Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop: Anrhydeddu’r Gorffennol, Cydnabod y Presennol
Yr wythnos hon, mae cymunedau ar hyd a lled y wlad yn dod at ei gilydd i nodi Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop — cyfle i gofio, i ddathlu, ac i ddiolch. I nodi 80 mlynedd ers Buddugoliaeth yn Ewrop, dyma deyrnged i’r rhai a aberthodd eu bywydau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, y dynion a’r menywod a fu’n ymladd, yn gweithio mewn ffatrïoedd ac ar y tir, a’r rhai a fu’n cynnal eu teuluoedd a’u cymunedau. Rydym yn diolch i’r bobl hyn am sicrhau’r rhyddid rydym ni’n ei fwynhau heddiw, a hynny dan amgylchiadau a chaledi na ellid eu dychmygu.
Rydym ni’n cofio. Byddwn ni bob amser yn cofio.
Byddwn ni’n cael clywed straeon personol, ac ysbrydoledig gan y rhai a oedd yno ar ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, y rhai sy’n cofio, a’r rhai a fu’n rhan o’r fuddugoliaeth. Mae’r rhain yn straeon am ddewrder, gwytnwch, ac aberth, ac ni ddylwn ni fyth eu hanghofio. Maent yn ein hatgoffa o fawredd yr hyn a enillwyd, ac o’r ysbryd dynol a wnaeth y fuddugoliaeth honno’n bosibl.
Bydd dathliadau’r wythnos hon yn dod â gwahanol genedlaethau at ei gilydd, ac yn rhoi cyfle i bobl ifanc glywed a dysgu gan bobl hŷn; eu profiadau yn y gorffennol yn byw yng nghysgod rhyfel, yn ogystal â’u bywydau nhw heddiw, a’r cyfraniadau maen nhw’n parhau i’w gwneud, yn aml heb lawer o sylw.
Mae hyn yn hollbwysig os ydym ni am herio’r stereoteipiau a’r tybiaethau am heneiddio, a helpu i sicrhau bod cyfraniadau sylweddol pobl hŷn yn ein cymunedau yn cael eu cydnabod.
Mae pobl hŷn yn ofalwyr sy’n gofalu am eu hanwyliaid a hynny heb gefnogaeth ffurfiol. Maent yn wirfoddolwyr sy’n rhedeg banciau bwyd, siopau elusen, canolfannau cymunedol, gweithgareddau a grwpiau. Maent yn arweinwyr sydd â degawdau o brofiad, gwybodaeth ac arbenigedd sy’n eu helpu i arwain mentrau lleol, mentora cenedlaethau iau a chryfhau’r gwead cymdeithasol. Mae pobl hŷn yn cyfrannu at yr economi ac yn arbed miliynau i’r wladwriaeth bob blwyddyn drwy wneud gwaith am dâl, gwirfoddoli, gwario, a darparu gofal di-dâl. Ond eto, mae nifer o bobl hŷn yn dweud wrthyf eu bod yn teimlo’n anweledig, fel petai eu gwerth i’r wlad wedi diflannu ar ôl ymddeol.
Dylem roi sylw i’r sefyllfa bresennol wrth goffáu hefyd, a dylai hynny ein hatgoffa o’r gwerthoedd sy’n bwysig i ni: diolchgarwch, parch, a dealltwriaeth o’r ffordd y mae pob cenhedlaeth yn adeiladu ar ymdrechion ac aberth y genhedlaeth o’i blaen hi. Mae’n gyfle hefyd i feddwl o ddifri, ydym ni’n cydnabod gwerth pobl hŷn yn ein cymunedau, nid fel rhan o hanes, ond fel pobl weithgar sy’n gwneud cyfraniad allweddol i’n bywydau ni heddiw?
Ar Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop eleni, beth am i ni gydnabod, gwerthfawrogi, a dathlu’r bobl hŷn sy’n parhau i siapio a chryfhau ein cymdeithas bob dydd.