Angen Help?
Older couple sat on a rock with a lake in the background looking at a map and smiling

Cynllunio Gofal y Dyfodol

i mewn Adnoddau, Taflen Wybodaeth

Comisiynydd Pobl Hŷn: Ewch ati i gynllunio ar gyfer y dyfodol heddiw

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn annog pobl i fynd ati i gynllunio ar gyfer eu dyfodol, fel bod eu dymuniadau’n cael eu parchu os oes angen gofal a chymorth arnynt, neu os nad ydyn nhw’n gallu gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain.

Daw’r neges bwysig hon wrth i’r Comisiynydd lansio canllaw newydd – Cynllunio Gofal y Dyfodol: Cynllunio ar gyfer eich dyfodol heddiw – sy’n darparu ystod eang o wybodaeth ddefnyddiol am sut gallwn ni fynd ati i ystyried, trafod a chofnodi ein dymuniadau ar gyfer y dyfodol.

Mae’r canllaw yn ymdrin â phynciau y mae llawer o bobl yn weddol gyfarwydd â nhw’n barod siŵr o fod, fel gwneud ewyllys neu roi organau, yn ogystal â threfniadau llai cyfarwydd, fel sefydlu Atwrneiaeth Arhosol neu Ddatganiad Ymlaen Llaw – sy’n ein galluogi i gofnodi ein dymuniadau o ran gofal, triniaeth a materion ariannol.

Mae’r canllaw hefyd yn cynnwys adnoddau a thempledi sy’n gallu helpu pobl i gynllunio gofal ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â manylion cyswllt sefydliadau sy’n gallu darparu gwybodaeth a chymorth defnyddiol.

Cafodd y canllaw ei ddatblygu gan y Comisiynydd mewn ymateb i’w sgyrsiau â llawer o bobl hŷn, a ddywedodd wrthi – er eu bod yn awyddus i archwilio’r camau y gallent eu cymryd i sicrhau bod eu dymuniadau’n cael eu parchu yn y dyfodol – eu bod yn cael trafferth dod o hyd i wybodaeth glir am yr opsiynau sydd ar gael.

Mae’r canllaw ar gael ar-lein ar wefan y Comisiynydd, ac mae copïau papur hefyd yn cael eu dosbarthu i sefydliadau a grwpiau cymunedol ar hyd a lled Cymru.

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rydyn ni’n aml yn ei chael hi’n anodd ystyried sut gallai ein hanghenion neu ein hamgylchiadau newid wrth i ni heneiddio, a beth fydden ni eisiau ei weld yn digwydd pe baen nhw’n newid.

“Ond mae’n bwysig iawn ein bod yn ystyried, yn trafod, ac yn cofnodi ein dymuniadau – er mwyn helpu i sicrhau bod unrhyw ofal neu driniaeth yn adlewyrchu ein hanghenion a’n dymuniadau, neu fod ein materion ariannol yn cael eu rheoli’n briodol.

“Gallai hyn gynnwys pethau fel sut ofal rydyn ni’n dymuno ei gael, triniaethau y byddem am eu gwrthod, dewisiadau sy’n seiliedig ar gredoau personol neu grefyddol, a’r unigolion yr hoffem eu henwebu i siarad ar ein rhan os nad fyddwn ni’n gallu gwneud penderfyniadau drosom ein hunain mwyach.

“Mae llawer o bobl hŷn rydw i wedi siarad â nhw ym mhob cwr o Gymru wedi dweud eu bod yn awyddus i wneud y mathau hyn o drefniadau, ond eu bod nhw wedi cael trafferth dod o hyd i wybodaeth ac adnoddau clir i’w tywys drwy’r prosesau hyn.

“Dyna pam rydw i’n lansio fy nghanllaw newydd heddiw, i helpu pobl i gael gwell dealltwriaeth o beth mae hyn yn ei olygu, pa gamau y gallai fod angen iddyn nhw eu cymryd, a pha gyngor y gallai fod ei angen arnyn nhw i roi trefniadau priodol ar waith.

“Rwy’n gobeithio, gyda chymorth fy nghanllaw, y bydd pobl ym mhob cwr o Gymru yn cael eu grymuso i gynllunio ar gyfer eu dyfodol heddiw.”

Canllawiau Cynllunio Gofal y Dyfodol (PDF) Canllawiau Cynllunio Gofal y Dyfodol (HTML)

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges