Ymateb i Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru
Wrth ymateb i Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, dywedodd Rhian Bowen-Davies, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiadau yng nghyllideb ddrafft heddiw sy’n amlinellu mwy o gyllid ar draws nifer o feysydd allweddol, gan adlewyrchu llawer o’r galwadau a wnes yn fy ymateb i’r ymgynghoriad diweddar ar y gyllideb.
“Mae hyn yn cynnwys mwy o fuddsoddiad yn y GIG, gwasanaethau gofal cymdeithasol a thai, sydd i gyd yn chwarae rhan hollbwysig yn iechyd a llesiant pobl hŷn, yn ogystal â chyllid ychwanegol ar gyfer meysydd pwysig eraill fel diwylliant, treftadaeth a chwaraeon sy’n cefnogi pobl hŷn i gymryd rhan yn eu cymunedau a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, sy’n hanfodol i gefnogi pobl i heneiddio’n dda.
“Rwyf hefyd yn croesawu cyllid ychwanegol i fynd i’r afael ag allgáu digidol, mater sy’n effeithio ar nifer sylweddol o bobl hŷn yng Nghymru ac sy’n golygu bod unigolion mewn mwy o berygl o allgáu cymdeithasol ehangach wrth i dechnoleg ddigidol barhau i chwarae mwy o ran yn ein bywydau o ddydd i ddydd.
“Fodd bynnag, mae’n siomedig nad oes unrhyw gyllid penodedig i liniaru effaith colli’r Taliad Tanwydd Gaeaf, a oedd yn darparu cymorth ariannol hanfodol i filoedd o bobl hŷn yng Nghymru.
“Yn yr un modd, er bod cyllid sylweddol yn cael ei ddarparu ar gyfer trafnidiaeth yn ei chyfanrwydd, ychydig iawn o’r cyllid hwnnw sy’n benodol ar gyfer gwasanaethau bysiau sydd, rwy’n gwybod, yn achubiaeth i lawer o bobl hŷn ledled Cymru.
“Mae cwestiynau difrifol yn dal i fodoli am effaith dyraniadau cyllid heddiw ar wella a chynnal gwasanaethau rheng flaen sy’n cael eu defnyddio a’u gwerthfawrogi’n fawr gan bobl hŷn. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau yn y gymuned a’r rhai a ddarperir gan y trydydd sector.
“Mae hyn yn rhywbeth y byddaf yn ei fonitro’n ofalus wrth i ragor o fanylion ddod i’r amlwg yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, o ystyried yr effaith bosibl ar iechyd, annibyniaeth a llesiant pobl hŷn os bydd y mathau hyn o wasanaethau’n gweld gostyngiadau pellach neu’n cael eu colli oherwydd problemau cyllido.”