Angen Help?

Ymateb i ymgynghoriad – Cod ymarfer drafft ar sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad, uwchgyfeirio pryderon a chau gwasanaethau, mewn perthynas â gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig

i mewn Adnoddau, Ddylanwadu ar polisi ac arferion Eitemau sydd ar gael i’w llwytho i lawr:

Ymateb i ymgynghoriad – Cod ymarfer drafft ar sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad, uwchgyfeirio pryderon a chau gwasanaethau, mewn perthynas â gwasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig

Y PRIF NEGESEUON:

  • Ar y cyfan, mae’r Comisiynydd yn croesawu’r Cod Ymarfer
  • Mae angen i wasanaethau esblygu i ddiwallu anghenion a dewisiadau modern
  • Dylai gwaith comisiynwyr o ran diwydrwydd dyladwy gynnwys ffioedd atodol am Ofal Iechyd Parhaus y GIG
  • Dylid defnyddio’r Cod Ymarfer i sicrhau nad oes rhaid i bobl hŷn deithio ymhell i mewn i Loegr i gael gofal, yn enwedig os mai Cymraeg yw eu dewis iaith

Cyflwyniad

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru’n croesawu’r cyfle i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch y Cod Ymarfer drafft ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig.

Mae’r Comisiynydd yn croesawu cwmpas a dull gweithredu’r Cod Ymarfer drafft, ac mae’n cefnogi ei ddarpariaethau. Mae hefyd yn ddiolchgar am y cyfleoedd y mae ei thîm wedi’u cael i roi sylwadau ar fersiynau drafft cynharach o’r Cod.

Bu’r Comisiynydd yn ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru yn ystod ei wyth mis cyntaf yn y swydd, ac mae wedi clywed am nifer o bryderon sy’n ddifrifol ac weithiau’n bodoli ers tro. Mae’n credu y dylai’r Cod Ymarfer ei gwneud yn ofynnol i gomisiynwyr mewn awdurdodau lleol ac yn y GIG roi sylw i’r pryderon hyn, a’u galluogi i wneud hynny. Yn benodol, mae wedi clywed bod ffioedd atodol yn cael eu codi ar aelodau teulu am Ofal Iechyd Parhaus y GIG, ac am ddiffyg gwasanaethau priodol sy’n creu sefyllfaoedd amhriodol, niweidiol a gofidus i’r bobl y mae angen gofal arnynt a’r bobl sy’n agos atynt. Ceir mwy o fanylion isod.

Cwmpas a dull gweithredu’r Cod Ymarfer drafft

Mae’r Comisiynydd yn croesawu cwmpas ehangach y Cod Ymarfer drafft sy’n ehangu ar y canllawiau statudol, ‘Uwchgyfeirio pryderon ynghylch cartrefi gofal sy’n darparu gwasanaethau i oedolion a chau’r cartrefi hynny’, a gyhoeddwyd yn 2009 er mwyn cynnwys yr holl wasanaethau gofal a chymorth rheoleiddiedig a gomisiynir gan y GIG, gan awdurdodau lleol, neu gan y ddau.

Mae hefyd yn croesawu’r ffordd o weithio ar draws y system gyfan a geir yn y Cod Ymarfer drafft, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau pobl wrth sicrhau ansawdd gwasanaethau a gomisiynir. Mae swyddfa’r Comisiynydd wedi tynnu sylw o’r blaen at yr angen i sicrhau bod gwybodaeth leol am ansawdd gwasanaethau’n cael ei bwydo’n ôl i’r lefel genedlaethol i sicrhau bod modd pennu unrhyw broblemau rhanbarthol neu genedlaethol a mynd i’r afael â hwy.

Yn olaf, mae’n falch o weld bod y Cod Ymarfer drafft yn annog comisiynwyr i weithio mewn ffordd ragweithiol i sicrhau ansawdd gwasanaethau rheoleiddiedig a gomisiynir i atal uwchgyfeirio pryderon yn ddiangen.

Datgomisiynu

Mae’r ddarpariaeth yn y Cod Ymarfer i ddatgomisiynu’n strategol wasanaethau gofal a chymorth nad ydynt yn briodol mwyach, gan sicrhau ar yr un pryd bod gwasanaethau’n parhau i gael eu darparu i ddiwallu anghenion pobl, yn ddatblygiad cadarnhaol. Mae anghenion a dewisiadau pobl hŷn yn newid yn sgil newidiadau demograffig, newidiadau cymdeithasol a newidiadau o ran technoleg, a dylai gwasanaethau esblygu i ddiwallu’r anghenion a’r dewisiadau hynny. Fel y mae’r gyfres gyntaf o Adroddiadau Sefydlogrwydd y Farchnad a gyhoeddwyd o dan adran 144B o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi ei ddangos, nid yw’r gwasanaethau a ddarperir bob amser yn gydnaws ag anghenion a dewisiadau’r 21ain ganrif, ac nid yw gwasanaethau priodol bob amser wedi’u lleoli lle y mae eu hangen.

Wrth iddi ymgysylltu â phobl hŷn, daeth y Comisiynydd ar draws achos sy’n peri pryder lle y cafodd dyn sy’n byw gyda dementia ei gadw mewn amgylchiadau gofidus yn yr ysbyty am ddeufis am nad oedd unrhyw wasanaeth gofal lleol yn gallu diwallu ei anghenion. Yn ystod y cyfnod hwnnw, bu i’w allu i weithredu a’i lesiant ddirywio’n ddramatig. Mae’n hanfodol bod datgomisiynu strategol yn cael ei gefnogi i sicrhau bod modd buddsoddi mewn gwasanaethau eraill sy’n diwallu anghenion lleol yn well. Mae hefyd yn hanfodol bod llesiant pobl hŷn sy’n cael gwasanaethau yn cael ei ddiogelu yn ystod y broses hon.

Diwydrwydd dyladwy a Gofal Iechyd Parhaus y GIG

Mae’r Comisiynydd yn pryderu o glywed gan bobl hŷn ei bod yn ymddangos bod rhai cartrefi gofal yn gofyn am ffioedd atodol am Ofal Iechyd Parhaus y GIG, yn groes i fframwaith cenedlaethol Llywodraeth Cymru, Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Y Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol yng Nghymru. Mae’r ffioedd yn sylweddol – mae’r Comisiynydd wedi clywed am ffi o £300 yr wythnos yn cael ei chodi ar berson hŷn – ac nid yw’n ymddangos bod y ffioedd hyn yn cael eu codi fel rhan o drefniant preifat y mae’r person hŷn neu’i deulu wedi cydsynio iddo, fel y mae’r Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol yn ei ganiatáu. Bu i’r Comisiynydd blaenorol hefyd godi’r mater hwn, gyda darparwyr a chyda Llywodraeth Cymru, rhwng 2020 a 2023. Er bod Llywodraeth Cymru wedi addo gweithredu i fynd i’r afael â’r mater hwn, mae’n destun pryder mawr nad yw’n ymddangos bod yr arfer hwn wedi dod i ben. Byddai swyddfa’r Comisiynydd yn falch o ddarparu mwy o fanylion pe gwnaed cais amdanynt.

Mae’r Comisiynydd yn credu ei bod yn briodol bod y Cod Ymarfer drafft yn pwysleisio y dylai comisiynwyr ymgymryd â gwaith diwydrwydd dyladwy mewn perthynas â darparwyr posibl cyn rhoi contractau ar waith. Fel rhan o’r gwaith diwydrwydd dyladwy hwn, dylid sicrhau nad yw darparwyr yn torri telerau’r Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol nac yn achosi niwed ariannol i bobl hŷn.  Dylai cydymffurfio â’r Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol fod yn rhan o’r broses o reoli a monitro contractau.

Y Gymraeg

Wrth iddi ymgysylltu â phobl hŷn, mae’r Comisiynydd wedi clywed gan berthnasau pobl hŷn a ryddhawyd o’r ysbyty yng Nghymru ac y disgwyliwyd iddynt deithio i gael gofal, gan gynnwys gofal diwedd oes, mewn cyfleusterau gryn bellter i ffwrdd yn Lloegr, gan gynnwys yn Swydd Stafford a Swydd Northampton. Weithiau, mae hyn wedi digwydd heb fawr ddim rhybudd a heb ymgynghori â’r perthynas agosaf nac aelodau eraill o’r teulu. Mae hyn yn ei gwneud yn eithriadol o anodd i’w teuluoedd ymweld â hwy, ac maent yn annhebygol iawn o allu cael gafael ar wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol i bobl hŷn y mae’n well ganddynt gyfathrebu yn eu hiaith gyntaf, neu y mae angen iddynt wneud hynny, yn enwedig os ydynt yn byw gyda dementia. Mae’r Comisiynydd yn disgwyl i gomisiynwyr ddefnyddio’r Cod Ymarfer i helpu i gadw gwasanaethau’n nes at y cartref ac i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg os mai honno yw eu dewis iaith.

Casgliad 

Mae’r Comisiynydd yn croesawu’r Cod Ymarfer drafft ac yn gobeithio y caiff ei ddefnyddio mewn ffordd ragweithiol i fynd i’r afael â nifer o bryderon y mae pobl hŷn wedi rhoi gwybod iddi amdanynt, a’r rheini’n bryderon sy’n ddifrifol ac weithiau’n bodoli ers tro.

 

Lawrlwythwch Ymateb y Comisiynydd (PDF)

Eitemau wedi’u llwytho i lawr

Ymateb i ymgynghoriad - Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru - Cod ymarfer drafft ar sicrhau ansawdd a rheoli perfformiad...

Maint y ffeil
0.16MB
Math o ffeil
PDF Document
Llwytho i lawr

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges