Angen Help?
A book with the Commissioner's logo and the words Easy Read in English and Welsh on the front

Cwynion i Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru – Fersiwn Hawdd i’w Ddeall

i mewn Adnoddau, Hawdd i Ddeall

Os nad ydych yn fodlon:

  • ar ein gwasanaethar
  • ymchwiliad ar fater rydych chi wedi’i godi
  • ar benderfyniad i beidio ag ymchwilio i fater rydych chi wedi’i godi
  • ar ganlyniad ymchwiliad

gallwch ddefnyddio’r weithdrefn gwyno hon. Gallwch ei defnyddio hefyd i wneud cwyn am bethau eraill. Er enghraifft, efallai y byddwch yn dymuno cwyno am oedi amhriodol cyn inni ymateb i ohebiaeth; neu am eich bod yn teimlo bod aelod o’r staff wedi bod yn anghwrtais neu wedi methu â helpu; neu nad ydyn ni wedi gwneud yr hyn a ddwedson ni.

Os oes modd, credwn ei bod yn well ymdrin â phethau ar unwaith yn hytrach na cheisio’u datrys yn nes ymlaen. Os oes gennych gŵyn, dywedwch wrth bwy bynnag sy’n ymdrin â chi. Bydd ef neu hi’n ceisio datrys y mater i chi yn y fan a’r lle.

Fersiwn Hawdd i'w Ddeall

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges