Wrth ymateb i adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol, ‘On the frontline of the UK’s corridor care crisis’, dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies:
“Dydy hi ddim yn hawdd darllen yr adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan y Coleg Nyrsio Brenhinol, sy’n canfod bod gofal yn cael ei ddarparu mewn mannau sy’n ‘peryglu diogelwch ac urddas’ pobl. Ceir tystiolaeth ynddo gan staff rheng flaen yn nodi methiannau dychrynllyd wrth ofalu am rai o’n cleifion mwyaf agored i niwed, llawer ohonynt yn bobl hŷn.
“Mae’r adroddiad yn dangos bod y materion a amlygir yn realiti dyddiol i lawer o gleifion a staff, ac mae’n annerbyniol bod darparu gofal mewn modd a allai beryglu diogelwch ac urddas cleifion yn cael ei normaleiddio i bob pwrpas.
“Mae hyn yn rhywbeth sy’n cael ei adlewyrchu’n aml mewn sgyrsiau rwyf wedi’u cael am y gwasanaeth iechyd gyda phobl hŷn, ac mae gan lawer ohonynt ddisgwyliadau isel iawn o ran ansawdd y gofal y gallent ei gael pe bai angen triniaeth arnynt yn yr ysbyty.
“Mae angen arweinyddiaeth gref arnom – o fewn byrddau iechyd a gan Lywodraeth Cymru – er mwyn gallu gweithredu ar frys i ymateb i’r materion hyn, yn ogystal â mynd i’r afael â’r materion systemig ehangach sydd wedi cyfrannu at y methiannau a nodir. Bydd hyn yn sicrhau bod amddiffyn diogelwch ac urddas cleifion yn flaenoriaeth, a bod y safonau gofal uchaf yn cael eu darparu bob amser.”