Angen Help?

Trosolwg o effaith gwaith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2018 – 2024 (HTML)

Gweithio i sicrhau Cymru lle mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, lle mae hawliau’n cael eu cynnal a lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl

Trosolwg o effaith gwaith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2018 – 2024

Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o effaith fy ngwaith fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o fis Awst 2018 tan fis Awst 2024. Cefais fy mhenodi i’r swydd am gyfnod o bedair blynedd i ddechrau, a gafodd ei ymestyn am ddwy flynedd arall, ar ôl ymgynghori â grwpiau pobl hŷn. Mae’r chwe
blynedd yma wedi rhychwantu pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw, newidiadau gwleidyddol sylweddol yng Nghymru a’r DU, a phwysau cynyddol ar y gwasanaethau
cyhoeddus yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Ar yr un pryd, fel y dengys yr adroddiad hwn, rydym wedi gwneud cynnydd o ran mynd i’r afael â rhai problemau dwfn a hirsefydlog a brofir gan bobl hŷn, yn ogystal â chychwyn gwaith newydd i’n galluogi i heneiddio’n dda.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i sefydlu Comisiynydd  Pobl Hŷn annibynnol, a hynny drwy gyfraith. Mae wedi bod yn fraint ac anrhydedd bod yn Gomisiynydd, ac yn benodol bod wedi treulio amser gyda miloedd o bobl hŷn ledled Cymru, yn ogystal â gweithio gyda llawer o grwpiau pobl hŷn, elusennau a mudiadau gwirfoddol, cyrff cyhoeddus, prifysgolion a llawer mwy. Dim ond oherwydd ein bod wedi gweithio gyda’n gilydd, gan rannu dealltwriaeth ac arbenigedd, cwestiynu a dysgu oddi wrth ein gilydd, a gweithredu gyda’n gilydd y mae llawer o’r gwaith sy’n cael sylw yn yr adroddiad hwn wedi bod yn bosibl.

Rwy’n hynod ddiolchgar i bawb rydw i wedi cael y fraint o weithio gyda nhw dros y chwe blynedd diwethaf, ac am gefnogaeth ac ymrwymiad fy nhîm drwy gydol y cyfnod hwn.

Diolch o galon

Heléna Herklots CBE
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 

Dechrau Arni

“Mae cymdeithas nad yw’n gwerthfawrogi ei phobl hŷn yn gwrthod ei gwreiddiau ac yn peryglu ei dyfodol.”
Nelson Mandela

Yn 2019, cyhoeddais fy strategaeth tair blynedd, yn dilyn ymgysylltu helaeth â dros 3,000 o bobl
hŷn ledled Cymru, yn ogystal â llawer o grwpiau pobl hŷn a sefydliadau eraill. Mae’r dyfyniad gan Nelson Mandela yn ymddangos ar ddechrau’r strategaeth ac mae wedi fy arwain yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Mae’n siarad, nid yn unig am bwysigrwydd pobl hŷn o ran deall ein gorffennol, ond am rôl hanfodol pobl hŷn yn ein dyfodol. Anghofir hyn yn rhy aml.

Roedd y strategaeth yn nodi tair blaenoriaeth:

  • Rhoi diwedd ar ragfarn a gwahaniaethu ar sail oedran
  • Atal cam-drin pobl hŷn
  • Galluogi pawb i heneiddio’n dda
  • Gan ddefnyddio dull damcaniaeth newid, dan bob un o’r blaenoriaethau hyn nodais ganlyniadau allweddol ar gyfer pobl hŷn y byddwn yn eu cefnogi drwy gyflawni fy ngwaith.

Yn gryno, roedd y rhain yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Mynediad teg at wasanaethau, cefnogaeth ac adnoddau, wedi’u pennu ar sail angen, nid
    yn ôl tybiaethau gwahaniaethol neu ar sail oedran
  • Mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion allweddol sy’n effeithio ar ein bywydau
    wrth i ni heneiddio, o fewn gwasanaethau cyhoeddus ac ymysg pobl hŷn
  • Pobl hŷn yn teimlo eu bod yn wybodus ac yn hyderus i herio arferion gwael a chodi
    pryderon pan nad yw eu hawliau’n cael eu cynnal

Roedd y strategaeth yn fwriadol yn nodi gweledigaeth gadarnhaol iawn o wneud Cymru y lle
gorau yn y byd i heneiddio, fel ein bod yn anelu’n uchel at yr hyn yr oeddem am ei gyflawni gyda
phobl hŷn ac ar eu cyfer ac yn creu dull cadarnhaol a chyfranogol o weithio gydag eraill i sicrhau
bod hyn yn digwydd.

Un o fwriadau eraill y strategaeth oedd sicrhau fy mod yn ymgymryd â gwaith a allai fod o fudd
i bob person hŷn yng Nghymru, yn ogystal â gwneud gwaith i wella ansawdd bywyd y bobl hŷn
sydd fwyaf mewn angen neu mewn sefyllfaoedd bregus, neu sydd mewn perygl. Roeddwn hefyd eisiau sicrhau fy mod yn defnyddio rôl a phwerau unigryw’r Comisiynydd i fynd i’r afael â materion na fyddent o bosibl yn cael sylw fel arall, neu lle byddai gwneud cynnydd yn anodd heb ddefnyddio pwerau cyfreithiol y Comisiynydd.

 

Ymateb i Bandemig Covid-19

“Mae fy Nhad yn 92 oed, mae Mam yn 89. Dad yn dweud
pam nad oedd Joyce yn ddigon pwysig i gael prawf?”
Dyfyniad gan berson hŷn, Adroddiad Lleisiau Cartrefi Gofal

Llai na blwyddyn ar ôl i mi gyhoeddi fy strategaeth, dechreuodd pandemig Covid-19 a newidiodd
ein bywydau ni i gyd. Effeithiwyd yn arbennig ar bobl hŷn ac felly rhoddais bwyslais ar:

  • Sefydlu ffyrdd newydd o ymgysylltu a gwrando ar bobl hŷn yn ystod y cyfyngiadau symud pan nad oeddwn i’n gallu gweld pobl wyneb yn wyneb
  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i fwy o bobl hŷn a’u teuluoedd a’u ffrindiau
  • Canolbwyntio ar hawliau pobl hŷn gan gynnwys cynyddu ymwybyddiaeth o hawliau a herio cyrff cyhoeddus pan oedd y rhain dan fygythiad
  • Craffu ar benderfyniadau a dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif am eu gweithredoedd
  • Cynnull rhwydweithiau a grwpiau gweithredu newydd i alw am weithredu, cynnig atebion, a hyrwyddo arferion da
  • Cynnal seminarau a chynadleddau ar-lein sy’n galluogi lleisiau a phrofiadau pobl hŷn i gael eu clywed gan gyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill, ac i annog gweithredu
  • Gweithio gyda’r cyfryngau i sicrhau bod effaith y pandemig ar bobl hŷn yn cael ei chydnabod ac i weithredu fel eiriolwr drostynt

Ffocws cynnar a pharhaus yn ystod y pandemig oedd pobl hŷn yn byw mewn cartrefi gofal. Yn
anffodus, collodd llawer eu bywydau ac roedd pawb yn wynebu cyfyngiadau a cholli cysylltiad ag anwyliaid. Fe wnes i waith ym mis Mai a mis Mehefin 2020, gan arwain at yr adroddiad a’r
argymhellion yn ‘Lleisiau Cartrefi Gofal: Cipolwg ar fywyd yng nghartrefi gofal Cymru yn ystod Covid-19’. Gweithiais hefyd gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i graffu’n ffurfiol ar brosesau gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hawliau pobl hŷn mewn cartrefi gofal.

Adroddiad allweddol arall yn ystod y pandemig oedd ‘Gadael Neb ar ôl: camau gweithredu ar gyfer adferiad o blaid pobl hŷn’ a gyhoeddwyd ym mis Awst 2020 a oedd yn defnyddio profiadau a syniadau pobl hŷn, a rannwyd drwy 16 o sesiynau ymgysylltu ar-lein. Roedd yn nodi’r camau tymor byr a thymor hwy sydd eu hangen i atal pobl hŷn rhag cael eu gadael ar ôl. Gwnaed defnydd o’r adroddiad a’r camau gweithredu gan lawer o sefydliadau yn ogystal â Llywodraeth Cymru, gan ddylanwadu, er enghraifft, ar y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio a’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn.

Mae’r gwaith a wnes yn ystod y pandemig yn cael ei grynhoi mewn adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd sy’n rhoi cipolwg ar ehangder profiadau pobl hŷn, a’r heriau a wynebir, yn ogystal â thynnu sylw at y camau a gymerais ac y galwais amdanynt ar ran pobl hŷn.

Hefyd, cyflwynais dystiolaeth ysgrifenedig i Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19, a rhoddais
dystiolaeth lafar ym mis Chwefror 2024, sy’n cael ei hamlinellu’n ddiweddarach.

Dod allan o’r pandemig

Yn 2022 cafodd fy nghyfnod fel Comisiynydd ei ymestyn am ddwy flynedd ac yn fy rhaglen waith ar gyfer 2022-2024 roeddwn yn cynnwys diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn fel blaenoriaeth benodol yn ogystal â thema sy’n rhedeg ar draws fy holl waith. Roedd y rhaglen waith ar gyfer y ddwy flynedd hyn yn ymateb i effeithiau’r pandemig ar bobl hŷn a’r gymdeithas ehangach yn ogystal â bygythiad newydd yr argyfwng costau byw. Roedd hyn yn cynnwys gwaith i:

  • Cryfhau a chodi ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal
  • Gwella gwybodaeth a chyfathrebu ynghylch Peidio â Cheisio CPR
  • Cynyddu’r ddealltwriaeth o brofiadau pobl hŷn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
  • Mynd i’r afael ag allgáu digidol
  • Gwella’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn
  • Cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o oedraniaeth a’i effeithiau drwy hyfforddiant a
    chanllawiau ymarferol

 

Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth

“Mae fy ngweithiwr achos wedi ‘cynnig geiriau doeth’ yn ystod misoedd llawn straen. Mae hi’n dda iawn am wrando ac wedi bod yn help mawr i mi ar adeg pan oeddwn wedi cyrraedd pen fy nhennyn. Mae wedi fy helpu i gael y nerth i barhau i ymladd yn erbyn system sy’n methu.”

Adborth gan berson hŷn

Rhan greiddiol o waith fy nhîm yw darparu cyngor a chymorth i bobl hŷn unigol a’u teuluoedd.
Roedd hyn yn arbennig o hanfodol yn ystod y pandemig, pan oedd hyd yn oed mwy o angen am wybodaeth a chyngor dibynadwy. Dros y chwe blynedd diwethaf, rydym wedi cefnogi dros 3,000 o bobl hŷn gyda chyngor a chymorth, gan gynnwys helpu pobl hŷn i gael yr iechyd a’r gofal sydd eu hangen arnynt, delio â phroblemau gyda materion sy’n ymwneud â thai a’r gymdogaeth, cefnogi pobl sydd mewn perygl o gael eu cam-drin, ac yn aml helpu pobl hŷn sy’n wynebu cymysgedd cymhleth o broblemau a phwysau.

Mae’r gallu unigryw i ddarparu cyngor annibynnol, wedi’i gefnogi gan bwerau cyfreithiol y Comisiynydd, yn golygu y gallwn yn aml helpu i ddatrys problemau cymhleth, neu roi’r
wybodaeth a’r gefnogaeth i bobl er mwyn iddynt allu datrys problemau. Rydyn ni’n gallu darparu
cyngor a chymorth, nid dim ond ar un mater neu ar un adeg, ond dros gyfnod o amser, gan roi’r
sicrwydd i bobl ein bod ni yma pan fydd ein hangen arnynt.

Mae’r materion a godwyd gyda ni, a’r problemau y mae pobl hŷn yn eu profi, hefyd yn helpu i
lywio fy ngwaith ehangach – er enghraifft nodi newidiadau sydd eu hangen i bolisi’r Llywodraeth,
neu lle mae angen i gyrff cyhoeddus wella eu hymarfer.

Mae cynyddu ymwybyddiaeth pobl hŷn o’u hawliau yn rhan annatod o ddarparu gwybodaeth,
cyngor a chymorth, ac rydym wedi dosbarthu dros 100,000 o ganllawiau gwybodaeth i bobl hŷn, a sefydliadau sydd mewn cysylltiad â phobl hŷn. Rydyn ni’n gwybod bod ‘gwybodaeth yn bŵer’ felly rydyn ni’n datblygu canllawiau, taflenni gwybodaeth, yn ogystal â deunyddiau i’w rhannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol er mwyn cyrraedd cynifer o bobl hŷn â phosibl.

Mae’r pynciau a drafodir yn cynnwys canllawiau ar ryddhau o’r ysbyty, hawliau i gael gafael ar
wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol, atwrneiaeth arhosol, a hawliau i gael mynediad
at feddyg teulu.

 

Rôl gyhoeddus

Un o ofynion fy rôl, fel y nodir yn Neddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006, yw ‘hyrwyddo
ymwybyddiaeth o fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru a’r angen i ddiogelu’r buddiannau hynny’.
Mae hyn yn gofyn i mi gael rôl gyhoeddus a phresenoldeb cyhoeddus fel bod pobl hŷn yn gwybod am rôl y Comisiynydd a sut i gysylltu â mi, ac er mwyn i mi allu ymhelaethu a darparu llwyfan ar gyfer eu lleisiau, eu problemau a’u pryderon. Mae gweithio gyda’r cyfryngau yn rhan hanfodol o hyn.

Rydw i wedi gweithio gyda’r cyfryngau i wneud y canlynol:

  • Rhannu profiadau pobl hŷn a sut mae materion yn effeithio arnynt, er enghraifft, yr
    argyfwng costau byw
  • Hyrwyddo hawliau a gwybodaeth ar gyfer pobl hŷn, er enghraifft hawliau i gael mynediad at feddyg teulu
  • Tynnu materion i sylw pobl hŷn a’r cyhoedd yn gyffredinol, er enghraifft tynnu sylw at y cam-drin y gall pobl hŷn ei ddioddef a sut i gael help
  • Pwyso am newidiadau sydd eu hangen mewn deddfwriaeth, polisi neu ymarfer, er
    enghraifft, yr angen am gynllun gweithredu cartrefi gofal yn ystod y pandemig
  • Tynnu sylw at ganfyddiadau ac argymhellion fy ymchwil a’m hadroddiadau, er enghraifft allgáu digidol yn ‘Dim Mynediad’

Dros y chwe blynedd, ar draws teledu, radio, papurau newydd a sianeli eraill, cafwyd dros 7.7
biliwn o ‘gyfleoedd i weld’ eitemau newyddion yn ymwneud â’m gwaith.

Mae gallu cyrraedd cynifer o bobl hŷn drwy’r cyfryngau yn bwysig, ond mae’n arbennig o bwysig
fy mod yn cwrdd â phobl hŷn, wyneb yn wyneb, yn eu cymunedau a’u grwpiau.

 

Estyn allan at bobl hŷn ac ymgysylltu â nhw

“I fyw’n annibynnol, mae angen i chi allu gwneud dewisiadau.”
Person hŷn mewn digwyddiad ymgysylltu

Mae ymgysylltu â phobl hŷn yn un o agweddau pwysicaf fy rôl, yn ogystal â bod yn un o’r rhai
mwyaf pleserus, a thrwy gydol fy nghyfnod fel Comisiynydd rydw i wedi teithio ledled Cymru i gwrdd a siarad â miloedd o bobl hŷn. Yn ystod cyfyngiadau symud y pandemig, dim ond ar-lein y gallwn i wneud hyn ac o’r herwydd, roedd rhai pobl hŷn yn cael eu heithrio rhag dod i gysylltiad uniongyrchol â mi, ond roedd yn galluogi rhai, er enghraifft y rhai â chyfrifoldebau gofalu neu nad oedd yn gallu teithio, i rannu eu profiadau a’u safbwyntiau’n uniongyrchol â mi. Ers diwedd y pandemig, rydyn ni wedi bod yn cwrdd wyneb yn wyneb ac ar-lein, i gynyddu’r cyfleoedd i bobl hŷn gwrdd â mi.

Rydw i wedi ymweld â grwpiau cymunedol, clybiau cymdeithasol, clybiau chwaraeon, llyfrgelloedd, cartrefi gofal, canolfannau dydd, fforymau pobl hŷn, grwpiau sy’n cefnogi pobl sy’n
byw gyda dementia, grwpiau gofalwyr, clybiau cinio – ym mhob man ac yn unrhyw le y gallaf
glywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn. Mae llawer o sgyrsiau wedi aros gyda mi, ac rwyf wedi
defnyddio profiadau a syniadau pobl hŷn drwy gydol fy ngwaith, ac wrth ‘ddweud y gwir plaen
wrth y rhai mewn grym’.

Mae miloedd o bobl hŷn wedi cyfrannu at yr ymchwil rwyf wedi’i chynnal, o rannu eu profiadau o fyw yn ystod gaeaf 2020-21 yn ystod cyfyngiadau symud y pandemig, i ddisgrifio eu profiadau o gael eu heithrio’n ddigidol, i dynnu sylw at yr heriau o gael gafael ar feddyg teulu.  Mae pobl hŷn hefyd wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau a chynadleddau, wyneb yn wyneb ac ar-lein, lle rydw i bob amser wedi sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl hŷn wrth galon y trafodaethau. Mae miloedd lawer o bobl wedi cymryd rhan yn y digwyddiadau hyn, gan gynnwys o rannau eraill o’r DU ac yn rhyngwladol.

 

Bwrw ymlaen â’r blaenoriaethau: Diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn

“Cyn belled â bod chi’n fyw, mae gennych chi hawliau. Hyd eich anadl olaf mae gennych hawl i gael eich trin ag urddas.”
Person hŷn mewn sgwrs â’r Comisiynydd Effaith

  • Gwrthdroi penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu’r oedran cymhwyso ar gyfer y tocyn bws rhatach o 60 i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, a fyddai wedi effeithio ar 300,000 o bobl hŷn.
  • Sicrhau camau gweithredu gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd mewn ymateb i’m canllawiau ffurfiol ar sut mae diogelu hawliau pobl hŷn i gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau mewn oes ddigidol.
  • Nodi achosion posibl o dorri hawliau pobl hŷn ym mhenderfyniadau’r llywodraeth yn ystod camau cynnar y pandemig drwy weithio mewn partneriaeth â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, gan arwain at gamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r materion a ganfuwyd.
  • Sicrhau, gydag eraill, bod darpariaethau yn Neddf y Coronafeirws a oedd yn rhoi hawliau pobl hŷn mewn perygl wedi cael eu diddymu.
  • Sefydlu Grŵp Hawliau Pobl Hŷn y DU sy’n byw mewn Cartrefi Gofal a, gyda’u cefnogaeth, cynhyrchu canllawiau i bobl hŷn ar eu hawliau, yr aeth copïau ohonynt yn mynd i bob cartref gofal yng Nghymru.
  • Gweithio gyda sefydliadau cymunedol i archwilio profiadau pobl hŷn Ddu, Asiaidd a Ethnig Leiafrifol, i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ac amddiffyn hawliau, gan gynnwys drwy gyhoeddi ‘Heneiddio yng Nghymru’ yn 2024’.

Pan ddechreuais yn y swydd, yr oedd llawer iawn o drafod a dadlau eisoes ar droed yng Nghymru ynghylch hawliau pobl hŷn, a sut y gellid cryfhau a gwarchod y rhain, gan gynnwys drwy ddefnyddio deddfwriaeth. Ond roedd ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn, gan gynnwys ymysg pobl hŷn eu hunain, yn gymharol gyfyngedig, a dyna pam mai fy nghyhoeddiad cyntaf ar gyfer pobl hŷn oedd ‘Gwybod eich Hawliau: Canllaw Syml’.

Roedd diogelu hawliau pobl hŷn yn ffocws allweddol i’m gwaith yn ystod pandemig Covid-19.
Gwelsom achosion posibl o dorri hawliau pobl i ryddid, a’r hawl i barch at fywyd preifat a
theuluol, sydd wedi’u hymgorffori yn Erthyglau 5 ac 8 y Ddeddf Hawliau Dynol, gyda llawer o
bobl hŷn a oedd yn byw mewn cartrefi gofal yn wynebu cyfyngiadau sylweddol am amser hir, ac
yn methu â chael cyswllt wyneb yn wyneb â’u hanwyliaid.

Dyna pam y bu i mi weithio mewn partneriaeth â Chomisiynydd Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru i archwilio a oedd achosion posibl o dorri hawliau dynol wedi digwydd ac i asesu a oedd Llywodraeth Cymru wedi cydymffurfio â’r dyletswyddau cydraddoldeb a hawliau dynol perthnasol mewn ymateb i’r pandemig. Gwnaethom ofyn am dystiolaeth ar dri maes, a’u hadolygu: profion ar gyfer preswylwyr a staff cartrefi gofal, mynediad at offer diogelu personol, ac ymweliadau â chartrefi gofal.

Gwelsom fod diffygion ym mhrosesau gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru o ran
ystyriaethau cydraddoldeb a hawliau dynol yn ystod misoedd cyntaf y pandemig. Gwelsom hefyd nad oeddent yn gallu dangos tystiolaeth ddigonol o ystyriaeth briodol i bobl hŷn a’u hawliau.

Yn dilyn y craffu, yr her a’r camau gweithredu a gymerwyd gennym, cymerodd Llywodraeth
Cymru nifer o gamau i wella a gwreiddio’r broses o ystyried hawliau pobl hŷn yn ei phrosesau
o ran polisi a gwneud penderfyniadau. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu gweithgor mewnol i helpu i wreiddio ymarfer, cynnal Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb, a chynnwys ymrwymiad penodol i hawliau pobl hŷn yn y Strategaeth newydd ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio.

Roedd profiad y pandemig yn dangos angen brys am fwy o ymwybyddiaeth o hawliau pobl hŷn
sy’n byw mewn cartrefi gofal, yn ogystal â mesurau i gryfhau hawliau mewn ymarfer. Sefydlais
y Grŵp Hawliau Pobl Hŷn sy’n Byw mewn Cartrefi Gofal ym mis Ebrill 2021, gan ddwyn ynghyd sefydliadau allweddol o bob cwr o’r DU i gydweithio i gryfhau hawliau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, a sicrhau eu bod nhw a’u teuluoedd yn gwybod, yn deall, ac yn gallu defnyddio eu hawliau.

Mater arall a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig oedd effaith allgáu digidol ar bobl hŷn a oedd yn golygu bod llawer o unigolion yn methu â chael gafael ar wybodaeth, cymorth a gwasanaethau hanfodol. Defnyddiais fy mhwerau cyfreithiol i gyhoeddi canllawiau ffurfiol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd ym mis Tachwedd 2021 ychwanegu dolen yn nodi’r mathau o gamau y dylent fod yn eu cymryd i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau drwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol, ac i gefnogi pobl hŷn sydd eisiau mynd ar-lein ac aros ar-lein i allu gwneud hynny. Cyhoeddwyd y canllawiau hyn dan Adran 12 o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) ac mae’n rhaid i fyrddau iechyd ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni eu swyddogaethau. Yr oedd hefyd yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd adrodd i mi ar y camau yr oeddent yn eu cymryd.

Mae’r newid i wybodaeth, cyfathrebiadau a gwasanaethau digidol yn parhau i symud yn gyflym,
ac mae miloedd o bobl hŷn mewn perygl nid yn unig o allgáu digidol, ond o allgáu cymdeithasol
o ganlyniad. Felly, rydw i wedi parhau i gasglu profiadau pobl hŷn ac effeithiau allgáu digidol ar eu bywydau ac wedi cyhoeddi ‘Dim Mynediad: Profiadau Pobl Hŷn o Allgáu Digidol yng Nghymru’ ym mis Ionawr 2024. Mae fy nhîm yn parhau i gynghori cyrff cyhoeddus ledled Cymru ar sut i sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu heithrio, a lle bo angen, herio arferion gwael.

Cafodd y pandemig effaith anghymesur ar bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys
pobl hŷn, a gwelwyd anghydraddoldebau a oedd yn bodoli eisoes yn gwaethygu. Nid oedd llawer o dystiolaeth am brofiadau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o heneiddio yng Nghymru, gan gynnwys i ba raddau roedd eu hawliau’n cael eu cynnal. Felly, defnyddiais rwydweithiau a dulliau ymgysylltu presennol i gysylltu â phobl hŷn a gofynnais i’r sefydliadau a’r unigolion hynny sy’n hwyluso ymgysylltu o’r fath gasglu’r adroddiadau personol a’r profiadau o ran sut beth yw hi i bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol heneiddio yng Nghymru.

Cyhoeddais yr adroddiad ‘Heneiddio yng Nghymru: Safbwyntiau Pobl Hŷn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol’ a chyn cyhoeddi cysylltais eto â’r sefydliadau a’r bobl hŷn a oedd wedi cymryd rhan, yn y fformat a oedd fwyaf addas iddyn nhw. Fe wnes i gwrdd â rhai ohonyn nhw wyneb yn wyneb, recordio fideo ar gyfer eraill, ac roedd yn well gan rai adborth ysgrifenedig gen i. Roedd hyn yn fy ngalluogi i rannu canfyddiadau’r ymchwil a’r camau yr oeddwn yn eu cymryd o ganlyniad.

Dangosodd yr ymchwil yr anawsterau a brofwyd wrth gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig meddygon teulu, ac effaith allgáu digidol a dylanwadodd ar fy ngwaith yn y meysydd hyn. Yn bwysig hefyd, mae’r ymchwil a’r cyswllt a’r sgyrsiau parhaus â phobl hŷn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn darparu gwybodaeth hanfodol sy’n ein helpu i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pob person hŷn yn well.

Cylch gwaith craidd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yw diogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn a
bydd hyn yn parhau i fod yn wir. Roedd y pandemig a’r ymateb iddo, yn dangos bod angen i
hawliau pobl hŷn gael eu deall yn well a’u gwreiddio’n gadarnach, nid yn unig mewn polisi ac
ymarfer, ond yn niwylliant llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus hefyd. Mae mwy i’w wneud,
nid yn unig yng Nghymru ond ar lefel ryngwladol hefyd, lle mae angen inni weld Confensiwn gan
y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Hŷn.

 

Rhoi diwedd ar ragfarn a gwahaniaethu ar sail oedran

“Rydw i’n teimlo fy mod i wedi cyflawni trosedd drwy fyw’n hirach.”
Person hŷn wrth sgwrsio â’r Comisiynydd Effaith

  • Grymuso pobl hŷn ledled Cymru i weithredu yn erbyn oedraniaeth drwy ddarparu
    sesiynau hyfforddi a darparu gwybodaeth ac adnoddau.
  • Herio mythau a stereoteipiau am bobl hŷn, a thynnu sylw at effaith oedraniaeth a
    gwahaniaethu ar sail oedran drwy fy ymgyrch ‘EverydayAgeism’.
  • Datblygu canllawiau ar gyfer newyddiadurwyr gyda’r Ganolfan Heneiddio’n Well, sydd bellach wedi’i gynnwys ar hyb adnoddau Sefydliadau Safonau’r Wasg Annibynnol (IPSO) ar gyfer newyddiadurwyr.
  • Cynhyrchu canllawiau ar osgoi gwahaniaethu ar sail oedran mewn cyfathrebiadau a’i rannu â sefydliadau yn y sector cyhoeddus.
  • Cefnogi sefydlu Grŵp Trawsbleidiol yn y Senedd sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo undod a dealltwriaeth rhwng cenedlaethau.
  • Dechrau gwaith newydd ar y cysylltiadau rhwng oedraniaeth a cham-drin, a darparu gwybodaeth i helpu ymarferwyr adnabod y cysylltiadau a gwella eu hymarfer.
  • Darparu sesiwn hyfforddi ar-lein i 650 o staff Llywodraeth Cymru i’w helpu i adnabod ac osgoi oedraniaeth wrth gyfathrebu a gwneud penderfyniadau.

Mae oedraniaeth – y stereoteipio, y rhagfarn a’r gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail eu hoedran
– yn sail i lawer o’r heriau y gallwn eu hwynebu fel pobl hŷn. Mae’n effeithio ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni wrth i ni heneiddio ac, fel y dengys corff cynyddol o dystiolaeth, mae llawer o agweddau ar ein hiechyd a’n lles a’n gallu i heneiddio’n dda, yn enwedig pan fydd oedraniaeth yn cael ei ‘fewnoli’ ac rydym yn y bôn yn gwahaniaethu yn ein herbyn ein hunain.

Gall oedraniaeth gael dylanwad negyddol ar benderfyniadau a wneir gan gymdeithas hefyd,
gan olygu bod y gwasanaethau, y cyfleusterau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnom i’n helpu i heneiddio’n dda yn gallu bod yn annigonol ac yn gwahaniaethu yn ein herbyn, boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. Mae’n gyffredin iawn – dywed Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) fod un o bob dau o bobl yn fyd-eang yn gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn ar sail oedran. Gan ddefnyddio tystiolaeth Sefydliad Iechyd y Byd o ymyriadau effeithiol, rydw i wedi
canolbwyntio ar bolisi a’r gyfraith, ymyriadau addysgol, a gwaith pontio’r cenedlaethau.

Yn 2019, datblygais gwrs hyfforddi wedi’i lunio ar gyfer pobl hŷn, ‘Gweithredu yn Erbyn
Oedraniaeth’ a oedd yn archwilio’r ffyrdd y gallai oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran
amlygu eu hunain mewn nifer o sefyllfaoedd, gan gynnwys yn y gweithle, mewn gofal iechyd a gwasanaethau eraill, ac yn y cyfryngau, gan helpu cyfranogwyr i ddeall sut y gellir herio
oedraniaeth. Addaswyd cynnwys y cwrs yn llyfryn gwybodaeth sy’n dal i gael ei ddosbarthu ac
mae wedi cyrraedd miloedd lawer o bobl hŷn.

I gyrraedd y cyhoedd, fe wnes i lansio fy ymgyrch #EverydayAgeism i dynnu sylw a herio’r
oedraniaeth sy’n wynebu llawer o bobl hŷn ledled Cymru bob dydd. i dynnu sylw at a herio’r
oedraniaeth sy’n wynebu llawer o bobl hŷn ledled Cymru bob dydd. Roedd hyn yn annog pobl i wneud addewid #EverydayAgeism – gan ddatgan yn gyhoeddus pa gamau y byddent yn eu cymryd i chwarae eu rhan i fynd i’r afael â rhagfarn ar sail oedran. Gwnaed addewidion gan Weinidogion Llywodraeth Cymru yn ogystal â chan uwch arweinwyr o gyrff cyhoeddus a
sefydliadau eraill, grwpiau pobl hŷn a sefydliadau cymunedol.

Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn faes arall lle mae angen mwy o ymchwil a thystiolaeth. Fe
wnes i gomisiynu ymchwil i’r portread o bobl hŷn yn y cyfryngau newyddion ychwanegu dolen, ac roedd y canfyddiadau’n allweddol o ran cefnogi’r gwaith o ddatblygu canllaw i newyddiadurwyr, mewn partneriaeth â’r Ganolfan Heneiddio’n Well, i ddarparu gwybodaeth ac awgrymiadau ar iaith, tôn a delweddau. Mae’r canllaw bellach wedi’i gynnwys ar hyb adnoddau rheoleiddiwr y wasg, IPSO, ar gyfer newyddiadurwyr.

Yn yr un modd, fe wnes i ddatblygu canllaw ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n cynnwys cyngor ymarferol ar sut i osgoi oedraniaeth wrth gyfathrebu, yn ogystal ag enghreifftiau o arferion da, sydd wedi cael eu rhannu’n eang â chyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill ledled Cymru.

Mae hyn wedi arwain at waith gyda swyddogion i nodi sut y gallai Llywodraeth Cymru fod yn
esiampl o ran arferion sy’n gadarnhaol o ran oedran, sydd wedi cynnwys darparu sesiwn
hyfforddiant ‘Dewch i Ddysgu’ i dros 650 o staff i’w helpu i adnabod ac osgoi oedraniaeth wrth wneud penderfyniadau a chyfathrebu. Mae fy nhîm bellach yn gweithio ar ddatblygu modiwl
hyfforddi ar-lein er mwyn i fwy o sefydliadau allu cael mynediad at ddysgu am oedraniaeth.

Fel y dengys tystiolaeth Sefydliad Iechyd y Byd, mae cryfhau cysylltiadau rhwng cenedlaethau yn ffordd effeithiol o fynd i’r afael ag oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oedran. Felly, gweithiais
gydag Aelodau’r Senedd i sefydlu’r Grŵp Trawsbleidiol ar Undod Rhwng Cenedlaethau, sy’n dod â phobl hŷn ac iau, gwleidyddion, ymchwilwyr, ymarferwyr pontio’r cenedlaethau ac eraill at ei gilydd i gefnogi datblygiad a gweithredu rhwng cenedlaethau. Un o’r meysydd y mae’r Grŵp yn canolbwyntio arno yw mynd i’r afael ag oedraniaeth.

Ni fyddwn yn gwneud cynnydd cynaliadwy o ran gwella’r profiad o heneiddio oni bai a nes
byddwn yn mynd i’r afael ag oedraniaeth. Yn galonogol, mae bellach Ymgyrch Fyd-eang i Fynd
i’r Afael ag Oedraniaeth a’r cyfle i rannu’r heriau, y llwyddiannau a’r dysgu gyda sefydliadau ar draws y byd. Yn nes at adref, mae’r Ganolfan Heneiddio’n Well yn arwain ymgyrch fawr yn erbyn oedraniaeth, ‘Heneiddio Heb Gyfyngiadau’ a dylai hyn arwain at fwy o ymwybyddiaeth o effeithiau niweidiol oedraniaeth, a sut i fynd i’r afael ag ef.

 

Atal cam-drin pobl hŷn

“Y rhwystr mwyaf i ddod ymlaen yw’r gred nad oes neb yn mynd i helpu, neb yn mynd i wrando.”
Goroeswr cam-drin hŷn Effaith

  • Galluogi pobl hŷn sydd wedi goroesi camdriniaeth i gael llais drwy eu cefnogi i gyfrannu’n uniongyrchol at ddigwyddiadau ac adroddiadau, a thrwy rannu eu profiadau â llunwyr polisïau a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.
  • Cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth ymysg staff gwasanaethau cyhoeddus am arwyddion cam-drin, a lle gall pobl hŷn gael gafael ar gymorth a chefnogaeth drwy hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth.
  • Helpu i ddileu’r terfyn oedran uchaf o 74 yn arolwg troseddu Cymru a Lloegr i sicrhau nad yw profiadau pobl hŷn yn mynd yn anweledig oherwydd diffyg data.
  • Lansio cyfeiriadur o wasanaethau cymorth cam-drin yng Nghymru i gysylltu pobl hŷn, eu teuluoedd a gweithwyr proffesiynol â manylion cyswllt dros 150 o sefydliadau sy’n darparu cymorth i bobl sy’n cael eu cam-drin (neu sydd mewn perygl) o gael eu cam-drin.
  • Dod â sefydliadau allweddol at ei gilydd i sbarduno newid drwy fy Ngrŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin.
  • Sicrhau Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn, y cyntaf o’i fath yn y DU, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2024.
  • Sicrhau mwy o gydnabyddiaeth i brofiadau pobl hŷn yn Llywodraeth Cymru drwy sicrhau cytundeb ar gyfer ffrwd waith ‘pobl hŷn’ o fewn rhaglen waith Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) y llywodraeth.
  • Cyhoeddi ymchwil newydd i lenwi bylchau data sylweddol o ran profiad pobl hŷn o gam-drin yng Nghymru, a phrofiadau dynion hŷn o gam-drin.
  • Helpu sefydliadau i wella’r wybodaeth sydd ar gael i bobl hŷn am sgamiau a throseddau ariannol eraill, drwy weithio gyda phobl hŷn – gan gynnwys siaradwyr Cymraeg a phobl hŷn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol – i ddatblygu canllawiau ar gyfer cyfathrebu a gwybodaeth effeithiol.

Gall cam-drin ddigwydd ar sawl ffurf ac mae’n effeithio ar filoedd o bobl hŷn yng Nghymru. Er
gwaethaf ei faint a’i effaith, mae cam-drin pobl hŷn yn dal yn fater cudd yn aml, gan wneud pobl
hŷn sy’n cael eu cam-drin yn arbennig o agored i niwed. Er mwyn newid hyn, roedd angen:

• Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd
• Gwella cefnogaeth a gwasanaethau
• Cynnal ymchwil a gwella data
• Gwrando ar leisiau a phrofiadau pobl hŷn
• Cefnogi staff drwy hyfforddiant a gwybodaeth
• Dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth

Cafodd yr amcanion hyn eu datblygu drwy sefydlu Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin er mwyn i sefydliadau allweddol a phobl hŷn gydweithio, rhannu profiadau, gwybodaeth ac arbenigedd. Yn gynnar yn y pandemig, datblygodd a dosbarthodd y Grŵp wybodaeth i bobl hŷn a’u teuluoedd ynghylch sut y gallent amddiffyn eu hunain ac eraill rhag camdriniaeth a thwyll ariannol, a ble i ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth. Cyrhaeddodd yr wybodaeth hon dros 50,000 o unigolion ar-lein, ac mae dros 20,000 o gopïau o’r daflen ‘Mynnwch Help, Cadwch yn Ddiogel’ wedi cael eu dosbarthu ledled Cymru.

Un o’r heriau wrth wneud cynnydd oedd diffyg tystiolaeth a data am brofiadau pobl hŷn o gam-drin. Enghraifft amlwg o hyn oedd y ffaith nad oedd arolwg troseddau Cymru a Lloegr hyd yn oed yn casglu data ar gyfer unrhyw un dros 74 oed – gan wneud profiadau pobl hŷn yn anweledig. Gan weithio gyda sefydliadau eraill, gwnaethom lwyddo i newid hyn, a bydd hyn yn darparu tystiolaeth y mae mawr ei hangen er mwyn gwneud rhagor o gynnydd.

Ar ben hynny, roedd angen darganfod mwy am brofiadau penodol pobl hŷn yng Nghymru a defnyddio hyn i nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen i wella dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o gam-drin, a’r cymorth a’r gwasanaethau sydd ar gael. Cynhaliwyd ymchwil i anghenion llety pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, drwy arolwg gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, a gweithdy ar-lein yn cynnwys profiadau rhywun sydd wedi goroesi camdriniaeth hŷn. Roedd hyn yn cynyddu’r gydnabyddiaeth o’r angen i ddarparu llety addas i bobl hŷn a oedd angen gadael eu cartref oherwydd cam-drin domestig.

Dilynwyd yr ymchwil hon gan ymarfer mapio i ganfod mathau ac argaeledd gwasanaethau
cymorth cam-drin yng Nghymru, ac adolygiad o’r dystiolaeth bresennol (cyfyngedig) am
brofiadau pobl hŷn o gam-drin. Roedd yr adroddiad ‘Gwasanaethau Cymorth i Bobl Hŷn sy’n
Profi Camdriniaeth yng Nghymru’ yn amlygu’r angen am ragor o wasanaethau a chymorth
wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion pobl hŷn, yn ogystal â nodi nifer o rwystrau a all atal pobl
hŷn rhag cael gafael ar wasanaethau a chymorth.

Gan ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwyd drwy’r ymarfer mapio, fe wnes i ddatblygu Cyfeiriadur
Gwasanaethau Cymorth Cam-drin sy’n galluogi pobl hŷn, teulu a ffrindiau, a gweithwyr
proffesiynol i chwilio am gymorth a chefnogaeth yn eu hardal leol a chwilio am gymorth gan
sefydliadau cenedlaethol neu fwy arbenigol.

Ychydig iawn o dystiolaeth oedd yn ymwneud â phrofiad dynion hŷn o gam-drin domestig, er
gwaethaf y ffaith bod hyd at draean o’r dioddefwyr sydd wedi goroesi yn ddynion, gyda dynion
hŷn yn wynebu mwy o risg. Casglwyd tystiolaeth drwy gyfweliadau manwl gyda dynion 50 oed
a hŷn sydd wedi goroesi ac mae’r adroddiad ymchwil, ‘Gwella Cefnogaeth a Gwasanaethau i Ddynion Hŷn sy’n Profi Cam-drin Domestig’ yn archwilio’r ffyrdd y gall dynion brofi camdriniaeth, y rhwystrau a’r heriau y maent yn aml yn eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar
gymorth, a’r ffyrdd y mae angen gwella gwasanaethau a chymorth yng Nghymru. Mae’r ymchwil
hon wedi arwain at fwy o gydnabyddiaeth o gam-drin dynion hŷn, fel y gwelir yng Nghynllun
Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Cymru i Atal Cam-drin Pobl Hŷn.

Fe wnes i nodi’r angen am gynllun gweithredu cenedlaethol yn gynnar yn fy nghyfnod yn y swydd, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru ac aelodau’r Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin, gan arwain at gyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn ym mis Mawrth 2024. Mae cyhoeddi’r cynllun – y cyntaf o’i fath yn y DU – yn gam mawr ymlaen ac, yn bwysig iawn, bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd ar gynnydd gan gynnwys i’r Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin.

Dros y chwe blynedd diwethaf, cyflawnwyd llawer i godi ymwybyddiaeth o gam-drin, adeiladu’r
sylfaen dystiolaeth, newid polisi ac ymarfer, a sicrhau ymrwymiadau i weithredu. Mae hyn yn
darparu llwyfan cryf ar gyfer cynnydd pellach ac mae’r Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin yn
parhau fel grŵp ymroddedig a dylanwadol, gan weithio i sicrhau bod pobl hŷn sydd mewn perygl o gael eu cam-drin neu sydd yn cael eu cam-drin yn gallu cael gafael ar y cymorth a’r gwasanaethau y gallai fod eu hangen arnynt.

 

Galluogi pawb i heneiddio’n dda

“Gwrandewch ar gymunedau! Dydy anghenion pobl hŷn ddim yr un fath i gyd, maen nhw’n wahanol ac yn unigryw.”
Person hŷn yng nghynhadledd Cymru Oed-gyfeillgar Effaith

  • Dylanwadu ar ddatblygiad Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n Heneiddio Llywodraeth Cymru a sicrhau ei hymrwymiad i Gymru Oed-gyfeillgar.
  • Ysbrydoli gweithredu gan awdurdodau lleol a’u partneriaid i ymrwymo i fod yn gymunedau oed-gyfeillgar, gyda hanner yr holl awdurdodau lleol bellach yn aelodau o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar, neu yn y broses o wneud cais.
  • Dod yn Aelod Cyswllt o Rwydwaith Byd-eang Dinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), gan roi’r cyfle i ni rannu dysgu a gwybodaeth yn rhyngwladol, a rhoi cyngor a chymorth i awdurdodau lleol gyda’u ceisiadau i ymuno â’r Rhwydwaith Byd-eang.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu polisi ac ymarfer oed-gyfeillgar drwy sefydlu Grŵp
    Partneriaeth Cymru Oed-gyfeillgar a sefydlu’r Gymuned Ymarfer Oed-Gyfeillgar.
  • Cynyddu nifer hawlwyr newydd Credyd Pensiwn gan 26% yn ystod ymgyrch i annog pobl hŷn i hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo, a sicrhau addewidion gan aelodau Llywodraeth Cymru ac eraill i weithredu.
  • Tynnu sylw at effaith trafnidiaeth ar allu pobl hŷn i gael gafael ar wasanaethau iechyd, a dylanwadu ar Strategaeth Drafnidiaeth Llwybr Newydd Llywodraeth Cymru.
  • Casglu profiadau dros 900 o bobl hŷn am eu mynediad at feddygon teulu, gan fwrw
    ymlaen ag argymhellion ar gyfer gwelliannau fel y nodir yn yr adroddiad dilynol Mynediad i Bractisau Meddygon Teulu yng Nghymru.
  • Datblygu canllaw i bobl hŷn ar eu hawliau o ran cael mynediad i Bractisau Meddygon Teulu, y mae copïau ohonynt wedi mynd i bob Practis Meddygon Teulu yng Nghymru ac wedi’u dosbarthu’n eang i bobl hŷn.

Mae ‘ychwanegu bywyd at flynyddoedd, nid blynyddoedd at fywyd yn unig’ yn crynhoi ystyr
heneiddio’n dda. Mae’n golygu gallu mynd allan a gwneud y pethau sy’n bwysig i ni wrth i ni
heneiddio, ynghyd â chael ein gwerthfawrogi a chael cyfleoedd i gymryd rhan a chyfrannu yn ein cymunedau ac yn y gymdeithas yn ehangach.

Ond heb y seilwaith, y gwasanaethau a’r cymorth cywir wrth i ni fynd yn hŷn, efallai y byddwn yn canfod na allwn wneud y pethau hyn, a’n bod mewn perygl o gael ein heithrio, ein hynysu a’n
gadael ar ôl. Mae datblygu cymunedau ‘oed-gyfeillgar’ yn ffordd effeithiol o sicrhau ein bod yn
gallu heneiddio’n dda.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi nodi wyth ‘parth’ o gymunedau oed-gyfeillgar, sy’n cynnwys
cymorth cymunedol a gwasanaethau iechyd, ond hefyd pethau fel mannau awyr agored ac
adeiladau, trafnidiaeth, a pharch a chynhwysiant cymdeithasol. Yn fy strategaeth ar gyfer 2019
fe wnes i ymrwymo i gymryd camau i annog a chefnogi cymunedau oed-gyfeillgar i gael eu sefydlu ledled Cymru a dechreuais raglen waith i wneud i hyn ddigwydd.

Teithiais ledled Cymru i gwrdd ag awdurdodau lleol i siarad am y modd y gallent ddatblygu fel
cymunedau oed-gyfeillgar ac i gynnig fy nghefnogaeth i a’m tîm i wneud hynny. Roedd hyn yn
cynnwys eu cefnogi i wneud cais i fod yn aelodau o Rwydwaith Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar. Hyd yma, mae chwe awdurdod lleol, yn gweithio mewn partneriaeth â phobl hŷn a sefydliadau lleol, wedi ymuno â’r Rhwydwaith, gyda cheisiadau gan awdurdodau eraill yn nesáu at eu camau olaf.

I gefnogi’r gwaith o ddatblygu Cymru oed-gyfeillgar, deuthum yn Aelod Cyswllt o Rwydwaith
Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd, sefydlais Grŵp Partneriaeth Cymru Oed-gyfeillgar i annog
datblygu polisïau oed-gyfeillgar yng Nghymru, a Chymuned Ymarfer i alluogi rhannu arferion
effeithiol ym maes datblygu oed-gyfeillgar ac i ysbrydoli rhagor o weithredu.

Er mwyn sicrhau bod cefnogaeth i Gymru oed-gyfeillgar ar lefel genedlaethol, gweithiais gyda Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar ddatblygiad ei strategaeth ar gyfer cymdeithas sy’n
heneiddio. Cyhoeddwyd ‘Cymru Oed-gyfeillgar: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy’n
Heneiddio’ ym mis Hydref 2021 ac mae’n cynnwys ymrwymiadau i ddatblygu cymunedau oed-gyfeillgar, gan gynnwys cyllid i bob un o’r 22 awdurdod lleol i gefnogi eu gwaith i ddod yn oed-gyfeillgar.

Yn fy nghysylltiad â phobl hŷn dros y chwe blynedd diwethaf, mae dau fater wedi cael eu codi’n
gyson – trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig bysiau, a mynediad at feddygon teulu. Rwyf felly
wedi gwneud gwaith penodol ar y materion hyn, er enghraifft wrth gynnal ymchwil gyda phobl
hŷn ar drafnidiaeth i wasanaethau iechyd, i ddylanwadu ar gynnwys a ffocws Strategaeth
Drafnidiaeth Llwybr Newydd Llywodraeth Cymru. Roeddwn hefyd wedi gweithio gyda grwpiau
pobl hŷn, sefydliadau trafnidiaeth a darparwyr i ddatblygu canllawiau i wella profiadau pobl hŷn o deithio ar fysiau. Yn anffodus, cafodd y gwaith o gyflwyno’r canllawiau hyn ei atal gan y pandemig, ond y gobaith yw y bydd cyfle yn y dyfodol i fwrw ymlaen â’r rhain.

Roedd fy ngwaith ar fynediad at feddygon teulu wedi gweld dros 900 o bobl hŷn yn ymateb i
arolwg a oedd yn rhannu eu profiadau a’u safbwyntiau, gan ategu’r materion a’r trafodaethau
mewn cyfarfodydd â grwpiau pobl hŷn. Cafodd yr adroddiad ‘Mynediad i Bractisau Meddygon
Teulu yng Nghymru: Profiadau Pobl Hŷn’ ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2024 ac mae’n cynnwys argymhellion ar gyfer Practisau Meddygon Teulu, byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru
a chyrff a sefydliadau iechyd eraill. Fel y nodwyd yn fy adroddiad cynnydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, roedd y canfyddiadau i’w croesawu ac mae cynnydd yn cael ei wneud ar yr
argymhellion. Bydd y gwaith hwn yn parhau dros y misoedd nesaf, ynghyd â’r gwaith parhaus o ddosbarthu canllaw hawliau newydd i bobl hŷn ar feddygfeydd sydd eisoes wedi cyrraedd miloedd o bobl hŷn.

Mae’r argyfwng costau byw wedi cael effaith fawr ar bobl hŷn, ac mae’n achosi pryder a
chaledi i lawer, gyda chanlyniadau i’w hiechyd a’u lles a’u gallu i ymdopi, yn enwedig yn ystod
y gaeaf. Rydw i wedi arwain gwaith yng Nghymru i gynyddu’r nifer sy’n hawlio’r hawl ariannol,
Credyd Pensiwn, y mae pobl hŷn ar incwm isel yn gymwys i’w dderbyn. Roedd hyn yn cynnwys
ymgyrch benodol yn 2019 pryd y bu i mi gynnwys gwybodaeth am hawlio Credyd Pensiwn gyda
gwybodaeth a oedd yn cael ei phostio i bob deiliad cerdyn bws yng Nghymru (tua 500,000 o
unigolion). Arweiniodd hyn at gynnydd o 26% yn nifer yr rhai a hawliodd Gredyd Pensiwn o’r newydd, sy’n golygu bod mwy na £500,000 y flwyddyn ychwanegol yn cael ei dalu i bobl hŷn yng Nghymru.

Mae’r gwaith i gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn yn parhau drwy ddarparu
gwybodaeth i bobl hŷn, gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar y rôl hanfodol y gall awdurdodau lleol ei chwarae o ran cynyddu’r nifer sy’n hawlio, ac annog a chynghori
Llywodraeth Cymru ar y camau y dylai eu cymryd. Gydag oddeutu 80,000 o bobl hŷn yng
Nghymru nad ydynt yn cael y Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo, mae mwy i’w wneud,
sy’n cynnwys camau y mae angen i Lywodraeth San Steffan eu cymryd.

Gwelwyd cynnydd cadarnhaol iawn o ran datblygu cymunedau oed-gyfeillgar yng Nghymru fel
modd o alluogi pobl i heneiddio’n dda. Mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o annog a chefnogi hyn, gan gynnwys drwy ddarparu cyllid i awdurdodau lleol. Dros y misoedd nesaf, bydd mwy o awdurdodau lleol yn dod yn aelodau o’r Rhwydwaith Byd-eang o Ddinasoedd a Chymunedau Oed-Gyfeillgar, gan ddangos eu hymrwymiad i Gymru oed-gyfeillgar.

 

Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19

“Rhaid ymgysylltu a galluogi pobl hŷn i chwarae eu rhan mewn unrhyw adferiad llwyddiannus … rhaid diogelu hawliau pobl hŷn yn well, a lle mae’r hawliau hynny wedi gwanhau, rhaid eu hadfer. Mae llawer o bobl hŷn yn teimlo eu bod wedi cael eu heithrio, a rhaid peidio â gadael i hynny barhau.”

Tystiolaeth y Comisiynydd i Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 y DU

Ers 2022 mae Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 wedi bod ar waith a bydd yn parhau am gryn
amser. Roedd yn ofynnol i mi gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i ddau ‘fodiwl’ o’r Ymchwiliad – yn
ymwneud â gwneud penderfyniadau yng Nghymru (modiwl 2b) ac effaith pandemig Covid-19 ar
systemau gofal iechyd yn y DU (modiwl 3). Adeg ysgrifennu hwn, rwy’n gweithio ar dystiolaeth
ar gyfer modiwl 6 ar y sector gofal a byddaf yn parhau i ymateb i ofynion yr Ymchwiliad ar ôl i fy
nghyfnod yn y swydd ddod i ben.

Mae wedi bod yn gyfrifoldeb ac yn fraint cyflwyno’r dystiolaeth o’r gwaith a wnaed gennyf i a fy
nhîm yn ystod y pandemig, yr effeithiau ar bobl hŷn, a nodi’r gwersi a ddysgwyd a’r hyn sydd
angen newid. Yr wyf yn ymwybodol iawn, fodd bynnag, fod ymchwiliadau cyhoeddus yn cymryd
amser sylweddol i gasglu tystiolaeth, llunio adroddiadau a gwneud argymhellion. Dyna pam yr ydw i wedi gweithredu ar y materion a rannwyd â mi gan bobl hŷn, a’r dystiolaeth a gasglwyd
gennyf am yr hyn sydd angen newid.

Fel y nodwyd uchod, mae hyn wedi cynnwys camau gweithredu i ddiogelu hawliau pobl hŷn sy’n
byw mewn cartrefi gofal, gwella gwybodaeth a chyfathrebu am benderfyniadau DNACPR, mynd
i’r afael ag allgáu digidol a chodi ymwybyddiaeth o oedraniaeth a sut i fynd i’r afael ag ef.

Mae’r dystiolaeth a roddais ac y byddaf yn ei rhoi i’r Ymchwiliad ar gael ar wefan yr Ymchwiliad
yn: https://tinyurl.com/3eek7e34

 

Myfyrdodau terfynol

Wrth edrych yn ôl dros y chwe blynedd diwethaf, rwy’n hynod falch o’r cyfleoedd a ddaeth i’m
rhan i weithio gyda sefydliadau a phobl hŷn ledled Cymru benbaladr; gyda’n gilydd rydyn ni wedi
llwyddo i wneud cynnydd sylweddol hyd yn oed mewn cyfnod mor heriol.

Cefais y fraint o glywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn am yr effaith gadarnhaol mae’r gwaith hwn wedi’i gael ar eu bywydau, megis y cymorth uniongyrchol a ddarperir drwy fy ngwasanaethau cyngor a chymorth, y tawelwch meddwl i’r rheini sydd wedi dioddef camdriniaeth o wybod bod rhywun yn gwrando arnyn nhw ac yn ceisio gwneud newidiadau, ac wrth hysbysu pobl hŷn o’u hawliau a’u helpu i arfer yr hawliau hynny. Wrth gwrs, mae llawer iawn mwy i’w wneud ond mae seiliau cadarn yn eu lle i adeiladu arnyn nhw a hanes llwyddiannus o greu effaith.

Mae llwyddo i gyflawni’r effaith hon wedi cymryd sawl blwyddyn. Wrth i’m cyfnod fel trydydd
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ddirwyn i ben, hoffwn dalu teyrnged i fy rhagflaenwyr ac i’r holl bobl sydd wedi gweithio yn swyddfa’r Comisiynydd. Pan nes i ddechrau yn fy swydd, roeddwn i’n gallu manteisio ar lu o brofiadau, gwaith ymchwil a syniadau, a nawr mae’n bryd i fi drosglwyddo’r rheini i fy olynydd.

Drwy sicrhau bod gwaith y Comisiynydd yn parhau i ganolbwyntio ar arbenigedd a phrofiadau
pobl hŷn, rwy’n hyderus y bydd llawer mwy yn cael ei gyflawni yn y dyfodol gan wneud Cymru yn wlad lle mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, lle mae eu hawliau’n cael eu diogelu ac nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges