Angen Help?
A book with the Commissioner's logo and the words Easy Read in English and Welsh on the front

Practisiau Meddygon Teulu Yng Nghymru – Canllaw Hawdd ei Ddeall i Bobl Hyn

i mewn Adnoddau, Hawdd i Ddeall

Wrth inni heneiddio, mae cael mynediad i bractisau meddygon teulu yn aml yn dod yn rhan amlycach o’n bywydau, a gall chwarae rhan bwysig yn ein helpu i aros yn iach ac yn annibynnol. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu gan bractisau meddygon teulu wedi newid yn fawr, ac mae pobl hŷn weithiau’n wynebu anawsterau wrth geisio cael mynediad at yr hyn sydd ei angen arnynt.

Dyna pam mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi’r canllaw defnyddiol hwn, sy’n rhoi gwybodaeth am:

  • Yr hyn y gallwch ei ddisgwyl gan eich practis meddyg teulu
  • Eich hawliau
  • Beth i’w wneud os ydych chi’n cael anawsterau

Mae’r canllaw hefyd yn darparu manylion a gwybodaeth gyswllt ar gyfer sefydliadau a all ddarparu cymorth a chefnogaeth os ydych yn ei chael hi’n anodd cael mynediad i’ch practis meddyg teulu, neu’r gwasanaethau sydd ar gael, neu os ydych yn pryderu nad yw eich hawliau’n cael eu cynnal. .

Fersiwn Hawdd i'w Ddeall

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges