Y Comisiynydd yn ymateb i ganfyddiadau’r Adolygiad Thematig o Adolygiadau Ymarfer Oedolion yng Nghymru
Yn ôl Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Er fy mod yn croesawu canfyddiadau’r Adolygiad Thematig o Adolygiadau Ymarfer Oedolion yng Nghymru – sy’n ceisio canfod nodweddion a thueddiadau allweddol yn ymwneud ag Adolygiadau Ymarfer Oedolion a gwella prosesau diogelu – mae’n siomedig bod llawer o’r materion a nodwyd yn adlewyrchu canfyddiadau’r adolygiad diwethaf yn 2021, sy’n awgrymu nad oes llawer o gynnydd wedi cael ei wneud i fynd i’r afael â’r rhain.
“Mae’n bwysig nodi bod y rhan fwyaf o’r achosion a adolygwyd yn ymwneud â phobl hŷn a bod ffactorau eraill – gan gynnwys materion iechyd meddwl, hunan-esgeulustod ac iechyd corfforol gwael – hefyd yn gyffredin. Mae hyn yn tynnu sylw at y ffaith bod yr unigolion sy’n ymwneud â phrosesau diogelu yn aml mewn sefyllfaoedd hynod fregus.
“Roeddwn yn arbennig o bryderus ei bod yn ymddangos nad oes digon o ystyriaeth yn cael ei rhoi i’r ‘person cyfan’ na’i anghenion o fewn prosesau diogelu yn aml, a bod oedi wrth ddarparu eiriolaeth yn golygu bod unigolion a allai fod yn agored i niwed yn cael eu gadael heb gynrychiolaeth briodol, a ddim yn gallu sicrhau bod eu lleisiau a’u dymuniadau’n cael eu clywed.
“Rwy’n cefnogi’r argymhellion yn yr adolygiad sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r materion hyn – gan gynnwys blaenoriaethu’r defnydd o eiriolaeth, ac adrodd yn well ar y defnydd o eiriolaeth, a hynny dan oruchwyliaeth unigolyn arweiniol ym mhob rhanbarth.
“Yn ogystal, rwy’n cefnogi’r galwadau am ganllawiau cenedlaethol ar Ddiogelu Oedolion, i helpu i sicrhau mwy o gysondeb ac i wella ymarfer ar hyd a lled Cymru.
“Hefyd, mae angen gwella’r ffordd y mae data’n cael ei gasglu a’i goladu mewn perthynas â diogelu oedolion, yn ogystal â sicrhau ei fod yn cael ei ddadansoddi’n fwy effeithiol, gan ganolbwyntio llawer mwy ar brofiadau a chanlyniadau pobl, er mwyn i hyn allu siapio polisïau ac arferion.
“Mae’n hanfodol bod camau brys a rhagweithiol yn cael eu cymryd i ymateb i’r adolygiad a’i argymhellion. Rwyf hefyd yn croesawu’r alwad i’r argymhellion mewn adolygiadau fod yn glir, yn gryno ac yn hawdd eu rhoi ar waith, er mwyn dysgu cymaint â phosibl. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod mwy o gymorth a diogelwch yn cael ei ddarparu i rai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed, ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn parhau i bwyso amdano fel Comisiynydd.”