Angen Help?

Ymateb i Gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar y Taliad Tanwydd Gaeaf

i mewn Newyddion

Ymateb i Gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar y Taliad Tanwydd Gaeaf

Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Er mai prin yw’r manylion o hyd, rwy’n croesawu cyhoeddiad y Canghellor y bydd y Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei adfer i bobl hŷn sydd ag incwm o lai na £35,000, yn dilyn galwadau eang i adfer y cymorth ariannol hollbwysig hwn.

“Roedd hwn yn fater a achosodd gryn bryder ac a oedd yn dal i gael ei godi gyda mi gan bobl hŷn ym mhob cwr o Gymru. Mae pobl wedi dweud wrthyf i ba raddau y cawsant eu gorfodi i dorri’n ôl ar danwydd a hanfodion eraill y gaeaf diwethaf o ganlyniad i’r newidiadau y llynedd, gan beryglu eu hiechyd a’u llesiant.

“Felly mae’n dda gwybod y bydd y newidiadau a gyhoeddwyd heddiw ar waith ar gyfer y gaeaf nesaf.

“Yn ôl Llywodraeth y DU, bydd tua 75% o bobl hŷn nawr yn cael y taliad, ffigur sy’n debygol o fod yn uwch yng Nghymru gan fod incwm pobl hŷn yma yn tueddu i fod yn is na rhannau eraill o’r DU.

“Rydw i hefyd yn croesawu’r ffaith y bydd y taliad yn cael ei wneud i bob person hŷn sydd dros yr oedran cymhwyso, ac y bydd y rhai sydd ag incwm uwch na’r trothwy yn cael dewis optio allan neu ad-dalu’r hyn maen nhw’n ei gael drwy fath o drethiant. Bydd hyn yn golygu na fydd proses hawlio sy’n seiliedig ar brawf modd fel y cyfryw – rhywbeth sy’n aml yn arwain at unigolion cymwys yn colli allan, yn ogystal ag ychwanegu costau gweinyddu sylweddol.

“Fodd bynnag, mae’n hanfodol bod gohebiaeth glir yn cael ei rhannu’n gyflym i roi’r manylion llawn ynglŷn â sut bydd y system newydd yn gweithio’n ymarferol. Bydd hyn yn atal pryderon posibl ymysg pobl hŷn ynghylch a fyddant yn gymwys i gael y taliad, a’r hyn y gallent fod yn atebol i’w ‘dalu’n ôl’ os yw eu hincwm yn uwch na’r trothwy. Bydd hyn yn galluogi pobl i gynllunio a gwneud paratoadau angenrheidiol cyn y gaeaf.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges