Wythnos Ddiogelu 2024: Adeiladu ar seiliau cadarn
Mae’r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol yn rhoi sylw i’r gwaith arbennig sy’n cael ei wneud trwy gydol y flwyddyn i warchod pobl rhag cael eu niweidio a’u cam-drin. Eleni, fel y blynyddoedd diwethaf, mae amrywiaeth o wahanol ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal i godi ymwybyddiaeth a chynnig cyngor ymarferol i unigolion a gweithwyr proffesiynol ym mhob rhan o Gymru.
Mae’r Wythnos Ddiogelu hefyd yn darparu cyfleoedd pwysig i ni ystyried sut y gallwn ni gydweithio er mwyn parhau i fynd i’r afael â’r problemau a’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag datgelu eu bod yn cael eu cam-drin, ac yn eu hatal nhw rhag defnyddio’r gwasanaethau a’r cymorth sydd ar gael i’w cadw’n ddiogel. Mae’r problemau a’r rhwystrau hyn wedi eu nodi a’u harchwilio yn nifer o adroddiadau fy swyddfa.
Yn gynharach eleni, cyflwynwyd Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Cam-drin Pobl Hŷn. Dyma’r cynllun cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig. Roedd hwn yn gam cadarnhaol ymlaen, ac mae’n adlewyrchiad o dwf yr ymwybyddiaeth sy’n bodoli o’r ffyrdd penodol y gall pobl hŷn gael eu cam-drin, a’r rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael gafael ar gymorth. Mae’r datblygiad hwn hefyd yn ategu gwaith yr Is-ffrwd Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) sy’n canolbwyntio ar bobl hŷn.
Mae hi’n hanfodol ein bod ni’n cyflawni’r uchelgais sydd yn y cynllun – sef ‘rhoi mesurau ar waith i adnabod y mathau o gam-drin mae pobl hŷn mewn perygl o’i brofi, i fynd i’r afael â nhw, ac i geisio atal y mathau hyn o gam-drin rhag digwydd’- er mwyn sicrhau bod y sefyllfa yn gwella i bobl hŷn a’i bod hi’n haws iddynt gael gafael ar gymorth a chefnogaeth petaent yn cael eu cam-drin neu’n teimlo eu bod mewn perygl o gael eu cam-drin.
Rwy’n awyddus i weithio â Llywodraeth Cymru ac aelodau o’r Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin, er mwyn adnabod pa rannau o’r cynllun sydd angen mwy o fanylder- pethau megis amserlen yn nodi pryd y dylid cwblhau’r gweithredoedd hanfodol. Bydd hyn yn sicrhau bod ein huchelgais yn cael ei gwireddu, a bod yr uchelgais honno yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl hŷn.
Rwyf i hefyd yn aelod o fwrdd gweinidogol sy’n goruchwylio gwaith yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl. Adolygiad sydd wedi ei ddylunio i gael gwared ar yr angen i greu nifer o adroddiadau pan mae person yn marw, neu’n cael ei effeithio yn ddifrifol o ganlyniad i gam-drin, esgeulustod, neu drais, er mwyn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cydweithio, ac yn dysgu oddi wrth ei gilydd i atal marwolaethau neu ddigwyddiadau difrifol rhag digwydd eto.
Ochr yn ochr â’r gwaith hwn, bydda i’n gweithio â phartneriaid ym mhob rhan o Gymru i godi ymwybyddiaeth o sgamiau a throseddau yn erbyn pobl hŷn, ac yn rhannu’r canllawiau sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar gan fy swyddfa er mwyn gwneud adnoddau a gwybodaeth yn fwy effeithiol ac yn haws i’w defnyddio. Cafodd y canllawiau eu creu gyda chymorth grwpiau pobl hŷn.
Rwy’n parhau i rannu gwybodaeth ag adnoddau â phobl hŷn am sut i adnabod arwyddion o gam-drin, a ble i fynd i ganfod gwybodaeth a chefnogaeth os ydyn nhw’n cael eu cam-drin, mewn perygl o gael eu cam-drin, neu yn poeni am rywun arall. Mae’r Cyfeiriadur Gwasanaethau Cymorth Cam-drin yn adnodd pwysig sy’n darparu manylion cyswllt ar gyfer dros 150 o sefydliadau cymorth lleol a chenedlaethol.
Fel yr wyf i wedi ei nodi uchod, bydda i’n chwarae fy rhan wrth atal pobl rhag cael eu cam-drin a sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu grymuso i ddefnyddio’r gwasanaethau ac i ofyn am gymorth pan fo angen. Er mwyn adeiladu ar y seiliau cadarn sydd yma yng Nghymru, mae dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i weithredu’n ystyrlon fel y maen nhw wedi addo. Fel comisiynydd ar ran pobl hŷn ym mhob rhan o Gymru, bydda i’n cadw llygaid ar hyn.