Angen Help?
Image of tree on a beautiful autumn day in Wales

Heneiddio yng Nghymru: Cipolwg ar Brofiadau Pobl Hŷn

i mewn Adnoddau, Ddylanwadu ar polisi ac arferion

Y Comisiynydd yn rhybuddio bod anghydraddoldebau sylweddol sy’n atal pobl yng Nghymru rhag byw a heneiddio’n dda

Mae anghydraddoldebau sylweddol yn effeithio ar iechyd, llesiant ac annibyniaeth llawer o bobl hŷn ledled Cymru, gan greu rhwystrau yn eu bywydau bob dydd a chyfyngu ar gyfleoedd i fyw a heneiddio’n dda.

Dyna ganfyddiad allweddol adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw (30 Medi) gan Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, sy’n nodi blwyddyn ers iddi ymgymryd â’r rôl.

Mae’r adroddiad – Heneiddio yng Nghymru: Cipolwg ar Brofiadau Pobl Hŷn  – yn edrych ar y data a’r ymchwil sydd ar gael, gan olrhain tueddiadau dros amser lle bo hynny’n bosibl, er mwyn rhoi cipolwg ar brofiadau pobl o fynd yn hŷn ar draws meysydd allweddol o’u bywydau.

Yn ôl yr adroddiad, er bod mynd yn hŷn yn gyfnod o foddhad i lawer o bobl hŷn ac yn eu grymuso, mae eraill yn wynebu amrywiaeth o broblemau a heriau sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o gael eu gadael ar ôl neu eu heithrio.

Adlewyrchir hyn gan nifer o ganfyddiadau yn yr adroddiad, gan gynnwys:

  • Mae dwy ran o dair o bobl hŷn yn cael trafferth cael apwyntiad gyda meddyg teulu
  • Mae lefelau uwch o anfodlonrwydd â gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU
  • Nid oes gan tua thraean o bobl 75 oed a hŷn fynediad i’r rhyngrwyd
  • Mae tua thraean o bobl hŷn yn teimlo’n anniogel wrth gerdded neu deithio yn eu hardal leol, neu wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
  • Mae pobl hŷn mewn mwy o berygl o brofi rhyw fath o gam-drin na phobl o grwpiau oedran eraill
  • Mae pobl hŷn yn wynebu gwahaniaethu sylweddol yn ymwneud â chyflogaeth
  • Nid yw cyfraniad hanfodol pobl hŷn fel gweithwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gofal – sy’n werth biliynau o bunnoedd y flwyddyn i economi Cymru – yn cael ei gydnabod yn aml

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ddata sy’n dangos sut mae’r mathau hyn o faterion yn effeithio ar iechyd a llesiant pobl.

Mae hyn yn cynnwys data sy’n dangos y gall pobl sy’n byw yn ardaloedd tlotaf Cymru ddisgwyl byw mewn iechyd gwael am bron i ddegawd yn hwy na’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd mwy cyfoethog.

Yn yr un modd, mae’r adroddiad yn dangos bod y mathau hyn o broblemau hefyd yn effeithio ar iechyd meddwl ac emosiynol pobl hŷn, gyda bron i draean yn dweud bod hyn yn rhywbeth maen nhw wedi cael trafferth ag ef yn ystod y 12 mis diwethaf.

Bydd y Comisiynydd yn rhannu’r adroddiad â Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus allweddol eraill, gan dynnu sylw at y camau y mae angen eu cymryd i ymateb i’r materion a nodwyd, a bydd yn defnyddio’r dystiolaeth bwysig a gasglwyd i gefnogi ei galwadau am newid a gwelliannau.

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

Mae heddiw yn flwyddyn ers i mi ddechrau yn fy swydd fel Comisiynydd, sy’n gyfle da i edrych ar brofiadau pobl o fynd yn hŷn yng Nghymru, y materion a’r heriau sy’n effeithio ar fywydau pobl hŷn a’r camau y mae angen eu cymryd i fynd i’r afael â’r rhain.

Dyna pam fy mod yn cyhoeddi’r adroddiad hwn heddiw, sy’n casglu ynghyd amrywiaeth eang o ddata ac ymchwil arall i roi cipolwg ar brofiadau pobl hŷn mewn meysydd allweddol o’u bywydau.

Mae’n gadarnhaol bod y data yn yr adroddiad yn dangos bod llawer o bobl hŷn yn teimlo’n fodlon, eu bod yn cael eu grymuso a’u bod yn gallu gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw.

Fodd bynnag, mae pobl hŷn eraill yn wynebu anghydraddoldebau sylweddol, sy’n arwain at broblemau a heriau sy’n eu rhwystro rhag byw a heneiddio’n dda. Gall hyn effeithio ar sawl agwedd ar fywydau pobl, gan gynnwys mynediad at wasanaethau a chymorth, teimladau o ddiogelwch a chael eich trin yn deg gan gymdeithas.

“Fel y nodwyd yn yr adroddiad, mae’r materion hyn yn tanseilio iechyd, llesiant ac annibyniaeth pobl, sydd i gyd yn chwarae rhan allweddol yn ansawdd ein bywyd wrth i ni heneiddio.

“Byddaf yn rhannu fy nghanfyddiadau â Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus allweddol, gan nodi’r camau y mae’n rhaid eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion rwyf wedi’u nodi, ac yn galw am y newid a’r gwelliannau y mae pobl hŷn eisiau ac angen eu gweld.”

DIWEDD

Darllenwch Heneiddio yng Nghymru: Cipolwg ar Brofiadau Pobl Hŷn (PDF) Darllenwch Heneiddio yng Nghymru: Cipolwg ar Brofiadau Pobl Hŷn (HTML)

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges