Datganiad: Nifer y teithwyr ar fysiau yng Nghymru
Dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’n siomedig gweld pobl hŷn yn cael eu ‘beio’ am yr adferiad araf yn nifer y bobl sy’n teithio ar fysiau yng Nghymru ers y pandemig, o’i gymharu â rhannau eraill o’r DU, fel yr adroddwyd ddoe.
“Awgrymwyd mai un o’r prif resymau dros y gostyngiad yn nifer y bobl hŷn sy’n defnyddio gwasanaethau bysiau yw oherwydd bod pobl yn defnyddio gwasanaethau ar-lein erbyn hyn, sy’n golygu nad oes angen iddyn nhw ‘godi allan gymaint’.
“Yn fy marn i, fodd bynnag, nid yw hyn yn cydnabod y materion ehangach sy’n aml yn atal pobl hŷn rhag gallu defnyddio gwasanaethau bysiau.
“Mae pobl hŷn yn aml yn dweud wrthyf y bydden nhw’n hoffi defnyddio bysiau’n amlach i godi allan a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, ond nad yw hyn yn bosibl yn aml oherwydd bod y gwasanaethau hyn ddim ar gael neu ddim yn ddibynadwy.
“Mae un sylw sy’n crynhoi’r sefyllfa y mae llawer o bobl hŷn yn ei hwynebu ym mhob cwr o Gymru wedi aros gyda mi – ‘Mae gen i docyn bws ond dim bws’.
“Mae llawer o bobl hŷn hefyd wedi dweud wrthyf y bydden nhw’n hoffi rhoi’r gorau i ddefnyddio eu ceir, ond nad yw hyn yn bosibl oherwydd y diffyg gwasanaethau bws sydd ar gael. Mae materion eraill a godwyd gyda mi yn cynnwys diffyg integreiddiad a chysylltedd â gwasanaethau eraill, yn ogystal â phryderon am ddiogelwch wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
“Wrth i’r Bil Bysiau newydd i Gymru fynd rhagddo, mae’n hanfodol bod y materion a’r rhwystrau sy’n wynebu pobl hŷn yn cael eu deall yn iawn a’u bod yn cael ymateb priodol er mwyn i’r newidiadau sy’n cael eu rhoi ar waith ddarparu gwasanaethau a fydd yn diwallu anghenion pobl hŷn.”