Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Heneiddio yng Nghymru: Safbwyntiau pobl hŷn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

i mewn Adnoddau

Heneiddio yng Nghymru – Safbwyntiau pobl hŷn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

Mae profiadau bywyd pobl hŷn Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru yn dal heb eu harchwilio’n ddigonol. Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith anghymesur ar bobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, gan gynnwys pobl hŷn, ac mae’r anghydraddoldebau a oedd yn bodoli eisoes wedi gwaethygu. Heb ffocws mwy penodol, mae pobl hŷn Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a’r materion sy’n effeithio ar eu bywydau yn anweledig.

Mewn ymateb i hyn, ceisiodd y Comisiynydd gasglu profiadau pobl hŷn Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig drwy weithio gyda’r sefydliadau a’r bobl y mae pobl yn ymgysylltu â nhw’n rheolaidd. Defnyddiodd y Comisiynydd rwydweithiau a dulliau ymgysylltu presennol i gysylltu â phobl hŷn (pobl 60 oed a hŷn) a gofynnodd i’r sefydliadau a’r unigolion hynny sy’n hwyluso ymgysylltu o’r fath gasglu’r adroddiadau personol neu’r profiadau bywyd o ran sut beth yw hi i bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig dyfu’n hŷn yng Nghymru.

Roedd pobl hŷn a gymerodd ran yn gallu penderfynu beth roedden nhw eisiau ei rannu fel rhan o’u ‘profiad bywyd’, ac ysgrifennwyd yr adroddiad hwn ar sail y canfyddiadau hyn.

Cyn cyhoeddi, trefnodd y Comisiynydd a’i thîm ddigwyddiadau ymgysylltu dilynol gyda’r sefydliadau a’r bobl hŷn a oedd wedi cymryd rhan, yn y fformat a oedd yn gweddu orau i’r grwpiau. Cynhaliwyd rhai o’r rhain fel digwyddiadau wyneb yn wyneb, tra bod sefydliadau eraill wedi derbyn fideo, neu adborth ysgrifenedig gan y Comisiynydd.

Roedd y camau dilynol hyn yn galluogi’r bobl hŷn a’r sefydliadau a wnaeth alluogi’r ymchwil i glywed canfyddiadau’r Comisiynydd a thrafod sut roedd yr adroddiad yn cofnodi eu safbwyntiau a’u profiadau. Yn ystod sesiynau dilynol wyneb yn wyneb, roedd gan bobl hŷn ddiddordeb yn yr hyn roedd yr ymchwil wedi’i ganfod, a’r camau y mae’r Comisiynydd wedi’u cymryd o ganlyniad, sydd, fel y nodir isod, yn cynnwys gwaith sy’n canolbwyntio ar allgáu digidol a mynediad at bractisau meddygon teulu, sy’n ddau fater allweddol a godwyd fel rhan o’r ymchwil hwn.

Darllenwch adroddiad y Comisiynydd

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges