Angen Help?

Trafodaeth Bord Gron am Iechyd y Geg a Deintyddiaeth: Adroddiad Diweddaru

Older woman at dental clinic looking at camera. Her dentist is in the background.

Trafodaeth Bord Gron am Iechyd y Geg a Deintyddiaeth: Adroddiad Diweddaru

Cefndir

Yn ystod ei hymgysylltiad â phobl hŷn ledled Cymru yn ei blwyddyn gyntaf yn y swydd, clywodd y Comisiynydd gan bobl hŷn am y problemau y maent yn eu profi o ran cael mynediad at wasanaethau deintyddol. Cyhoeddodd y Comisiynydd ei strategaeth a’i rhaglen waith ar gyfer 2025-26 ym mis Mai 2025, sy’n cynnwys ymrwymiad i archwilio mynediad pobl hŷn at wasanaethau deintyddiaeth ac iechyd y geg yng Nghymru.

Ym mis Mehefin 2025, cyflwynodd swyddfa’r Comisiynydd ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddiwygio’r gwasanaethau deintyddol cyffredinol.

Ym mis Medi a Hydref 2025, cafodd swyddfa’r Comisiynydd gyfres o sgyrsiau addysgiadol â rhanddeiliaid amrywiol ym maes iechyd y geg a deintyddiaeth yng Nghymru. Yng ngoleuni’r trafodaethau hyn, trefnodd y Comisiynydd gyfarfod bord gron ar 12fed Tachwedd 2025, i ddwyn ynghyd y rhanddeiliaid o bolisi ac ymarfer iechyd y geg a deintyddiaeth, yn ogystal â rhanddeiliaid iechyd a gofal cymdeithasol cyffredinol, i drafod sut y gallai iechyd y geg a deintyddiaeth pobl hŷn gael budd o integreiddio gwell â’r modelau newydd yn y gymuned o atal, trin a gofalu.

 

Cyfarfod bord gron

Roedd y cyfarfod yn eang ac addysgiadol. Trafododd y cyfranogwyr yr hyn a ganlyn:

  • Data, gan gynnwys: pa ddata sydd ar gael ar hyn o bryd; y bylchau sylweddol yn ein dealltwriaeth o iechyd y geg ymysg pobl hŷn yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy’n byw’n annibynnol a allai fod yn agored i niwed ond nad ydynt yn defnyddio gofal deintyddol y GIG, er enghraifft, pobl sy’n byw â dementia; diffyg dealltwriaeth o raddfa wirioneddol yr angen heb ei fodloni am ddulliau atal a thriniaeth; yr angen i integreiddio data iechyd y geg yn well o fewn y systemau asesu a data iechyd a gofal cymdeithasol presennol, a’r angen i integreiddio’r systemau hynny eu hunain yn well i ddarparu darlun llawnach;

 

  • Modelau Gwasanaeth, Atal a Chymysgedd Sgiliau o fewn Iechyd y Geg, gan gynnwys: amrywiaethau yn y ddarpariaeth o wasanaethau atal a thrin ledled y byrddau iechyd, sy’n arwain at wahaniaethau mewn mynediad a chymorth; pwysigrwydd atal, hunanofal a chefnogaeth ar gyfer y rheini nad ydynt yn gallu edrych ar ôl hylendid eu cegau eu hunain; rôl addysgwyr iechyd y geg, therapyddion deintyddol, nyrsys deintyddol ac eraill mewn gofal sylfaenol, cymunedol a chymdeithasol; yr angen am ddulliau cyson ledled Cymru o ran gofal y geg ar gyfer pobl sy’n agored i niwed ac i wella iechyd y geg ymysg pobl hŷn; yr angen i ymwreiddio negeseuon hyrwyddo ac atal o ran iechyd y geg mewn modelau gofal sy’n seiliedig ar leoedd, gan symud y ffocws oddi wrth ymyrryd i atal a sicrhau bod iechyd y geg yn rhan o asesiadau holistaidd ar gyfer pobl hŷn;

 

  • Integreiddio Iechyd y Geg o fewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Ehangach: integreiddio iechyd y geg o fewn llwybrau eiddilwch, asesiadau gofal cymdeithasol, a gwasanaethau amlddisgyblaethol, gan nodi cyfleoedd a heriau a chael gwared ar rwystrau i ymwreiddio iechyd y geg o fewn iechyd a gofal cymdeithasol holistaidd i bobl hŷn; pwysigrwydd iechyd y geg o ran atal dadgyflyru mewn ysbytai ac yn y gymuned; gyrru gwelliannau mewn gofal y geg a safonau iechyd y geg drwy archwilio ac adborth; y posibilrwydd i iechyd y geg gael ei gynnwys yn fwy amlwg mewn asesiadau gofal, i gynyddu perchnogaeth o ofal y geg ac iechyd y geg o fewn timau gofal cymdeithasol; ac i ddatblygu offer cymorth arloesol ar gyfer timau gofal cartref a darparwyr gofal;

 

  • Y Porth Mynediad Deintyddol: ei ddyluniad ar gyfer cynhwysiant, gyda llwybrau amgen ar gyfer pobl hŷn a’r rheini sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol rhag cael mynediad at wasanaethau deintyddol, fel cymorth dros y ffôn a chymorth gan aelodau’r teulu neu bractisau deintyddol ar gyfer y rheini nad ydynt yn gallu defnyddio gwasanaethau digidol; pwysigrwydd dylunio’r porth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol gan sicrhau nad yw’r defnyddwyr presennol yn cael eu gadael ar ôl; yr angen i gysylltu’r porth â datblygiadau digidol a data eraill o fewn iechyd a gofal cymdeithasol, a’r angen i gymdeithasu cysyniadau digidol newydd i gynyddu ymwybyddiaeth a derbyniad dros amser;

 

  • Cyfathrebu, Anfon Negeseuon, ac Ymgysylltiad Cymunedol: pwysigrwydd ail-fframio negeseuon iechyd y geg mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan symud o iaith sy’n seiliedig ar ddiffyg i ganolbwyntio ar sut y mae iechyd y geg yn cyfrannu at lesiant, urddas ac ansawdd bywyd; yr angen i roi gwerth uwch i ofal y geg fel elfen hanfodol o hunanofal a’r gofal a ddarperir gan ofalwyr di-dâl, yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar ymyrraeth glinigol i wella iechyd y geg; gwneud y defnydd gorau o’r Trydydd Sector a grwpiau cymunedol i gyrraedd pobl hŷn nad ydynt mewn cysylltiad â rhaglenni gofal y geg a gwasanaethau deintyddol presennol, drwy ymgysylltiad wyneb yn wyneb; sicrhau bod gwybodaeth a chymorth yn cyrraedd pobl hŷn sy’n byw’n annibynnol ac mewn cartrefi gofal drwy sianelau priodol, a sicrhau bod gan ofalwyr di-dâl a gweithwyr gofal y wybodaeth, y capasiti a’r gallu sydd eu hangen arnynt i ddarparu gofal y geg effeithiol;

 

  • Polisi, Trawsnewid, a Chyfleoedd Strategol: alinio iechyd y geg â rhaglenni trawsnewid gofal sylfaenol a chymunedol; yr angen am integreiddio strategol a phwysigrwydd dylanwadu ar bolisi a dyrannu adnoddau i gefnogi newid systemig.

 

Y camau nesaf

Cytunodd y cyfranogwyr i rannu gwybodaeth a chyfleoedd pellach i barhau i adeiladu rhwydweithiau ac ehangu’r deialog yn y dyfodol.

Datganodd y Comisiynydd yr hoffai ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dilyn y cyfarfod, ac y byddai’n cyhoeddi adroddiad cynnydd yn crynhoi’r drafodaeth.

Bydd y Comisiynydd yn tynnu ar y drafodaeth i hysbysu ei rhaglen waith yn y dyfodol.

Mae’r Comisiynydd yn gwerthfawrogi cyfranogiad parhaus rhanddeiliaid allweddol a’r safbwynt y maent hwy ac eraill na allodd fynychu’r cyfarfod yn ei gyflwyno i’r drafodaeth bwysig hon ac mae’n gobeithio y bydd yn parhau.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges