Y Comisiynydd yn rhybuddio bod pobl hŷn mewn perygl sylweddol o ddioddef oedraniaeth ddigidol ac allgáu cymdeithasol
Mewn adroddiad newydd a gyhoeddir heddiw (29 Hydref), mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn tynnu sylw at y problemau a’r rhwystrau sylweddol sy’n wynebu pobl hŷn oherwydd y broblem gynyddol o ‘oedraniaeth ddigidol’, ac mae’n galw am weithredu i atal pobl hŷn rhag cael eu heithrio mewn byd sy’n mynd yn fwyfwy digidol.
Mae oedraniaeth ddigidol yn cyfeirio at ragfarn, anfantais neu stereoteipio sydd wedi’i gyfeirio at bobl ar sail oedran mewn cyd-destunau digidol, sy’n effeithio ar unigolion, yn ogystal ag effeithio ar wasanaethau a systemau ehangach. Mae oedraniaeth ddigidol yn mynd law yn llaw ag anghydraddoldebau eraill hefyd, sy’n golygu bod rhai pobl hŷn – fel pobl hŷn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, neu’r rheini sy’n byw gydag anabledd – yn wynebu mwy o anfanteision.
Mae’r adroddiad yn canfod bod oedraniaeth ddigidol yn creu rhwystrau i bobl hŷn ar draws ystod o feysydd – rhag cael mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, i gyfleoedd dysgu gydol oes, i gyfranogi’n gymdeithasol a gweithgareddau hamdden – yn aml o ganlyniad i lwyfannau a systemau sydd wedi’u dylunio’n wael, sy’n tybio bod gan bobl lythrennedd digidol, ac sydd wedi’u dylunio gyda defnyddwyr iau mewn golwg.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw hefyd at y ffaith bod gweithwyr hŷn yn wynebu rhwystrau systemig sy’n ymwneud â chyflogaeth, gyda systemau hysbysebu a recriwtio yn ailadrodd rhagfarnau ar sail oedran, gweithwyr hŷn yn aml heb fynediad at hyfforddiant digidol, a diwylliant yn y gweithle sy’n aml yn stereoteipio pobl hŷn fel rhai sy’n amharod i newid. Mae’r ffactorau hyn yn cyfrannu at allgáu a gwthio pobl i ymadael â’r gweithlu’n gynt nag roeddent wedi’i fwriadu.
Maes allweddol arall sy’n cael sylw yn yr adroddiad yw effaith twf cyflym Deallusrwydd Artiffisial mewn sawl maes yn ein bywydau o ddydd i ddydd a’r ffyrdd y mae algorithmau yn aml yn gwreiddio rhagfarn yn erbyn pobl hŷn.
Er enghraifft, mae’r adroddiad yn tynnu sylw at sut mae’r defnydd cynyddol o offer algorithmig o fewn systemau gwyliadwriaeth a monitro mewn lleoliadau gofal (fel synwyryddion symud) yn gallu cyfyngu ar hawliau pobl i breifatrwydd, urddas a gwneud eu penderfyniadau eu hunain ac yn gallu gwneud i oedolion hŷn, yn enwedig y rheini sy’n byw â dementia, fod yn wrthrychau goddefol y mae angen eu rheoli yn hytrach nag fel unigolion sydd â hawliau ac annibyniaeth.
Yn yr un modd, gall defnyddio offer deallusrwydd artiffisial wrth recriwtio a chyflogi atgyfnerthu rhagfarnau sy’n gysylltiedig ag oedran, gan gyfyngu ar gyfleoedd a chreu rhwystrau i weithwyr hŷn.
Mae’r adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â nodi’r camau y dylai’r sector technoleg a dylunwyr gwasanaethau digidol eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd.
Mae’r rhain yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth â phobl hŷn i gyd-lunio systemau a gwasanaethau, creu gofyniad y dylai’r holl gynnyrch a gwasanaethau digidol sy’n cael eu comisiynu’n gyhoeddus gyrraedd safonau hygyrchedd a defnyddioldeb sy’n gynhwysol o ran oedran, a sicrhau bod polisïau digidol yn rhoi cyfrif am amrywiaeth profiadau pobl hŷn ac yn cydnabod hynny.
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae gwasanaethau a systemau digidol yn chwarae rhan gynyddol yn ein bywydau o ddydd i ddydd, ond mae’r newid cyflym tuag at ‘ddigidol yn gyntaf’ yn golygu bod llawer o bobl hŷn yn cael eu gadael ar ôl.
“Fel y nodir yn yr adroddiad rwy’n ei gyhoeddi heddiw, mae pobl hŷn yn wynebu amrywiaeth o rwystrau o ran cael mynediad at lwyfannau ar-lein a’u defnyddio, sy’n cynyddu’r risg y bydd pobl yn cael eu hallgáu’n ddigidol yn gyntaf, yna’n gymdeithasol.
“Ochr yn ochr â hyn, mae rhagfarnau sy’n gysylltiedig ag oedran sy’n aml wedi’u gwreiddio mewn deallusrwydd artiffisial ac algorithmau yn arwain at ganlyniadau gwahaniaethol, fel llai o gywirdeb mewn prosesau diagnosis gofal iechyd neu arferion cyflogaeth sy’n eithrio pobl hŷn.
“Rhaid mynd i’r afael â’r materion hyn yn gyflym, gan Lywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â’r cwmnïau sy’n dylunio ac yn datblygu’r llwyfannau a’r systemau sy’n gweithredu’r rhain.
“Dyna pam fy mod yn galw am weithredu i sicrhau bod y rhain yn cael eu cyd-lunio drwy weithio mewn partneriaeth â phobl hŷn, i sicrhau eu bod yn adlewyrchu anghenion pobl ac amrywiaeth pobl a’u profiadau.
“Mae cyfle gwirioneddol hefyd i Gymru arwain y ffordd drwy greu gofyniad i’r holl gynnyrch a gwasanaethau digidol sy’n cael eu comisiynu’n gyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd a defnyddioldeb sy’n gynhwysol o ran oedran, y dylid eu llunio ar y cyd â phobl hŷn hefyd.
“Mae mynd i’r afael ag oedraniaeth ddigidol yn hanfodol er mwyn sicrhau tegwch, hawliau a chynhwysiant i bobl hŷn wrth i gymdeithas fynd yn fwyfwy digidol, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda phartneriaid allweddol yma yng Nghymru ac yn ehangach er mwyn sicrhau’r newid sydd ei angen.”
DIWEDD
Darllenwch Archwilio Oedraniaeth Ddigidol (Crynodeb Gweithredol) (HTML) Darllenwch Archwilio Oedraniaeth Ddigidol (HTML)