Angen Help?

Gwella’r ffordd rydym yn ymateb i Brofiadau Pobl Hŷn o Gam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol

i mewn Adnoddau, Briffio

Gwella’r ffordd rydym yn ymateb i Brofiadau Pobl Hŷn o Gam-drin Rhywiol a Thrais Rhywiol

Crynodeb o ddigwyddiad bwrdd crwn Medi 2025

Ym mis Medi 2025 cynhaliodd y Comisiynydd ddigwyddiad trafod i ystyried y camau y mae angen eu cymryd i wella’r ffordd rydym yn ymateb i brofiadau pobl hŷn o gam-drin a thrais rhywiol.

Roedd cynrychiolwyr o gyrff cyhoeddus a mudiadau trydydd sector o bob cwr o Gymru yn bresennol yn y digwyddiad trafod; a phob un ohonynt â phrofiad uniongyrchol o weithio gyda phobl hŷn a oedd wedi dioddef yn sgil cam-drin neu drais rhywiol. Roedd hyn yn hanfodol i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn dal yn rhan ganolog o’r drafodaeth, a bod unrhyw benderfyniadau i weithredu wedi’u seilio’n gadarn ar eu profiadau uniongyrchol. Rhannodd cydweithwyr a fu yn y digwyddiad trafod nifer o enghreifftiau o brofiadau pobl hŷn o ddefnyddio a chael gafael ar wasanaethau. Roedd y ddealltwriaeth a ddaeth yn sgil y trafodaethau hyn yn hanfodol er mwyn pennu’r ‘elfennau gweithredu’ a amlygwyd yn y papur hwn.

Mae’r papur briffio hwn wedi’i rannu’n dair adran. Mae’r adran gyntaf yn canolbwyntio ar ganfyddiadau cyfranogwyr o heriau ymateb yn effeithiol i brofiadau pobl hŷn o gam-drin neu drais rhywiol. Mae’r ail adran yn tynnu sylw at yr hyn y mae angen ei newid o safbwynt cyfranogwyr, elfennau gweithredu, a’r ffactorau sy’n ysgogi newid. Mae’r adran olaf yn amlinellu’r ymrwymiadau a wnaed gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn dilyn y digwyddiad trafod.

Darllenwch yr adroddiad cryno (PDF) Darllenwch yr adroddiad cryno (HTML)

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges