CYLCHLYTHYR Y COMISIYNYDD
Yr wybodaeth ddiweddaraf gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru // Gorffennaf 2025
Neges gan Rhian
Mae’r haf wedi cyrraedd. Gobeithio eich bod chi’n llwyddo i gadw’n iach ac yn ymdopi â’r tywydd chwilboeth rydyn ni’n ei gael.
Mi rydw i a’m Tîm wedi cael misoedd prysur iawn unwaith eto; mi gyrhaesom garreg filltir bwysig ym mis Mai pan gyhoeddais fy Strategaeth tair blynedd – Cymru sy’n Arwain y Ffordd i Bobl Hŷn – a’m Rhaglen Waith ar gyfer 2025-26, sy’n disgrifio’r camau y byddaf yn eu cymryd i sicrhau newid cadarnhaol i bobl hŷn.
Roeddwn i hefyd yn falch o gyhoeddi adroddiad newydd yn edrych ar brofiadau pobl o fynd yn hŷn heb blant a’r camau sydd eu hangen i sicrhau bod polisïau ac ymarfer yn ymateb yn effeithiol i ddemograffeg sy’n newid er mwyn i bobl hŷn allu cael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt heb orfod dibynnu ar help gan deulu.
Cawsom hefyd ychydig o newyddion cadarnhaol o San Steffan, gyda’r cyhoeddiad bod y penderfyniad i dalu’r Taliad Tanwydd Gaeaf ar sail profion modd, a’i gyfyngu i bobl sy’n cael Credyd Pensiwn, yn cael ei wrthdroi; rwyf wedi bod yn galw am hyn ers i’r polisi gael ei gyflwyno y llynedd.
Mae fy nhîm a minnau hefyd wedi teithio ledled Cymru, gan ymweld â grwpiau bach a mynd i ddigwyddiadau mawr, i glywed oddi wrth amrywiaeth eang o bobl hŷn, i rannu gwybodaeth ac adnoddau ac i roi cyngor a chymorth. A pheidiwch ag anghofio, os oes angen help a chefnogaeth arnoch chi gydag rhywbeth sy’n eich poeni, gallwch chi gysylltu â’m Tîm Cyngor a Chymorth ar 03442 640 670 neu anfon e-bost ask@olderpeople.wales.
Dymuniadau gorau ichi i gyd, fel arfer.
Rhian
Creu Cymru sy’n arwain y ffordd ar gyfer pobl hŷn: Strategaeth a Rhaglen Waith y Comisiynydd
Ym mis Mai, fe wnaeth y Comisiynydd gyhoeddi ei Strategaeth a’i Rhaglen Waith, sy’n nodi’r camau y bydd hi’n eu cymryd i gyflawni newid cadarnhaol i bobl hŷn.
Mae’r ddwy ddogfen wedi cael eu siapio gan leisiau a phrofiadau pobl hŷn o bob cwr o Gymru, yn dilyn rhaglen helaeth o ymweliadau cyswllt wyneb yn wyneb â channoedd o bobl hŷn, a chanfyddiadau ymgynghoriad cenedlaethol y Comisiynydd ‘Dweud eich Dweud’, yr ymatebodd dros 400 o bobl hŷn iddo.
Mae’r Comisiynydd yn bwrw ymlaen ag amrywiaeth eang o waith sy’n canolbwyntio ar sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau, y gefnogaeth a’r wybodaeth sydd eu hangen arnynt, a’u bod yn teimlo’n ddiogel gartref ac yn eu cymunedau, gyda dewis a rheolaeth dros eu bywydau.
Mae gwaith y Comisiynydd hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu trin yn deg a bod y cyfraniad sylweddol y maent yn ei wneud i’n bywydau a’n cymunedau yn cael ei gydnabod.
Bydd y camau allweddol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys:
- Archwilio profiadau pobl hŷn o ofal cymdeithasol yng Nghymru
- Adolygu mynediad at wasanaethau deintyddol
- Gwella mynediad pobl hŷn at gludiant cyhoeddus
- Diogelu hawliau pobl hŷn nad ydynt ar-lein fel nad ydynt yn cael eu heithrio rhag cael gafael ar wybodaeth, gwasanaethau a gweithgareddau bob dydd
- Gweithio gyda phartneriaid i wella diogelwch cymunedol
- Gwella gwasanaethau a chymorth i bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, gan gynnwys trais rhywiol
- Lansio hyfforddiant newydd i helpu llunwyr polisïau a staff y sector cyhoeddus i ddeall yn well effaith niweidiol rhagfarn ar sail oedran a sut y gellir herio hyn
- Gwella mynediad pobl hŷn at eiriolaeth annibynnol er mwyn iddynt allu sicrhau bod eu lleisiau’n cael gwrandawiad yn ystod cyfnodau anodd ac adegau o argyfwng.
- Gweithio gydag awdurdodau lleol i wneud cymunedau ledled Cymru yn fwy oed-gyfeillgar i gefnogi pobl i fyw ac i heneiddio’n dda
Ochr yn ochr â hyn, bydd y Comisiynydd yn craffu ar ystod eang o bolisïau ac arferion y llywodraeth ar lefel genedlaethol a lleol, gan ddylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau a dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif lle bo angen.
Bydd y Comisiynydd hefyd yn parhau i ddarparu cymorth a chefnogaeth i bobl hŷn ledled Cymru drwy ei Gwasanaeth Cyngor a Chymorth, sy’n helpu i sicrhau bod hawliau pobl yn cael eu cynnal ac yn grymuso pobl hŷn i herio arferion a phenderfyniadau gwael.
Wrth drafod ei Strategaeth a’i Rhaglen waith, dywedodd y Comisiynydd:
“I lawer o bobl hŷn, mae mynd yn hŷn yng Nghymru yn brofiad cadarnhaol – maen nhw’n gallu cael gafael ar yr wybodaeth, y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw, maen nhw’n teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi a’u cymunedau, yn cael eu trin yn deg ac yn gallu sicrhau bod eu lleisiau’n cael gwrandawiad.
“Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod bod gormod o bobl hŷn yng Nghymru yn wynebu amrywiaeth o heriau a rhwystrau ar draws nifer o agweddau ar eu bywydau bob dydd, sy’n aml yn cael effaith sylweddol ar iechyd, llesiant ac annibyniaeth pobl. Mae hyn yn gwneud i bobl hŷn deimlo eu bod yn cael eu heithrio, yn cael eu gadael ar ôl ac nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, gan effeithio ar eu cyfleoedd i fyw ac i heneiddio’n dda.
“Hoffwn ddiolch i’r holl bobl hŷn sydd wedi siarad â mi, neu sydd wedi ymateb i fy ymgynghoriad, am rannu’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau mewn ffordd mor agored a gonest, ac am dynnu sylw at y newid a’r gwelliannau maen nhw eisiau ac angen eu gweld.
“Mae’r lleisiau a’r profiadau hyn wrth galon fy Strategaeth a’m Rhaglen Waith, a thrwyddynt byddaf yn bwrw ymlaen ag amrywiaeth o gamau gweithredu a fydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol ac ystyrlon i fywydau pobl hŷn ledled Cymru.
“Ond nid yw cyflawni’r holl newid angenrheidiol yn rhywbeth y gallaf ei wneud ar fy mhen fy hun, a dyna pam fy mod i hefyd yn galw ar gyrff cyhoeddus a gwasanaethau ledled Cymru i gymryd camau i ymateb yn fwy effeithiol i’r problemau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu.
“Drwy weithio gyda’n gilydd fel hyn, mae gennym gyfleoedd i greu Cymru lle mae pob person hŷn yn cael ei werthfawrogi, ei gynnwys a’i gefnogi i fyw gydag urddas ac annibyniaeth.
“Drwy wrando, gweithredu a sbarduno newid ystyrlon, gallwn adeiladu cymdeithas lle mae mynd yn hŷn yn rhywbeth i’w ddathlu – Cymru sy’n arwain y ffordd ar gyfer pobl hŷn.”
Mae modd i chi lwytho Strategaeth a Rhaglen Waith y Comisiynydd i lawr yma – https://comisiynyddph.cymru/blaenoriaethaur-comisiynydd/ – neu cysylltwch â ni os hoffech gael copi papur.
Y Comisiynydd yn rhoi croeso brwd i’r Tro Pedol ar y Taliad Tanwydd Gaeaf
Ym mis Mehefin, rhoddodd y Comisiynydd groeso brwd i’r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU y bydd y Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei adfer i bobl hŷn sydd ag incwm o lai na £35,000.
Roedd y Comisiynydd wedi galw ar y Llywodraeth i wyrdroi penderfyniad y llynedd i gynnal prawf modd ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf, penderfyniad a oedd wedi achosi cryn bryder i lawer o bobl hŷn ledled Cymru.
Dywedodd y Comisiynydd: “Rwyf yn croesawu’r cyhoeddiad y bydd y Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei adfer i lawer o bobl hŷn, yn dilyn galwadau eang i adfer y math hanfodol hwn o gymorth ariannol.
“Roedd colli’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn fater a oedd yn achosi cryn bryder ac roedd pobl hŷn o bob cwr o Gymru yn dal i godi’r mater gyda mi. Roedd pobl yn dweud wrthyf cymaint y cawsant eu gorfodi i dorri’n ôl ar danwydd a hanfodion eraill y gaeaf diwethaf o ganlyniad i’r penderfyniad i atal y taliad cynhwysol gan beryglu eu hiechyd a’u lles.”
Dywedodd y Comisiynydd ei bod yn falch y byddai’r trefniadau newydd ar waith erbyn y gaeaf nesaf ac y byddai taliadau’n cael eu gwneud yn awtomatig i bobl hŷn.
Ychwanegodd: “Rydw i’n croesawu’r ffaith y bydd y taliad yn cael ei wneud i bob person hŷn sydd dros yr oedran cymhwyso, ac y bydd y rhai sydd ag incwm uwch na’r trothwy yn cael dewis optio allan neu ad-dalu’r hyn maen nhw’n ei gael drwy fath o dreth. Bydd hyn yn golygu na cheir proses hawlio sy’n seiliedig ar brawf modd fel y cyfryw – rhywbeth sy’n aml yn arwain at fod unigolion cymwys ar eu colled, yn ogystal â chostau gweinyddu sylweddol.
“Rhaid i Lywodraeth y DU nawr roi gwybodaeth glir am sut bydd y system newydd yn gweithio’n ymarferol er mwyn i bobl allu cynllunio’n briodol a gwneud unrhyw baratoadau sydd eu hangen cyn y gaeaf.
“Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig peidio â cholli golwg ar faterion ariannol ehangach sy’n effeithio ar lawer o bobl hŷn, yn enwedig yma yng Nghymru.
“Hyd yn oed gyda’r newidiadau a gyhoeddwyd, mae 1 o bob 5 person hŷn yn dal i fyw mewn tlodi, ac yn wynebu caledi parhaus ac andwyol sy’n aml ynghudd.
“Yn yr un modd, nid yw tua thraean o’r aelwydydd sy’n gymwys i gael Credyd Pensiwn yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl iddo; mae hwn yn werth £3,900 y flwyddyn ar gyfartaledd ac mae’n agor y drws at gymorth amrywiol arall.
“Mae’n hanfodol, felly, fod gwaith yn cael ei wneud i archwilio lefel yr incwm y mae ar bobl ei hangen i fyw a heneiddio’n dda; bydd hyn yn hanfodol er mwyn gweithredu’n ystyrlon i fynd i’r afael â thlodi, y problemau y mae’n eu hachosi a’r costau cudd y mae’n eu creu.”
Ymchwil newydd yn tynnu sylw at brofiadau pobl o fynd yn hŷn heb blant
Ym mis Mehefin, cyhoeddodd y Comisiynydd adroddiad yn edrych ar brofiadau pobl o fynd yn hŷn heb blant a’r camau sydd eu hangen i sicrhau bod gwasanaethau a chymorth yn gallu ymateb yn effeithiol i ddemograffeg sy’n newid.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod mynd yn hŷn heb blant yn gallu dod â llawer o fanteision, gan gynnwys bywydau cymdeithasol cryf a chysylltiadau â ffrindiau, cymdogion a mudiadau cymunedol; cyfleoedd i greu rhwydweithiau cefnogol cyfoethog ac amrywiol a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a gwirfoddoli; a sefydlogrwydd ariannol.
Fodd bynnag, gall pobl heb blant hefyd deimlo eu bod yn cael eu hel i’r cyrion, eu bod yn anweledig ac yn cael eu hanwybyddu yn ystod trafodaethau am heneiddio mewn cymdeithas sy’n canolbwyntio ar y teulu.
Mae’r adroddiad, sy’n seiliedig ar amrywiaeth eang o waith ymchwil, yn datgelu bod amrediad o bolisïau a deddfwriaeth yn ‘annigonol i raddau helaeth’ i ymateb i anghenion pobl sy’n mynd yn hŷn heb blant yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hefyd yn canfod bod llawer o bolisïau a gwasanaethau yn tybio bod rhyw fath o gymorth teuluol ar gael, ac mae hyn yn gallu rhwystro pobl hŷn rhag defnyddio gwasanaethau a chymorth fel iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, gweithgareddau cymdeithasol, addysg a gweithgareddau diwylliannol.
At hynny, gall pobl sy’n mynd yn hŷn heb blant fod yn fwy agored i broblemau sy’n gallu effeithio ar ein gallu i heneiddio’n dda.
Mae’r adroddiad yn nodi pam mae angen gweithredu i fynd i’r afael â’r materion hyn gan fod disgwyl i nifer y bobl hŷn sydd heb blant gynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd nesaf.
Mae’r gweithredu hwn yn cynnwys mwy o ymyriadau wedi’u targedu, gwella cymorth cymdeithasol, a dulliau arloesol o ddarparu gofal, gan adeiladu ar arferion da sydd eisoes yn cael eu treialu a’u darparu.
Bydd y Comisiynydd yn rhannu ei chanfyddiadau gyda Llywodraeth Cymru, cyrff cyhoeddus, darparwyr gwasanaethau a sefydliadau allweddol eraill i sicrhau bod y problemau sy’n aml yn wynebu pobl hŷn sydd heb blant yn cael eu cydnabod ac yn cael sylw. Bydd hefyd yn defnyddio’r dystiolaeth o’r adroddiad i gefnogi ei gwaith i ddylanwadu ar bolisïau a’r modd y caiff gwasanaethau eu dylunio ledled Cymru.
Ochr yn ochr â hyn, bydd yn cynnal digwyddiad yn ddiweddarach eleni i ddod â’r bobl allweddol sy’n creu polisïau ac sy’n gwneud penderfyniadau yng Nghymru at ei gilydd i glywed gan bobl hŷn am eu profiadau o fynd yn hŷn heb blant, er mwyn archwilio’r dystiolaeth yn yr adroddiad yn fanylach ac i edrych ar ffyrdd ymarferol o fynd i’r afael â’r materion a nodwyd.
Gallwch ddarllen yr adroddiad yma – https://comisiynyddph.cymru/adnodd/ymchwil-i-brofiadau-pobl-o-fynd-yn-hyn-heb-blant/ – neu cysylltwch â ni os hoffech gael copi papur.
Bil Gwasanaethau Bysiau Cymru: Y Comisiynydd yn galw am newidiadau i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael gwrandawiad
Ym mis Mai, rhannodd y Comisiynydd ei phryderon y gallai pobl hŷn fod wedi methu â sicrhau bod eu lleisiau’n cael gwrandawiad ar newidiadau arfaethedig i wasanaethau bysiau gan mai ychydig iawn o amser a roddwyd i ymateb i’r ymgynghoriad ar Fil Gwasanaethau Bysiau (Cymru).
Gan ysgrifennu at Gadeirydd Pwyllgor Newid Hinsawdd y Senedd sy’n craffu ar y Bil, dywedodd y Comisiynydd fod y cyfnod ymgynghori o chwe wythnos yn ‘eithriadol o fyr’ ac na fyddai’r amserlen yn caniatáu amser i ymgynghori’n ystyrlon â phobl hŷn, rhanddeiliaid ac aelodau o’r cyhoedd.
Dywedodd fod pobl hŷn yn aml yn adrodd am broblemau yn ymwneud â thrafnidiaeth, mynediad at wasanaethau bysiau yn enwedig, a’i bod felly’n bwysig bod pobl yn cael cyfle i ddweud eu dweud.
Galwodd am yr angen i ymgynghoriadau i’r dyfodol gael eu cynllunio i ganiatáu mwy o amser i bobl ymateb, er mwyn ein galluogi i graffu’n fanylach ar y ddeddfwriaeth arfaethedig, a sicrhau ar yr un pryd nad yw’r prosesau hyn, yn anfwriadol, yn allgáu pobl hŷn yn ddigidol, ac yn eu hatal rhag cymryd rhan.
Yn ei thystiolaeth i’r Pwyllgor ar y Bil ei hun, dywedodd y Comisiynydd ei bod yn cefnogi ei nodau o wneud gwasanaethau bysiau yn fwy hygyrch, yn fwy dibynadwy ac o well ansawdd, ond fod cyllid digonol i alluogi hyn yn hanfodol. Tynnodd sylw hefyd at yr angen i roi sylw i bryderon ynghylch diogelwch y mae pobl hŷn yn eu codi’n aml, a phwysigrwydd hyfforddi gyrwyr a chynllunio trawsffiniol.
Pwysleisiodd y Comisiynydd hefyd yr angen i wneud y gwelliannau cyn gynted â phosibl, ac ystyried y rôl hanfodol y mae trafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn ei chwarae i helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol a heneiddio’n dda, a’r angen i gysylltu’n barhaus â phobl hŷn i gasglu eu hadborth ac ymateb i bryderon wrth i newidiadau gael eu gwneud.
Darllenwch ymateb llawn y Comisiynydd i Fil Gwasanaethau Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yma – https://comisiynyddph.cymru/adnodd/ymatebion-ymgynghori-bil-gwasanaethau-bysiau-cymru/ – neu cysylltwch â ni os hoffech chi gael copi papur.
Diwrnod Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Gam-drin Pobl Hŷn
15 Mehefin oedd y Diwrnod Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Gam-drin Pobl Hŷn, sef diwrnod pan mae sefydliadau ledled y byd yn gweithio gyda’i gilydd i dynnu sylw at raddfa, natur ac effaith y gamdriniaeth y mae pobl hŷn yn ei dioddef, a hefyd at yr help a’r gefnogaeth sydd ar gael.
Gan chwarae ei rhan, rhannodd y Comisiynydd wybodaeth am ei Chyfeiriadur Gwasanaethau Cymorth Cam-drin, sy’n rhoi manylion tua 150 o sefydliadau lleol a chenedlaethol sy’n gallu helpu pobl sy’n cael eu cam-drin neu sy’n poeni am rywun arall.
Rhannodd hefyd ei thaflen Mynnwch Help Cadwch yn Ddiogel sy’n llawn gwybodaeth ddefnyddiol am sut i adnabod yr arwyddion y gallai person hŷn fod yn cael ei gam-drin, a lle i gael help a chymorth.
Ochr yn ochr â hyn, cyhoeddodd y Comisiynydd erthygl lle dadleuodd fod angen symud oddi wrth y term hen ffasiwn ‘cam-drin yr henoed’, sy’n gallu arwain at ragdybiaethau dadleuol a chanlyniadau anfwriadol a all danseilio’r cynnydd a wnaed i amddiffyn a chefnogi pobl hŷn.
Er enghraifft, mae’r term ‘cam-drin yr henoed’ yn gwthio unigolion a’u profiadau penodol i gategori, gan grwpio pobl yn ôl eu hoedran a’r ymdeimlad cyffredinol eu bod yn ddioddefwyr. Mae hyn yn atgyfnerthu stereoteipiau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran, gan gyflwyno pobl hŷn fel grŵp goddefol, unffurf – yn hytrach na chydnabod hunaniaeth ac anghenion unigol pobl a’r niwed y gallent fod yn ei ddioddef, ac ymateb yn unol â hynny.
At hynny, mae’r term yn awgrymu bod yr hyn y mae pobl hŷn yn ei brofi rywsut yn wahanol i’r cam-drin a wyneba pobl o grwpiau oedran eraill, ac mae hyn yn cael effaith ar y ffyrdd y mae pobl yn ymchwilio i’r materion hyn ac yn ymateb iddynt. Gwyddom, er enghraifft, fod achosion lle’r amheuir bod person hŷn yn cael ei gam-drin yn aml yn cael eu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol yn hytrach na’r heddlu, gan arwain at golli cyfleoedd i ganfod troseddau posibl a sicrhau cyfiawnder i unigolion.
Dywedodd y Comisiynydd fod sefydlu’r diwrnod, bron ddau ddegawd yn ôl, yn gam pwysig ymlaen i gydnabod profiadau pobl hŷn ac i amlygu’r angen am weithredu gan mai ychydig iawn o ddealltwriaeth a geid ymysg ymarferwyr a’r gymdeithas ehangach am y gamdriniaeth y mae pobl hŷn yn ei dioddef.
Ond dywedodd hefyd ei bod yn bryd cydnabod y cynnydd a wnaed yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf a newid ffocws y diwrnod, gan ddileu iaith a all nid yn unig fod yn rhwystr rhag gweithredu, ond hefyd o bosibl gyfyngu ar uchelgais.
Rhannodd ei barn y byddai ‘Diwrnod Rhyngwladol Rhoi Terfyn ar Gam-drin Pobl Hŷn’ yn adlewyrchu’n well y math o iaith a ddefnyddia’r Cenhedloedd Unedig i ddisgrifio dyddiau gweithredu tebyg a fwriedir i gefnogi grwpiau eraill, ac y byddai hyn yn anfon neges lawer mwy pwerus – i bobl hŷn ac i gymdeithas yn gyffredinol.
Bydd y Comisiynydd yn cysylltu â’r Cenhedloedd Unedig i helpu i sicrhau’r newid pwysig hwn ac i sicrhau bod yr iaith a ddefnyddir yn adlewyrchu brys a phwysigrwydd yr hyn y mae angen ei gyflawni i amddiffyn pobl hŷn rhag cael eu cam-drin a rhoi iddynt y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.
Cwrdd â phobl hŷn ledled Cymru a siarad â nhw
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae’r Comisiynydd a’i thîm wedi teithio ledled Cymru yn cwrdd ac yn siarad â phobl hŷn i glywed yn uniongyrchol am eu profiadau o heneiddio a’r newidiadau yr hoffent eu gweld. Mae’r digwyddiadau ymgysylltu hyn hefyd wedi rhoi inni’r cyfle i rannu gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol, a rhoi cyngor a chymorth ar amrywiaeth o faterion.
Diolch i bawb y buom yn ymweld â nhw am roi croeso mor gynnes i ni ac am rannu eu profiadau mor agored a gonest; mae hyn yn ein galluogi i adnabod materion cyffredin a materion sy’n codi ac yn helpu i lywio gwaith y Comisiynydd i ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer. Mae gennym lawer mwy o sesiynau ymgysylltu ar y gweill ledled Cymru, ond os ydych chi eisiau i’r Comisiynydd ymweld â’ch grŵp chi, cysylltwch â ni ar 03442 640 670 neu anfon e-bost i ask@olderpeople.wales.
- Sir y Fflint – Grŵp Gweithredu 50+
- Conwy – Gofalwyr Tide Cymru
- Rhondda Cynon Taf – Pontyclun Bosom Pals
- Bro Morgannwg – Clwb Heneiddio’n Dda Penarth
- Abertawe – Dathliad 20 Mlynedd EYST
- Bro Morgannwg – Grŵp Sporting Memories
- Bro Morgannwg – Y Barri sy’n Deall Dementia – Digwyddiad Troi’r Barri’n Las
- Abertawe – Grŵp Cymunedol Heneiddio’n Dda
- Caerdydd – Digwyddiad Diogelu Ann Craft Trust
- Rhondda Cynon Taf – Fforwm 50+ Llantrisant
- Caerdydd – Canolfan Awen yr Eglwys Newydd
- Pen-y-bont ar Ogwr – Fforwm Shout
- Caerdydd – Grŵp 50+ Conwy
- Bro Morgannwg – Caffi Lles The Dwelling Place
- Gwynedd – Clwb Cinio Cymdeithasol Morfa Bychan
- Caerdydd – Dathliad Hynafgwyr Windrush
- Wrecsam – Grŵp Oed-gyfeillgar
- Caerdydd – Côr Good Vibrations
- Sir y Fflint – Marleyfield House
- Casnewydd – Parkrun Tŷ Tredegar
- Pen-y-bont ar Ogwr – Sefydliad y Merched Pencoed
- Abertawe – y Ganolfan Dementia
- Caerdydd – Ysgol Gynradd Severn
Roedd gan y Comisiynydd hefyd stondinau gwybodaeth yn nigwyddiad Amlddiwylliannol Mela Caerdydd a digwyddiad Pride Cymru ym mis Mehefin, lle cawsom gyfle i gyfarfod a sgwrsio â phobl hŷn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a LHDTC+ a’u hanwyliaid; buom hefyd yn dosbarthu gwybodaeth ac adnoddau ac yn clywed am faterion pwysig.
Bydd y Comisiynydd a’i thîm hefyd yn cysylltu â phobl hŷn mewn digwyddiadau mawr tebyg sydd wedi’u trefnu dros yr haf, gan gynnwys Sioe Frenhinol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol a Sioe Sir Benfro. Felly, os ydych chi’n mynd i unrhyw un o’r rhain, edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno!
Yn ogystal â’r digwyddiadau hyn i bobl hŷn, cymerodd y Comisiynydd a’i thîm ran mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau i randdeiliaid ledled Cymru, er mwyn rhannu gwybodaeth a negeseuon, cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth, a dylanwadu ar bolisïau ac arferion. Ymysg y sefydliadau a’r rhanddeiliaid y bu’r Comisiynydd a’i thîm yn ymgysylltu â nhw yr oedd partneriaid oed-gyfeillgar yn Sir Gaerfyrddin a Bro Morgannwg, y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol, Sefydliad Bevan, Confensiwn Cenedlaethol y Pensiynwyr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Ymddiriedolaeth Gofalwyr, a Chlymblaid Gwrthdlodi Cymru.
Fe wnaeth y Comisiynydd hefyd ddwyn ynghyd randdeiliaid allweddol ar gyfer cyfarfodydd y Grŵp Gweithredu ar Atal Cam-drin a’r Gymuned Ymarfer Oed-Gyfeillgar, yn ogystal â chynnal digwyddiad bord gron ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n edrych ar y camau a gymerwyd mewn ymateb i’r argymhellion yn Adroddiad 2024 y Comisiynydd ar Fynediad i Bractisau Meddygon Teulu (adroddiad sy’n tynnu sylw at y cynnydd a’r meysydd lle mae gofyn gwneud rhagor o waith, ac sydd i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Awst).
DIWEDDARIAD: Diffodd Gwasanaeth Radio Teleswitch
Yn rhifyn diwethaf y cylchlythyr, dywedasom fod y Gwasanaeth Radio Teleswitch (RTS), a ddefnyddir i reoli mesuryddion trydan a thariffau cyfnodau tawelach fel Economi 7, yn cael ei ddiffodd.
Ar ôl i’r gwasanaeth ddod i ben, ni fydd mesuryddion dan sylw yn gallu newid rhwng oriau brig ac oriau tawelach; ac fe allai hyn arwain at filiau anghywir neu at fod systemau gwresogi ddim yn gweithio fel y dylent.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi, yn hytrach na diffodd y gwasanaeth yn llwyr ddiwedd mis Mehefin fel y bwriadwyd yn wreiddiol, y bydd y gwasanaeth nawr yn cael ei gau fesul cam er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.
Ond os oes gennych chi fesurydd RTS, mae’n dal yn bwysig iawn bod hwn yn cael ei uwchraddio fel bod eich systemau trydan a/neu ddŵr poeth yn dal i weithio fel y dylent. Dylai eich cyflenwr ynni uwchraddio eich mesurydd am ddim.
Os nad ydych chi’n siŵr pa fath o fesurydd neu dariff sydd gennych, dylech gysylltu â’ch cyflenwr ynni er mwyn iddo roi cyngor i chi. Dyma fanylion cyswllt y prif gyflenwyr ynni yn y DU:
- British Gas: 0333 202 9802
- EDF Energy: 0333 200 5100
- ON Next: 0808 501 5200
- ScottishPower: 0800 092 9290
- SSE Energy Solutions: 0345 725 2526
- Octopus Energy: 0808 164 1088
- Bulb Energy: 0300 30 30 635
Gallwch hefyd gysylltu ag Advicelink Cymru i gael rhagor o wybodaeth am ddiffodd RTS: 0800 702 2020.
Tynnu sylw at…
Mae’r adran hon yn tynnu sylw at wybodaeth ddefnyddiol gan sefydliadau eraill, yn ogystal â chyfleoedd i leisio’ch barn neu gymryd rhan mewn prosiectau sydd ar y gweill.
Arolygon Cleifion Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: Gwnewch yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed
Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn arolygu gwasanaethau’r GIG ac yn rheoleiddio darparwyr gofal iechyd annibynnol i wneud yn siŵr bod pobl yn cael gofal diogel ac effeithiol. Mae’n asesu gwasanaethau yn erbyn safonau, polisïau, canllawiau a rheoliadau, gan nodi meysydd i’w gwella a sbarduno newid cadarnhaol.
Mae AGIC yn cynnal arolygon cleifion yn rheolaidd er mwyn cael clywed yn uniongyrchol gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Mae eich adborth yn ei helpu i ddeall beth sy’n gweithio’n dda a ble mae angen gwelliannau. P’un a ydych chi wedi defnyddio gwasanaethau meddyg teulu, gofal ysbyty neu wasanaethau iechyd eraill yn ddiweddar, mae eich barn yn bwysig.
Dweud Eich Dweud: Ewch i https://www.agic.org.uk/dweud-eich-dweud i weld pa arolygon sy’n fyw ar hyn o bryd.
Oes angen cymorth arnoch i lenwi arolwg? Ffoniwch 0300 062 8163 a bydd aelod o dîm AGIC yn eich helpu.
Panel Dealltwriaeth Trafnidiaeth Cymru: Helpu i wella gwasanaethau TrC
Mae Trafnidiaeth Cymru yn chwilio am bobl hŷn i ymuno â’i Banel Dealltwriaeth er mwyn helpu i wella’r gwasanaethau mae’n ei gynnig.
Fel aelod o’r Panel, byddwch yn cael eich gwahodd i brofi adnoddau digidol newydd ac archwilio nodweddion cyn iddynt fynd yn fyw, gan helpu i ddylanwadu ar brofiadau miloedd o deithwyr ledled Cymru.
Gallai hyn gynnwys cymryd rhan mewn sesiynau profi defnyddwyr un-i-un, treialu ap wedi’i ailgynllunio neu roi adborth ar wasanaethau digidol newydd.
I gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi ddweud eich dweud, ewch i https://haveyoursay.tfw.wales/insights-panel neu cysylltwch â Trafnidiaeth Cymru ar 03333 211 202
Byw’n dda gydag osteoporosis
Mae Dr. Inder Singh, Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Iechyd yr Esgyrn, Cymru, yn tynnu sylw at effaith osteoporosis a’r camau y gallwch chi eu cymryd i sicrhau iechyd eich esgyrn…
Beth yw Osteoporosis?
Gelwir osteoporosis hefyd yn ‘gyflwr esgyrn brau’, ac mae dros 3.7 miliwn o bobl yn byw gyda’r cyflwr yn y DU ar hyn o bryd. Mae’n digwydd pan fydd ein hesgyrn yn mynd yn denau wrth golli mas esgyrn (dwysedd mwynol esgyrn) a newidiadau yn strwythur yr esgyrn dros amser. Mae hyn yn arwain at lai o gryfder yn yr esgyrn sy’n gallu cynyddu’r risg o dorasgwrn. Yn anffodus, heb ofal osteoporosis priodol, mae pobl mewn perygl o dorri esgyrn dro ar ôl tro a all arwain at broblemau iechyd sy’n ymwneud yn benodol â thorasgwrn yn cronni dros amser. Disgrifir hyn fel ‘rhaeadr torasgwrn’, sef cylch o achosion torasgwrn sy’n digwydd dro ar ôl tro a chynnydd mewn dibyniaeth neu anabledd.
Pa mor gyffredin yw torasgwrn breuder?
Yng Nghymru yn unig, mae dros 4,000 o doriadau clun a 20,000 o achosion o dorasgwrn breuder bob blwyddyn. Mae torasgwrn breuder yn aml yn deillio o drawma bach, fel syrthio o sefyll, a gall effeithio ar yr arddwrn, y glun, asgwrn y cefn, y pelfis neu ran uchaf y fraich. Ar ôl 50 oed, y risg gydol oes o dorasgwrn breuder yw 1 o bob 2 menyw ac 1 o bob 5 gwryw. Mae osteoporosis yn aml yn dawel, ac mewn llawer o achosion nid yw’n cael diagnosis nes bydd rhywun yn torri asgwrn. Cost toresgyrn i’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yw dros £133 miliwn y flwyddyn, ond mae’r effaith ar unigolion a’u hanwyliaid yn “anfesuradwy”.
Mae’r nod yn glir: ‘Atal y torasgwrn breuder cyntaf, ond os ddim, sicrhau mai’r torasgwrn breuder cyntaf yw’r olaf’.
Beth allwch chi ei wneud i sicrhau iechyd eich esgyrn?
Mae’r esgyrn yn organau byw: Parchwch eich esgyn a gwnewch yn siŵr eich bod yn ymarfer corff yn ddiogel ac yn rheolaidd. Bwytewch ddeiet cytbwys ac iach sy’n llawn calsiwm a fitamin D, peidiwch ag ysmygu, a chyfyngwch alcohol i ddim mwy na’r terfyn cenedlaethol a argymhellir, sef 14 uned yr wythnos. Pan gewch chi gyfle dylech chi ddod i gysylltiad diogel â golau’r haul.
Os ydych chi’n cymryd meddyginiaeth osteoporosis ar bresgripsiwn, peidiwch â rhoi’r gorau i’w chymryd heb holi eich meddyg, nyrs neu fferyllydd a all gynnig dewisiadau eraill i chi. Mae dros hanner y cleifion yn rhoi’r gorau i gymryd meddyginiaethau asgwrn, ac mae hynny’n aml yn arwain at ddirywiad yn yr osteoporosis a’r perygl o fwy o doresgyrn. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy ar wefan y Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol (ROS) ac ar sianel YouTube Iechyd Esgyrn Cymru sy’n cynnwys fideos addysgol i gleifion a gweithwyr proffesiynol.
Pa gymorth all eich helpu i fyw’n dda gydag osteoporosis?
Mae GIG Cymru yn darparu Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn (FLS) sy’n ceisio canfod pob unigolyn dros 50 oed yn systematig sydd wedi cael ‘torasgwrn breuder’. Os cewch chi ddiagnosis o osteoporosis, byddwch yn cael cyngor ar ffordd o fyw i sicrhau iechyd esgyrn da, gwybodaeth am osteoporosis ac opsiynau triniaeth cyffuriau i gryfhau eich esgyrn.
Mae eich adborth yn bwysig
Dyma gyfle i chi ddweud eich dweud ynghylch sut gallai cymorth gwell gael ei gynnig i chi a’ch cymuned i’ch helpu i fyw’n dda gydag osteoporosis.
Anfonwch eich adborth i:
Dr Inder Singh, Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Esgyrn, Cymru
Ysbyty Ystrad Fawr, Ystrad Mynach, CF82 7GP
Neu llenwch y ffurflen ar-lein drwy ddefnyddio’r ddolen isod:
https://forms.office.com/e/r2h7ZWCsuv
Ein Cylchlythyr
Mae croeso i chi anfon y cylchlythyr hwn at eich cydweithwyr neu unrhyw un arall y gallai fod o ddiddordeb iddo.
Os ydych wedi derbyn y cylchlythyr gan drydydd parti, ac os hoffech i ni roi eich enw ar y rhestr ddosbarthu, cysylltwch â ni (manylion isod). Gallwn hefyd ddarparu copi caled o’r cylchlythyr, neu fersiwn print bras, dim ond i chi ofyn.
Cofiwch gysylltu â ni os ydych am i ni dynnu eich enw oddi ar ein rhestr ddosbarthu.
Eich sylwadau, adborth a storïau
Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw adborth ynglŷn â’n cylchlythyr, felly cofiwch gysylltu â ni i rannu eich barn neu i gynnig sylwadau.
Rydym hefyd yn croesawu awgrymiadau ynglŷn â chynnwys posibl ar gyfer y cylchlythyr, felly os oes gennych unrhyw wybodaeth y byddech yn hoffi i ni ei chynnwys mewn rhifyn yn y dyfodol, cofiwch gysylltu â ni.
Fformatau Hygyrch
Of hoffech dderbyn y cyhoeddiad hwn mewn fformat arall ac/neu iaith arall, cysylltwch â ni. Mae pob un o’n cyhoeddiadau hefyd ar gael i’w lawrlwytho a’u harchebu mewn nifer o fformatau gwahanol oddi ar ein gwefan.