Mae adroddiad newydd yn datgelu maint ac effaith tlodi ymhlith pobl hŷn yng Nghymru
Mae adroddiad newydd sy’n cael ei gyhoeddi heddiw gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn datgelu graddfa ac effaith tlodi ymysg pobl hŷn, ac mae’n galw am weithredu ar lefel Cymru a’r DU i ddarparu mwy o gymorth i unigolion sy’n cael trafferthion ariannol.
Mae’r adroddiad – Pobl hŷn a thlodi yng Nghymru – yn defnyddio geiriau pobl hŷn eu hunain, a gasglwyd drwy waith ymchwil ac ymgysylltu, er mwyn pwysleisio gwirioneddau tlodi yn ddiweddarach mewn bywyd, gan dynnu hefyd ar y data a’r ystadegau diweddaraf i ddangos pam fod angen gweithredu ar draws nifer o feysydd er mwyn atal y niwed sylweddol sy’n cael ei greu gan y mater hirsefydlog hwn.
Mae’r adroddiad yn dangos bob 1 o bob 6 o bobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tlodi erbyn hyn, gyda grwpiau penodol yn cael eu heffeithio’n fwy difrifol. Er enghraifft, mae 1 o bob 4 o fenywod sy’n byw ar eu pen eu hunain yn profi tlodi, ac amcangyfrifir bod bron hanner yr aelwydydd Du, Asiaidd ac Ethnig Leafrifol wedi’u heffeithio. Mae llawer mwy o bobl hŷn wedi canfod eu hunain mewn trafferthion hefyd oherwydd effaith yr argyfwng costau byw a’r cynnydd mewn prisiau, sydd wedi cael effaith benodol ar bobl sy’n byw ar incwm sefydlog.
Mae’r adroddiad yn disgrifio’r dewisiadau amhosibl y mae llawer o bobl hŷn yn cael eu gorfodi i’w gwneud yn eu bywydau bob dydd – gan amlygu bod 1 o bob 5 o bobl hŷn yng Nghymru wedi gorfod mynd heb wresogi, ac roedd chwarter ohonynt yn hepgor prydau bwyd neu’n bwyta llai – a’r canlyniadau difrifol y gall hyn ei gael ar iechyd a llesiant pobl.
Er enghraifft, mae amlygiad i oerfel yn effeithio ar ystod eang o gyflyrau iechyd ac mae hefyd yn cynyddu’r risg o hypothermia, a gall maeth gwael waethygu cyflyrau cronig fel diabetes, clefyd y galon ac arthritis.
Mae’r risgiau hyn yn arbennig o ddifrifol yn ystod y gaeaf, pan mae tywydd oer a deietau annigonol yn cyfrannu at gyfraddau marwolaeth sylweddol uwch ymhlith pobl hŷn, yn ogystal â chostau aruthrol, y gellir eu hosgoi i’r GIG – amcangyfrifir bod hyn dros £40 miliwn y flwyddyn.
Mae’r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru a’r DU i gyflawni ystod o gamau gweithredu i sicrhau bod pobl hŷn sy’n byw mewn tlodi yn cael eu cefnogi’n well:
- Mynd i’r afael ag ‘ymyl clogwyn’ y Credyd Pensiwn, sy’n golygu bod pobl ag incwm ychydig bunnoedd dros y trothwy cymhwyso yn colli allan ar gymorth sy’n werth miloedd o bunnoedd.
- Sefydlu Cronfa Gadernid ar gyfer pobl hŷn sy’n wynebu caledi ariannol difrifol nad ydynt yn gymwys i dderbyn mathau eraill o gymorth, fel y Credyd Pensiwn.
- Cynyddu’r buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni er mwyn lleihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan dlodi tanwydd.
- Darparu cyllid i awdurdodau lleol i’w galluogi i nodi’n rhagweithiol y bobl hŷn hynny a allai fod yn colli allan ar gymorth ariannol hollbwysig a’u hannog a’u cefnogi i hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo.
- Symleiddio’r broses o wneud cais, gyda ffocws penodol ar fynd i’r afael â’r stigma sy’n aml yn gysylltiedig â hawlio hawliadau ariannol.
Yn y tymor hwy, mae’r Comisiynydd hefyd am weld camau i archwilio a sefydlu pa lefel o incwm sydd ei hangen ar gyfer ymddeoliad urddasol sy’n galluogi pobl i fyw bywydau da a heneiddio’n dda. Dylid defnyddio hyn fel y sylfaen i greu system bensiwn gynaliadwy sy’n gwarantu incwm ymddeol digonol.
Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys argymhellion ar gyfer awdurdodau lleol, cwmnïau cyfleustodau a darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd sy’n canolbwyntio ar gynyddu’r cymorth sydd ar gael i bobl hŷn gan ehangu mentrau presennol (er enghraifft tariffau cymdeithasol) a datblygu arfer da arall yn y gymuned.
Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Rhian Bowen-Davies:
“Gyda’r sylw unwaith eto ar gyllid a chostau byw yr wythnos hon, gyda’r Canghellor ar fin cyflwyno ei chyllideb yn San Steffan, mae fy adroddiad yn atgof pwysig o realaeth bywyd unigolion sy’n byw mewn tlodi, sy’n effeithio ar 1 o bob 6 o bobl hŷn yn awr.
“Wrth i’r tywydd oeri, bydd pobl hŷn ledled Cymru yn poeni sut y byddant yn gallu talu’r biliau, ac mae’n bosibl y bydd llawer ohonynt yn gorfod dewis rhwng ‘gwresogi’ neu fwyta’, sy’n rhoi eu hiechyd a’u llesiant mewn perygl difrifol, rhywbeth sydd i weld wedi’i normaleiddio mewn cymdeithas yn anffodus erbyn hyn.
“Yn y dyddiau nesaf, byddwn yn sicr o glywed llawer am sut y gellid lleihau’r gwariant cyhoeddus, lle y gellir gwneud arbedion, y buddion o fuddsoddi mewn meysydd cymdeithasol allweddol.
“Ond mae’n debygol na fydd llawer o drafodaeth am y costau arwyddocaol sy’n cael eu creu gan dlodi, nid yn unig yn nhermau’r costau personol i unigolion, ond hefyd y costau i bwrs y wlad, a’r arbedion y gallai trechu tlodi eu cyflawni.
“Gwyddom, er enghraifft, bod cartrefi oer yn costio mwy na £40 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru, tra bod pobl sy’n byw mewn tlodi yn aml yn dibynnu mwy ar wasanaethau fel gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan arwain at gostau y gellid eu hosgoi.
“Gallai buddsoddi i drechu tlodi ddatgloi degau o filiynau o bunnoedd y gellid eu defnyddio i wella ein gwasanaethau cyhoeddus a’n cymunedau yma yng Nghymru.
“Felly yn y tymor byr, mae angen i ni weld mwy o gefnogaeth i bobl hŷn sy’n byw mewn tlodi neu sy’n cael trafferthion ariannol, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn gymwys ar hyn o bryd i gael mathau eraill o gefnogaeth.
“Mae hyn yn golygu gweithredu i’w gwneud yn haws i bobl hŷn hawlio’r gefnogaeth y mae ganddynt hawl iddi, ochr yn ochr â mynd i’r afael â’r stigma sy’n aml yn gysylltiedig â hawlio hawliau. Mae’n golygu diddymu ymyl clogwyn y Credyd Pensiwn, sy’n golygu bod pobl yn colli allan ar gefnogaeth a all fod werth miloedd o bunnoedd.
“Mae’n golygu gwella effeithlonrwydd ynni pobl yn sylweddol, ac mae hyn yn arbennig o bwysig o gofio bod gan Gymru rai o’r stoc tai hynaf yn Ewrop. Ac mae’n golygu sicrhau bod pobl hŷn sy’n wynebu caledi yn gallu cael gafael ar gymorth brys pan fyddant ei angen.
“Yn y tymor hwy, mae angen trafodaeth genedlaethol arnom am beth sy’n cyfrif fel incwm digonol a fyddai’n ein galluogi i fyw a heneiddio’n dda, a dylai hynny fod yn fan cychwyn ar gyfer creu system bensiwn gynaliadwy sy’n rhoi incwm digonol i bob un ohonom pan fyddwn yn ymddeol.
“Fel Comisiynydd, byddaf yn parhau i alw am gamau gweithredu pendant, cydgysylltiedig ar lefel genedlaethol a lleol i drechu tlodi, wedi’u hategu gan dystiolaeth gadarn sy’n seiliedig ar brofiadau bywyd pobl hŷn, er mwyn helpu i greu Cymru decach, iachach a mwy cynhwysol.”
Darllenwch adroddiad y Comisiynydd (PDF) Darllenwch adroddiad y Comisiynydd (HTML)