Angen Help?

Sylw ar… Brofiadau LHDTC+: Mynd yn hŷn, bod yn LGBTQ+ ac yn gyn-filwr – Profiadau cyn-filwyr LGBTQ+ yng Nghymru

i mewn Adnoddau, Ddylanwadu ar polisi ac arferion

Mynd yn hŷn, bod yn LGBTQ+ ac yn gyn-filwr: Profiadau cyn-filwyr LGBTQ+ yng Nghymru

Chris Adams, Gweithiwr Cymunedol Profiadol (VCW), Cymru a Gogledd Iwerddon, Fighting With Pride

I lawer o bobl, daw mynd yn hŷn â heriau all effeithio ar annibyniaeth, lles ac ansawdd bywyd. I gyn-filwyr LGBTQ+ hŷn, gall haen ychwanegol o gymhlethdod effeithio ar y profiadau hyn: effaith barhaol gwasanaeth milwrol, ynghyd ag oes o frwydro yn erbyn gwahaniaethu, stigma ac, i rai, bod angen cuddio pwy ydynt.

Fel Gweithiwr Cymunedol Cyn-filwyr gyda Fighting With Pride yng Nghymru, dw i’n cefnogi cyn-filwyr LGBTQ+, personél milwrol presennol a milwyr wrth gefn. Drwy’r gwaith hwn, dw i wedi dod i ddeall mwy am rai o’r heriau a wynebir gan gyn-filwyr LGBTQ+ hŷn a pha mor bwysig yw sicrhau bod gwasanaethau’n deall eu profiadau.

Nid rhan o’r gorffennol yn unig yw’r problemau hyn. Maen nhw’n gallu effeithio ar ddiogelwch ariannol, corfforol a lles emosiynol pobl, eu cysylltiadau cymdeithasol a’u hyder i dderbyn cymorth.

Y Gwaharddiad Hoyw: hanes sy’n dal i effeithio ar gyn-filwyr heddiw

Er mwyn deall profiadau llawer o gyn-filwyr LGBTQ+ hŷn, mae angen i ni gydnabod “Gwaharddiad Hoyw” hanesyddol Lluoedd Arfog y DU, oedd dal yn ei le tan Ionawr 2000.

Er bod Deddf Troseddau Rhywiol 1967 wedi dad-droseddoli rhai gweithredoedd cytûn yr un rhyw rhwng dynion yn breifat yng Nghymru a Lloegr, nid oedd y newid yn ymestyn i’r Lluoedd Arfog.  Gallai personél LGBTQ+ neu y credwyd eu bod yn LGBTQ+ gael eu hymchwilio, diswyddo neu orfodi i adael oherwydd eu hunaniaeth. Cafodd rai eu cwestiynu’n ymwthiol, bwlio, harasio a’u disgyblu a theimlai eraill na allent barhau i wasanaethu dan bwysau o orfod cuddio pwy oeddent.

Gallai’r canlyniadau effeithio ar lawer mwy na’u gyrfaoedd milwrol. Gallai cael eu gorfodi allan o waith effeithio ar ddiogelwch ariannol, perthnasoedd, tai ac ymdeimlad o hunaniaeth a pherthyn. Gallai profiadau o ymchwilio, cywilyddio a chael eu gwrthod hefyd adael creithiau emosiynol parhaol. Ers hynny mae’r Llywodraeth wedi cydnabod anghyfiawnder y gwaharddiad ac wedi ymddiheuro i’r rhai a effeithiwyd.

Roedd codi’r gwaharddiad yn newid pwysig ond ni wnaeth ddadwneud y niwed yn awtomatig. I rai cyn-filwyr, mae’r effaith yn rhan o’u bywydau hyd heddiw. Mae’n ddealladwy y gallai rhywun a dreuliodd flynyddoedd yn cuddio eu rhywioldeb i warchod eu gyrfa neu ddiogelwch personol ei chael yn anodd ymddiried mewn gwasanaethau neu ddatgelu gwybodaeth bersonol.

Effaith barhaol gwasanaeth milwrol

Gall gwasanaeth milwrol gael effaith gydol oes ar iechyd corfforol ac emosiynol. Mae rhai cyn-filwyr yn cael anafiadau, cyflyrau iechyd hirdymor neu drawma o ganlyniad i wasanaethu. Wrth fynd yn hŷn, gall y trafferthion hyn fynd yn fwy cymhleth i’w rheoli.

I gyn-filwyr LGBTQ+, gall gwahaniaethu hanesyddol waethygu’r profiadau hyn. Gall gofyn am gymorth atgyfodi atgofion o amser pan oedd canlyniadau difrifol i fod yn agored am eu hunaniaeth.

Gall hyfforddiant milwrol hefyd roi pwyslais cryf ar hunanddibyniaeth, gwydnwch a dal ati doed a ddelo. Er y gall y pethau hyn fod yn werthfawr, maen nhw’n gallu ei gwneud yn anodd i rai cyn-filwyr adnabod pan fydd angen help arnynt neu deimlo’n gyffyrddus i ofyn am help. Gall embaras, poeni am gael eu hystyried yn wan ac ansicrwydd am ble neu at bwy i droi i gyd fod yn rhwystrau.

Mae angen i wasanaethau gydnabod yr heriau hyn a chynnig llwybrau croesawus a hygyrch at gymorth heb farnu.

Pwysau ariannol ac iechyd corfforol

Mae ansicrwydd ariannol yn effeithio ar lawer o bobl hŷn ac nid yw cyn-filwyr yn imiwn i’r pwysau hyn. Gall costau byw, cost llety a goblygiadau ariannol cyflyrau iechyd tymor hir i gyd effeithio ar fyw bywyd gyda sicrwydd wrth fynd yn hŷn.

I gyn-filwyr LGBTQ+ a brofodd wahaniaethu pan oeddent yn gwasanaethu neu ar ôl gadael gwasanaeth milwrol, gallai amgylchiadau ychwanegol fod wedi effeithio ar eu diogelwch ariannol. Gall cael eu gorfodi i adael gyrfa arwain at ganlyniadau sy’n para am ddegawdau.

Mae iechyd corfforol yn ystyriaeth bwysig arall. Mae rhai cyn-filwyr yn byw ag anafiadau neu gyflyrau’n gysylltiedig â gwasanaeth milwrol sy’n effeithio ar symudedd, annibyniaeth a gallu gwneud gweithgareddau pob dydd. Wrth iddynt heneiddio, gall lle addas i fyw, trafnidiaeth hygyrch a gofal iechyd a chymdeithasol priodol ddod yn fwyfwy pwysig.

Rhaid i gymorth gydnabod y person cyfan yn lle trin oed, statws cyn-filwrol, rhywioldeb neu hunaniaeth ryweddol rhywun fel agweddau ar wahân a heb gysylltiad i’w bywyd.

Yr her o berthyn

Gall cyn-filwyr LGBTQ+ hŷn ganfod eu hunain yn delio gyda rhagfarn o fwy nag un cyfeiriad. Bydd gan rai pobl agweddau gwahaniaethol tuag at bobl LGBTQ+ a bydd gan eraill argraffiadau negyddol o rai a wasanaethodd yn y Lluoedd Arfog. Gall unigolion felly deimlo nad ydynt yn perthyn i’r naill gymuned na’r llall.

I rai a dyfodd i fyny pan oedd stigma sylweddol ynghlwm a bod yn LGBTQ+, gallai ‘dod allan’ fod wedi golygu dewrder ac aberth personol mawr iawn. Gallai creu bywyd lle y gallent fod yn agored am eu hunaniaeth fod wedi cymryd blynyddoedd.

Mae’n bryderus felly os yw pobl LGBTQ+ hŷn yn teimlo bod angen cuddio pwy ydynt eto i deimlo’n ddiogel neu i gael eu derbyn.

Cartrefi ymddeol: mynd yn ôl i’r cwpwrdd

Un mater a gododd gyn-filwyr gyda fi yw poeni am ddod o hyd i lety ymddeol addas ac a fydd pobl eraill yn eu derbyn am bwy ydynt.

Gall symud i gartref preswyl neu gartref ymddeol fod yn adeg o newid mawr. Gall pobl fod yn gadael cartref cyfarwydd, yn dod yn fwy dibynnol ar eraill ac yn ymuno â chymuned glòs lle nad oes ganddynt gymaint o reolaeth dros eu hamgylchoedd.

I gyn-filwyr LGBTQ+, gall y pryderon hyn fod yn waeth drwy ofni dod ar draws agweddau rhagfarnllyd gan breswylwyr eraill neu’r bobl sy’n darparu gofal a chymorth iddynt.

Disgrifiodd rai pobl hŷn fod meddwl am hyn yn teimlo fel “mynd yn ôl i mewn i’r cwpwrdd”. Ar ôl treulio blynyddoedd yn creu bywyd lle y gallent fod yn agored am bwy ydynt, maen nhw’n ofni gorfod ei guddio unwaith eto. Brawddeg arall a arhosodd gyda fi yw “pen draw’r enfys”. Mae’n cyfleu tristwch y teimlad y gallai mynd yn hŷn, ar ôl goresgyn gymaint i fyw’n ddidwyll, olygu dychwelyd at aros yn y dirgel a bod yn ynysig.

Ni ddylid diystyru’r pryderon hyn. I bobl a brofodd wahaniaethu, gall y posibilrwydd o orfod ei wynebu eto fod yn deimlad annifyr iawn. Hyd yn oed heb unrhyw beth penodol yn digwydd, gall ofni gelyniaeth ddylanwadu ar benderfynu ble i fyw, beth i’w ddatgelu a gofyn am gymorth neu beidio.

Dylai cartrefi preswyl ac ymddeol fod yn llefydd y mae pobl yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu parchu a gallu bod yn agored am bwy ydynt. Ni ddylai neb orfod dewis rhwng derbyn y gofal sydd ei angen arnynt a bod yn agored am bwy ydynt.

Beth sydd angen newid?

Mae angen i sefydliadau sy’n cefnogi pobl hŷn gydnabod profiadau cyn-filwyr LGBTQ+ a sicrhau bod eu gwasanaethau’n gynhwysol ar lefel ymarferol, nid yn unig o ran polisi.

Mae hyn yn golygu:

  • Creu gwasanaethau diogel a chroesawus: Dylai staff ddeall effeithiau gwahaniaethu hanesyddol a pham fod rhywun efallai’n gyndyn o ddatgelu eu hunaniaeth neu ofyn am gymorth.
  • Gwella mynediad at gymorth: Gall cyngor clir a hygyrch am wasanaethau cymorth ariannol, tai, iechyd a lles helpu pobl i ddeall pa opsiynau sydd ganddynt a theimlo’n fwy hyderus i ofyn am help.
  • Cefnogi cartrefi gofal cynhwysol: Dylai darparwyr herio ymddygiad sy’n gwahaniaethu a chreu amgylchedd lle y gall preswylwyr fod yn nhw eu hunain heb ofni cael eu harasio neu ynysu.
  • Cydnabod profiadau unigol: Nid grŵp unffurf o bobl yw cyn-filwyr LGBTQ+. Gallai fod ganddynt anghenion gwahanol o ran rhywioldeb, hunaniaeth ryweddol, anabledd, tarddiad ethnig, hanes o wasanaethu, lleoliad ac amgylchiadau personol.

Mae gweithio mewn partneriaeth hefyd yn bwysig. Mae pob sefydliad sy’n cefnogi pobl hŷn, cyn-filwyr a chymunedau LGBTQ+ i gyd yn cyfrannu profiad a gwybodaeth werthfawr. Drwy gydweithio, gellir gwella ymwybyddiaeth, cryfhau llwybrau atgyfeirio a helpu i sicrhau nad oes raid i bobl orfod deall systemau cymhleth ar ben eu hunain.

Byw’n hŷn gydag urddas

Mae cyn-filwyr LGBTQ+ hŷn wedi cyfrannu i’w cymunedau a’u gwlad, yn aml iawn wrth wynebu amgylchiadau nad yw llawer o bobl yn eu deall na’u cydnabod. Mae eu profiadau’n haeddu cael eu cydnabod a dylid ystyried eu hanghenion wrth ddylunio a darparu gwasanaethau.

Drwy fy ngwaith gyda Fighting with Pride, rwyf eisiau helpu i sicrhau bod cyn-filwyr LGBTQ+ yng Nghymru’n gwybod bod cymorth ar gael ac nad oes raid iddynt wynebu’r heriau hyn ar ben eu hunain. Gallwn hefyd helpu cyn-filwyr i ddeall y cymorth sydd ar gael i gydnabod anghyfiawnder hanesyddol y gwaharddiad.

Ni ddylai mynd yn hŷn olygu gorfod troi’n ôl at fyw cyfrinach. Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel a chael eu parchu a’u gwerthfawrogi wrth fynd yn hŷn.

Yr her i sefydliadau a gwasanaethau yw gwrando ar gyn-filwyr LGBTQ+ hŷn, deall y profiadau sydd ganddynt a chreu cymunedau a gwasanaethau lle y medrant fyw’n agored a gydag urddas.

Dysgwch fwy am waith Fighting With Pride

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges