Trosolwg o effaith gwaith Comisiynydd Pobl Hŷn
Cymru 2018–2024
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o effaith fy ngwaith fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o fis Awst 2018 tan fis Awst 2024. Cefais fy mhenodi i’r swydd am gyfnod o bedair blynedd i ddechrau, a gafodd ei ymestyn am ddwy flynedd arall, ar ôl ymgynghori â grwpiau pobl hŷn. Mae’r chwe blynedd yma wedi rhychwantu pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw, newidiadau gwleidyddol sylweddol yng Nghymru a’r DU, a phwysau cynyddol ar y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Ar yr un pryd, fel y dengys yr adroddiad hwn, rydym wedi gwneud cynnydd o ran mynd i’r afael â rhai problemau dwfn a hirsefydlog a brofir gan bobl hŷn, yn ogystal â chychwyn gwaith newydd i’n galluogi i heneiddio’n dda.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i sefydlu Comisiynydd Pobl Hŷn annibynnol, a hynny drwy gyfraith. Mae wedi bod yn fraint ac anrhydedd bod yn Gomisiynydd, ac yn benodol bod wedi treulio amser gyda miloedd o bobl hŷn ledled Cymru, yn ogystal â gweithio gyda llawer o grwpiau pobl hŷn, elusennau a mudiadau gwirfoddol, cyrff cyhoeddus, prifysgolion a llawer mwy. Dim ond oherwydd ein bod wedi gweithio gyda’n gilydd, gan rannu dealltwriaeth ac arbenigedd, cwestiynu a dysgu oddi wrth ein gilydd, a gweithredu gyda’n gilydd y mae llawer o’r gwaith sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwn wedi bod yn bosibl.
Rwy’n hynod ddiolchgar i bawb rydw i wedi cael y fraint o weithio gyda nhw dros y chwe blynedd diwethaf, ac am gefnogaeth ac ymrwymiad fy nhîm drwy gydol y cyfnod hwn.
Diolch o galon
Darllenwch adroddiad y Comisiynydd