeiladu ar yr ymwybyddiaeth o’r Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol a’r datblygiadau presennol yn ystod y blynyddoedd a misoedd nesaf.

Mae’r Comisiynydd yn cytuno â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol bod angen mwy o bwyslais yn awr ar ganlyniadau yn hytrach nag ar lywodraethu a phrosesau, ac y byddai’n croesawu datblygiadau i roi sylw i hyn.

Ers cychwyn ei thymor mae CPHC wedi bod teimlo bod Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn hawdd berson hawdd ymwneud â hwy, ac sy’n bragmataidd ac yn agored i drafodaethau ar feysydd y cyfeirir atynt yn yr ymateb hwn. Mae gan ein gwahanol dimau berthynas waith bositif ac rydym yn trafod meysydd sydd o ddiddordeb i’r ddau ohonom yn rheolaidd.

Mae’r Comisiynydd yn gobeithio y bydd yr wybodaeth hon yn fuddiol i’r Ymchwiliad.

Rachel Bowen

Cyfarwyddwr Polisi, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Rachel.bowen@olderpeople.wales

[i] Archwilio Cymru (2025), Dim amser i’w golli: Gwersi o’n gwaith dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Ar gael yn:  Dim amser i’w golli: Gwersi o’n gwaith dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, t.4.

[ii] Centre for Ageing Better (2023), Ageism: What’s the harm? Available at: Ageism-harms.pdf, p.3.

[iii] See Institute of Health Equity website: Marmot Places – IHE .

Lawrlwythwch Ymateb y Comisiynydd (PDF)

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges